Offerynnau Statudol Cymru
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Gwnaed
18 Awst 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 170(4)(a)(ii), (4)(a)(iii), (4)(b)(ii), (4)(b)(iii), (4)(b)(iv), (4)(b)(vi), (4)(b)(viii), (4)(b)(ix), (4)(b)(x), (4)(b)(xi), (7) ac (8) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 3, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2023.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984(2);
ystyr “Deddf 2022” (“the 2022 Act”) yw Deddf Diogelwch Adeiladau 2022.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae i ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1984 yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2022 i rym ar 5 Medi 2023—
(a)adran 32(1) a (4) (awdurdodau rheolaeth adeiladu) o ran Cymru, ac adran 32(3) at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 91ZD o Ddeddf 1984;
(b)o ran Cymru—
(i)adran 33 (rheoliadau adeiladu), at yr holl ddibenion sy’n weddill;
(ii)adrannau 34 a 35 (deiliaid dyletswyddau a dyletswyddau cyffredinol, a chymhwysedd y diwydiant);
(iii)adran 36 (cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn darfod etc), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 32 a 53A o Ddeddf 1984, a pharagraff 4A(6) o Atodlen 4 iddi;
(iv)adran 37 (penderfynu ar geisiadau penodol gan awdurdod cenedlaethol priodol), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 30A o Ddeddf 1984;
(v)adran 38 (cydymffurfedd a hysbysiadau stop), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 35B, 35C a 35D o Ddeddf 1984;
(vi)adran 39 (torri rheoliadau adeiladu), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 35 o Ddeddf 1984;
(vii)adran 41 (dirymu etc ddarpariaethau penodol a wneir o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972);
(viii)adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu)—
(aa)at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 58C, 58O, 58U, 58V, 58Z4 a 58Z5 o Ddeddf 1984;
(bb)at ddiben llunio a chyhoeddi dogfennau o dan adrannau 58F, 58H, 58R, 58T, 58Z a 58Z3 o Ddeddf 1984;
(cc)i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod adran 58Y yn Neddf 1984;
(ix)adran 44 (swyddogaethau nad ydynt yn arferadwy ond drwy arolygwyr cofrestredig adeiladu, neu gyda eu cyngor), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 46A a 54B o Ddeddf 1984;
(x)adran 46 (gwaith adeilad risg uwch: cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 52A a 55 o Ddeddf 1984;
(xi)adran 47 (gwaith adeilad risg uwch: cyrff cyhoeddus);
(xii)adrannau 49 i 52 (tystysgrifau planiau, canslo hysbysiad cychwynnol, hysbysiadau cychwynnol newydd a chasglu gwybodaeth), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 50, 52, 53, 53B, 53C a 53D o Ddeddf 1984, a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi;
(xiii)paragraffau Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 3 o Ddeddf 2022) a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn;
(xiv)adran 56 (apelau) (yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(ix) o Ddeddf 2022);
(xv)paragraff 30 o Atodlen 6 (apelau a phenderfyniadau eraill), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 101A o Ddeddf 1984;
(xvi)adran 57 (ffioedd a thaliadau).
3. O ran Cymru, daw adran 156 (diwygio Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005) ac eithrio is-adran (4) (ac is-adran (8) i’r graddau y mae’n ymwneud ag erthygl 22B o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005)(3) i rym ar 1 Hydref 2023.
4. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2022 i rym ar 1 Ionawr 2024—
(a)o ran Cymru, adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu), i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod Rhan 2A yn Neddf 1984 ac eithrio adrannau 58H i 58L, 58T i 58W, 58Y, 58Z1 i 58Z6 a 58Z8((4);
(b)adran 42, i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod adran 58Z10 yn Neddf 1984.
5. Mae ymgyngoriadau a ddechreuodd cyn 5 Medi 2023 o dan naill ai adran 14(7) neu (8) o Ddeddf 1984 yn bodloni’r gofynion ymgynghori yn yr is-adrannau hynny, fel y’u diwygir gan baragraff 17 o Atodlen 5 i Ddeddf 2022.
6. Nid yw’r diwygiadau i erthygl 32 o’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) a wneir gan adran 156(10)(b) ac (c) o Ddeddf 2022 yn gymwys i drosedd a gyflawnir cyn 1 Hydref 2023.
7. Rhwng 5 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023 mae cyfeiriadau at “regulatory authority” yn adran 58Y o Ddeddf 1984 i’w darllen fel pe bai adran 58A o Ddeddf 1984 mewn grym.
8. Er bod adran 106(3) o Ddeddf 1984 wedi ei hepgor gan baragraff 67 o Atodlen 5 i Ddeddf 2022, mae adran 106(3) yn parhau i fod yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo cais o dan y ddarpariaeth honno wedi ei wneud i lys ynadon cyn i’r diddymiad ddod i rym.
9. Er bod paragraffau 5 a 9 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 wedi eu hepgor (gan baragraff 83(3) a (7) o Atodlen 5 i Ddeddf 2022), mae unrhyw ddarpariaethau yn y rheoliadau a ganlyn (sydd mewn grym yn union cyn 5 Medi 2023) ac a wnaed o dan baragraff 5 neu 9 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 yn parhau i fod mewn grym ac maent yn gymwys fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 105B o Ddeddf 1984 a chaniateir iddynt gael eu hamrywio neu eu dirymu yn unol â hynny—
(a)Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010(5),
(b)Rheoliadau Adeiladu 2010(6), ac
(c)Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010(7).
