2023 Rhif 299 (Cy. 44)
Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Atodol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2023
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 28(1)(a), (2) a (3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 20201.
Enwi a dod i rym1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Atodol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2023.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
3
Daw’r rheoliadau a ganlyn i rym ar 1 Gorffennaf 2023—
a
rheoliad 2,
b
rheoliad 9(5)(c), (e), (f) ac (g),
c
rheoliad 9(6)(c), (e), (f) ac (g),
d
rheoliad 9(7)(c).
Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 19862
1
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 19862 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 1 (telerau gwasanaeth), ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
2A
Code of practice on access to premises
A contractor must have regard to the code of practice on access to premises prepared and published by the Welsh Ministers under section 19(1) of the Health and Social Care (Quality and Engagement) (Wales) Act 2020 (“the 2020 Act”) (so far as the code is relevant) in exercising any function that relates to the provision of health services or social services (within the meaning of those terms in section 21 of the 2020 Act).
Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 19923
1
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 19923 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn lle rheoliad 32(1)(d)(ii) (cyflwyno dogfennau) rhodder—
ii
the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales (“the Body”) established under section 12(1) of the Health and Social Care (Quality and Engagement) (Wales) Act 2020 or any person acting on its behalf, by delivering it or sending it by post to the Body’s chief executive or board secretary at its principal office,
3
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8(b)(iv) (cyfansoddiad pwyllgorau disgyblu), ar ôl “Act” mewnosoder “or the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales, established under section 12(1) of the Health and Social Care (Quality and Engagement) (Wales) Act 2020”.
Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 20044
1
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 20044 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “CHC”.
3
Yn Atodlen 6, hepgorer paragraff 88 (mynd i fangre a’i harolygu gan aelodau o Gynghorau Iechyd Cymuned).
Diwygiadau i Reoliadau Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG (NHS Blood and Transplant) 20055
1
Mae Rheoliadau Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG (NHS Blood and Transplant) 20055 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “health service body”, ym mharagraff (a)—
a
hepgorer “or”, a
b
ar ôl “Community Health Council,” mewnosoder “or the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales, established under section 12(1) of the Health and Social Care (Quality and Engagement) (Wales) Act 2020,”.
Diwygiadau i Reoliadau Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS Business Services Authority) 20056
1
Mae Rheoliadau Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS Business Services Authority) 20056 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “health service body”, ym mharagraff (a)—
a
yn lle “or” rhodder “,”, a
b
ar ôl “Community Health Council,” mewnosoder “or the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales, established under section 12(1) of the Health and Social Care (Quality and Engagement) (Wales) Act 2020,”.
Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 20067
1
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 20067 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 3—
a
hepgorer paragraff 36 (ceisiadau gan Gynghorau Iechyd Cymuned am wybodaeth),
b
ym mharagraff 44(3) (mynd i fangre a’i harolygu gan y Bwrdd Iechyd Lleol) hepgorer “45 or” a “, members of a Community Health Council”, ac
c
hepgorer paragraff 45 (mynd i fangre a’i harolygu gan aelodau o Gynghorau Iechyd Cymuned).
Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 20068
1
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 20068 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 3—
a
hepgorer paragraff 37 (ceisiadau gan Gynghorau Iechyd Cymuned am wybodaeth),
b
ym mharagraff 44(3) (mynd i fangre a’i harolygu gan y Corff Perthnasol) hepgorer “45 or” a “, members of a Community Health Council”, ac
c
hepgorer paragraff 45 (mynd i fangre a’i harolygu gan aelodau o Gynghorau Iechyd Cymuned).
Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 20209
1
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 20209 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
a
hepgorer y diffiniad o “Cyngor Iechyd Cymuned”, a
b
yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “Corff Llais y Dinesydd” (“Citizen Voice Body”) yw Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru, a sefydlwyd o dan adran 12(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020;
3
Yn rheoliad 7(1)(h) (ymgynghori ar asesiadau o anghenion fferyllol), yn lle “unrhyw Gyngor Iechyd Cymuned ar gyfer ei ardal” rhodder “Corff Llais y Dinesydd”.
