xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau ac Addasiadau i Awdurdodiadau) (Cymru) 2023.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b)yn gymwys o ran Cymru;
(c)yn dod i rym ar 26 Ebrill 2023.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliad 1829/2003” (“Regulation 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig;
ystyr “Rheoliad 1830/2003” (“Regulation 1830/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1830/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n ymwneud â’r gallu i olrhain a labelu organeddau a addaswyd yn enetig a’r gallu i olrhain cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 2001/18/EC(1);
ystyr “Penderfyniad 2009/770” (“Decision 2009/770”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2009/770/EC sy’n sefydlu fformatau adrodd safonol ar gyfer cyflwyno canlyniadau monitro rhyddhau yn fwriadol i’r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig, fel cynhyrchion neu mewn cynhyrchion, at ddiben eu rhoi ar y farchnad(2).
(2) Mae i ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Rheoliad 1829/2003 yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Rheoliad hwnnw.
EUR 2003/1830; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2019/90, 2019/778 a 2020/1421.
EUDN 2009/770, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/90. Diwygiwyd O.S. 2019/90 gan O.S. 2020/1421.