10. Er bod paragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 wedi ei amnewid (gan baragraff 83(8) o Atodlen 5 i Ddeddf 2022), mae unrhyw ddarpariaethau yn y rheoliadau a ganlyn (sydd mewn grym yn union cyn 5 Medi 2023) ac a wnaed o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 yn parhau i fod mewn grym ac maent yn gymwys fel pe baent wedi eu gwneud o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 fel y’i hamnewidiwyd a chaniateir iddynt gael eu hamrywio neu eu dirymu yn unol â hynny—
(a)Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010,
(b)Rheoliadau Adeiladu 2010, ac
(c)Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
18 Awst 2023
Rheoliad 2(b)(xiii)
1. Paragraff 2.
2. Paragraff 3.
3. Paragraff 4(1) a 4(2).
4. Paragraff 5(1) a 5(2).
5. Paragraff 6.
6. Paragraff 9.
7. Paragraff 10.
8. Paragraff 11(1), 11(2) ac 11(3).
9. Paragraff 12(1) a 12(2).
10. Paragraff 13(1), 13(2), 13(5) a 13(6).
11. Paragraff 14(1), 14(2), 14(3)(b) a 14(4)(b).
12. Paragraff 15(1) i 15(5) a 15(9).
13. Paragraff 16.
14. Paragraff 17.
15. Paragraff 22(1) a 22(8).
16. Paragraff 40(1) a 40(3).
17. Paragraff 42(1) a 42(3).
18. Paragraff 46(1) a 46(2).
19. Paragraff 50.
20. Paragraff 51.
21. Paragraff 53.
22. Paragraff 55(1), 55(4)(a) a 55(6).
23. Paragraff 57(1) a 57(3).
24. Paragraff 67.
25. Paragraff 71.
26. Paragraff 74(1) a 74(2).
27. Paragraff 75.
28. Paragraff 76(1) a 76(3).
29. Paragraff 80, at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 125A o Ddeddf Adeiladu 1984.
30. Y diffiniadau o “appropriate court or tribunal”, “building control approval”, “building control authority” a “higher-risk building work” ym mharagraff 81(2).
31. Paragraff 82.
32. Paragraff 83(1), 83(2), 83(3) (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984), 83(7), 83(8) a 83(9).
33. Paragraff 84(1) a 84(3).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau Cychwyn hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (p. 30) (“Deddf 2022”).
Mae rheoliad 2 yn dwyn i rym ar 5 Medi 2023 y darpariaethau a bennir yn y rheoliad hwnnw ac yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn. Daw rhai o’r darpariaethau hynny i rym yn llawn, a daw eraill i rym at ddibenion cyfyngedig gwneud rheoliadau neu lunio a chyhoeddi dogfennau.
Mae rheoliad 3 yn dwyn i rym ddarpariaethau sy’n gwneud diwygiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ar 1 Hydref 2023.
Mae rheoliad 4 yn dwyn i rym ddarpariaethau sy’n ymwneud â’r gofrestr o arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu ar 1 Ionawr 2024 (er nad yw’r darpariaethau sy’n galluogi arolygwyr cofrestredig adeiladu a chymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu i ymgymryd â gweithgareddau yn dod i rym ar yr adeg hon).
Mae rheoliadau 5 a 6 yn gwneud darpariaethau trosiannol o ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed i’r gofynion ymgynghori yn adran 14 (ymgynghori ar reoliadau adeiladu) o Ddeddf Adeiladu 1984 (p. 55) (“Deddf 1984”) a diwygiadau a wnaed i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â dod i rym adran 58Y o Ddeddf Adeiladu 1984.
Mae rheoliadau 8, 9 a 10 yn gwneud darpariaethau arbed sy’n deillio o hepgor adran 106(3) o Ddeddf 1984, a pharagraffau 5 a 9 o Atodlen 1 iddi, ac amnewid paragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2022 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy reoliadau cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Rheoliadau hyn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2(2) ac Atodlen 1 | 28 Mehefin 2022 | 2022/561 (C. 28) |
Adran 31 (yn rhannol) | 9 Rhagfyr 2022 | 2022/1287 (Cy. 261) (C. 104) |
Adran 33 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2023 | 2023/362 (C. 15) |
Adran 48 | 28 Gorffennaf 2022 | 2022/774 (Cy. 169) (C. 47) |
Adran 55 | 9 Rhagfyr 2022 | O.S. 2022/1287 (Cy. 261) (C. 104) |
Adrannau 130 a 131 | 28 Mehefin 2022 | 2022/561 (C. 28) |
Adran 132 (at ddibenion gwneud rheoliadau) | 28 Mai 2022 | 2022/561 (C. 28) |
Adran 132 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 28 Mehefin 2022 | 2022/561 (C. 28) |
Atodlen 5, paragraffau 1, 77 (yn rhannol), 78 ac 81 (yn rhannol) | 9 Rhagfyr 2022 | 2022/1287 (Cy. 261) (C. 104) |
Nid yw pŵer Gweinidogion Cymru i bennu diwrnod ar gyfer dod i rym adran 42 o Ddeddf 2022 yn cynnwys adran 42 i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran newydd 58Z7. I’r graddau y mae adran 42 yn ymwneud ag adran newydd 58Z10 (ac adran newydd 58Z2) nid yw pŵer Gweinidogion Cymru i bennu diwrnod ar gyfer dod i rym yn gyfyngedig i fod o ran Cymru yn unig.