4
Yn Atodlen 3—
a
ym mharagraff 4(2)(c) (hysbysu ynghylch bwriad i wneud penderfyniad mewn cysylltiad ag ardaloedd rheoledig), yn lle “y Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer yr ardal” rhodder “Corff Llais y Dinesydd”, a
b
ym mharagraff 9(1)(e) (personau a chyrff sydd i’w hysbysu), yn lle “unrhyw Gyngor Iechyd Cymuned sy’n gwasanaethu ardal y Bwrdd Iechyd Lleol” rhodder “Corff Llais y Dinesydd”.
5
Yn Atodlen 5—
a
ym mharagraff 2(c)(ii) (corffori darpariaethau), yn lle “, a” rhodder “.”,
b
hepgorer paragraff 2(d) (corffori darpariaethau),
c
ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
2A
Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd
Rhaid i fferyllydd GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020).
d
hepgorer paragraff 28(3)(a)(vii) (llywodraethu clinigol),
e
ym mharagraff 28(3)(a)(viii) (llywodraethu clinigol) hepgorer “a”,
f
ym mharagraff 28(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol), ar ôl “Deddf Cydraddoldeb 2010,” mewnosoder “a”,
g
ar ôl paragraff 28(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol) mewnosoder—
x
gofyniad bod rhaid i’r fferyllydd GIG roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020),
6
Yn Atodlen 6—
a
ym mharagraff 1(c)(ii) (corffori darpariaethau), yn lle “, a” rhodder “.”,
b
hepgorer paragraff 1(d) (corffori darpariaethau),
c
ar ôl paragraff 1 mewnosoder—
1A
Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd
Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020).
d
hepgorer paragraff 17(3)(a)(vii) (llywodraethu clinigol),
e
ym mharagraff 17(3)(a)(viii) (llywodraethu clinigol) hepgorer “a”,
f
ym mharagraff 17(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol), ar ôl “Deddf Cydraddoldeb 2010,” mewnosoder “a”,
g
ar ôl paragraff 17(3)(a)(ix) (llywodraethu clinigol) mewnosoder—
x
gofyniad bod rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020),
7
Yn Atodlen 7—
a
ym mharagraff 2(c)(ii) (corffori darpariaethau), yn lle “, a” rhodder “.”,
b
hepgorer paragraff 2(d) (corffori darpariaethau),
c
ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
2A
Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd
Rhaid i feddyg sy’n darparu gwasanaethau fferyllol roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd sydd wedi ei lunio a’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o Ddeddf 2020).
Dirymiadau
10
Mae Gorchymyn Cyngor Iechyd Cymuned (Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu Cynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr) 200610 wedi ei ddirymu.
11
Mae Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 201011 wedi eu dirymu.
12
Mae Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 201012 wedi ei ddirymu.
13
1
Mae’r offerynnau a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen wedi eu dirymu.
2
Mae’r darpariaethau a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen wedi eu dirymu.
YR ATODLENDirymiadau ychwanegol
RHAN 1
1
Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 201513.
2
Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 201514.
3
Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 202015.
RHAN 2
4
Erthygl 85(2)(b) o Orchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Rhif 2) 200416.
5
Paragraff 13 o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Diwygiadau Canlyniadol) (Nyrsio a Bydwreigiaeth) 200417.
6
Paragraff 4 o Atodlen 2 i Orchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, Gwasanaethau Deintyddol Personol a Diddymu’r Bwrdd Ymarfer Deintyddol 200618.
7
Erthygl 2(a) o Orchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Pennu Awdurdodau Cymreig Perthnasol) 201119.
8
Erthyglau 6 a 7 o Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Newid Ardaloedd) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 201920.
9
Erthygl 6(6) o Orchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 200421.
10
Erthygl 3 o Orchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Awdurdodaeth a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 200622.
11
Paragraff 17 o’r Atodlen i Orchymyn Cyfeiriadau at Awdurdodau Iechyd 200723.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)