2023 Rhif 292 (Cy. 43)
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 14(1) a (2) a 198(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) (Diwygio) 2023.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
Diwygiadau i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 20152
1
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 20152 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 4 (ymgysylltu â’r sector preifat a’r trydydd sector)—
a
yn lle’r pennawd, rhodder—
4
Ymgysylltu â’r sector preifat, y trydydd sector a chyrff cyhoeddus
b
ym mharagraff (1), yn lle “neu unrhyw sefydliad trydydd sector sy’n ymwneud â, neu sy’n ymddiddori mewn,” rhodder “, unrhyw sefydliad trydydd sector neu unrhyw gorff cyhoeddus y maent yn credu ei fod yn ymwneud â” ac o flaen y geiriau “i’r boblogaeth leol” mewnosoder “, neu fod ganddo fuddiant mewn darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol,”;
c
yn lle paragraff (2), rhodder—
2
At ddibenion y rheoliad hwn—
ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw corff (pa un a yw’n gorfforedig neu’n anghorfforedig) sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus. At ddiben y diffiniad hwn, mae swyddogaeth gyhoeddus yn swyddogaeth sy’n swyddogaeth o natur gyhoeddus at ddibenion Deddf Hawliau Dynol 19983;
mae i “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yr un ystyr ag yn adran 16(2) o’r Ddeddf4..
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)