Offerynnau Statudol Cymru
2023 Rhif 253 (Cy. 33)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed
2 Mawrth 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymruu
6 Mawrth 2023
Yn dod i rym
1 Ebrill 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 12B(5) a (6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1).
Enwi a chychwynLL+C
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2023, gweler rhl. 1(2)
Diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015LL+C
2.—(1) Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 9 (Dosbarth 6), yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Mae’r dosbarth ar anheddau sydd wedi ei ragnodi at ddiben y rheoliad hwn (“Dosbarth 6”) wedi ei ffurfio o bob annedd y mae ei meddiannu wedi ei gyfyngu gan amod cynllunio sydd—
(a)yn atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau o leiaf mewn unrhyw gyfnod o un flwyddyn;
(b)yn pennu na chaniateir defnyddio’r annedd ond ar gyfer llety gwyliau; neu
(c)yn atal meddiannaeth fel unig neu brif breswylfa person.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2023, gweler rhl. 1(2)
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2023
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9 (Dosbarth 6) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015 er mwyn ychwanegu eiddo sy’n ddarostyngedig i amod cynllunio sy’n pennu na chaniateir defnyddio annedd ond ar gyfer llety gwyliau neu sy’n atal meddiannaeth o’r eiddo hwnnw fel unig neu brif breswylfa person fel dosbarth ar annedd na chaiff awdurdod bilio wneud penderfyniad i gymhwyso cyfradd uwch o dreth gyngor iddo.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1992 p. 14. Mewnosodwyd adran 12B o’r Ddeddf gan adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).
O.S. 2015/2068, a ddiwygiwyd gan baragraff 102(1) o Atodlen 3 i Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Rywiau Gwahanol) 2019 (O.S. 2019/1458).