Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 259 (Cy. 36) (C. 13)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 3) 2023

Gwnaed

6 Mawrth 2023

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 3) 2023.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 7 Mawrth 2023

2.—(1Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau, ar 7 Mawrth 2023—

(a)adran 4 (gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd); a

(b)adran 11 (dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill).

(2Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 7 Mawrth 2023—

(a)adran 25 (rheoliadau); a

(b)adran 28 (pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.).

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

6 Mawrth 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2(1) o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 7 Mawrth 2023, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben galluogi i reoliadau gael eu gwneud o dan y darpariaethau hynny—

(a)adran 4 (gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd); a

(b)adran 11 (dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill).

Mae erthygl 2(2) yn dwyn i rym adran 25 (rheoliadau) ac adran 28 (pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.) ar 7 Mawrth 2023.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 121 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 19 (yn rhannol)1 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 211 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 221 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 248 Mawrth 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 268 Mawrth 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Atodlen 1 (yn rhannol)1 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Paragraff 22 o Atodlen 11 Hydref 20222022/996 (Cy. 212)(2)

Gweler hefyd adran 29(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2020 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

(2)

Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn.