Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 292 (Cy. 43)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

9 Mawrth 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

10 Mawrth 2023

Yn dod i rym

1 Ebrill 2023

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) (Diwygio) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.

Diwygiadau i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015

2.—(1Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4 (ymgysylltu â’r sector preifat a’r trydydd sector)—

(a)yn lle’r pennawd, rhodder—

4.  Ymgysylltu â’r sector preifat, y trydydd sector a chyrff cyhoeddus;

(b)ym mharagraff (1), yn lle “neu unrhyw sefydliad trydydd sector sy’n ymwneud â, neu sy’n ymddiddori mewn,” rhodder “, unrhyw sefydliad trydydd sector neu unrhyw gorff cyhoeddus y maent yn credu ei fod yn ymwneud â” ac o flaen y geiriau “i’r boblogaeth leol” mewnosoder “, neu fod ganddo fuddiant mewn darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol,”;

(c)yn lle paragraff (2), rhodder—

(2) At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw corff (pa un a yw’n gorfforedig neu’n anghorfforedig) sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus. At ddiben y diffiniad hwn, mae swyddogaeth gyhoeddus yn swyddogaeth sy’n swyddogaeth o natur gyhoeddus at ddibenion Deddf Hawliau Dynol 1998(3);

mae i “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yr un ystyr ag yn adran 16(2) o’r Ddeddf(4)...

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

9 Mawrth 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015 (“y prif Reoliadau”), sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiadau poblogaeth.

Mae rheoliad 4 o’r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid i gyrff cyfrifol, wrth gynnal asesiad poblogaeth, ymgysylltu â sefydliadau sector preifat penodol neu sefydliadau trydydd sector penodol. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4 o’r prif Reoliadau fel bod rhaid i gyrff cyfrifol ymgysylltu hefyd ag unrhyw gorff cyhoeddus y maent yn credu ei fod yn ymwneud â darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, neu fod ganddo fuddiant mewn darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, i’r boblogaeth leol. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn mewnosod diffiniadau perthnasol at y dibenion hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(4)

Yn adran 16(2) o’r Ddeddf, ystyr “sefydliad trydydd sector” yw sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas.