2023 Rhif 370 (Cy. 56) (C. 16)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 4) 2023

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 29(2) a (3)(a) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 20201, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 4) 2023.

2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Mawrth 20232

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Mawrth 2023—

a

adran 23(3);

b

Atodlen 2.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 20233

1

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2023—

a

adran 1;

b

adran 2;

c

adran 3;

d

adran 5;

e

adran 6;

f

adran 7;

g

adran 8;

h

adran 9;

i

adran 10;

j

adran 13;

k

adran 14;

l

adran 15;

m

adran 16;

n

adran 17;

o

adran 18;

p

adran 20;

q

adran 23(1) a (2);

r

adran 27;

s

paragraffau 6, 7 ac 8 o Atodlen 1;

t

Atodlen 3.

2

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2023, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—

a

adran 4;

b

adran 11.

Eluned MorganY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 29 Mawrth 2023—

a

adran 23(3) (dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedig);

b

Atodlen 2 (trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau).

Mae erthygl 3(1) o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2023—

a

adran 1 (trosolwg o’r Ddeddf hon);

b

adran 2 (ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau iechyd);

c

adran 3 (pryd y mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwys);

d

adran 5 (darparwyr gofal sylfaenol: dyletswydd i lunio adroddiad);

e

adran 6 (cyflenwi a chrynhoi adroddiad o dan adran 5);

f

adran 7 (Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adrodd);

g

adran 8 (cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7);

h

adran 9 (cyfrinachedd);

i

adran 10 (canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru);

j

adran 13 (amcan cyffredinol);

k

adran 14 (ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisi);

l

adran 15 (sylwadau i gyrff cyhoeddus);

m

adran 16 (gwasanaethau eirioli etc. mewn cysylltiad â chwynion am wasanaethau);

n

adran 17 (dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y Dinesydd);

o

adran 18 (dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i Gorff Llais y Dinesydd);

p

adran 20 (cydweithredu rhwng y Corff, awdurdodau lleol a chyrff y GIG);

q

adran 23(1) a (2) (dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedig);

r

adran 27 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);

s

paragraffau 6 (penodi’r aelod cyswllt), 7 (telerau aelodaeth gyswllt etc.) ac 8 (anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol) o Atodlen 1 (Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru);

t

Atodlen 3 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).

Mae erthygl 3(2) o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2023, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes wedi eu cychwyn—

a

adran 4 (gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd);

b

adran 11 (dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 24

8 Mawrth 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 26

8 Mawrth 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 12

1 Ebrill 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 19 (yn rhannol)

1 Ebrill 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 21

1 Ebrill 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 22

1 Ebrill 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Adran 4 (yn rhannol)

7 Mawrth 2023

2023/259 (Cy. 36) (C. 13)

Adran 11 (yn rhannol)

7 Mawrth 2023

2023/259 (Cy. 36) (C. 13)

Adran 25

7 Mawrth 2023

2023/259 (Cy. 36) (C. 13)

Adran 28

7 Mawrth 2023

2023/259 (Cy. 36) (C. 13)

Atodlen 1 (ac eithrio paragraffau 6, 7, 8 a 22 o’r Atodlen honno)

1 Ebrill 2022

2022/208 (Cy. 66) (C. 9)

Paragraff 22 o Atodlen 1

1 Hydref 2022

2022/996 (Cy. 212)2

Gweler hefyd adran 29(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2020 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).