2023 Rhif 1423 (Cy. 251)
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1)(b) a 15(4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811.
Enwi a dod i rym 1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2023.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Chwefror 2024.
Diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 2
Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 20102 wedi ei ddiwygio yn unol â’r Atodlen.
Darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol 3
Bydd unrhyw hysbysiad neu drwydded a ddyroddwyd, neu gymeradwyaeth neu ganiatâd a roddwyd, o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 ac sy’n cael effaith pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym, yn parhau mewn grym.
YR ATODLENDiwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010
1
Yn erthygl 2 (dehongli)—
a
yn y diffiniad o “map a adneuwyd”, yn lle “yw’r map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru” a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sy’n ddyddiedig 23 Mehefin 2017” rhodder “yw’r map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru a Lloegr” a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sy’n ddyddiedig 15 Rhagfyr 20233”;
b
yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “ardal risg uchel yn Lloegr” (“high-risk area in England”) yw’r holl dir sydd wedi ei arlliwio a’i nodi’n “Ardal Risg Uchel” ar y map a adneuwyd;”;
c
yn y diffiniad o “uned besgi drwyddedig”, ar ôl “arolygydd” mewnosoder “milfeddygol”;
d
yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “statws rhydd rhag twbercwlosis swyddogol” (“officially tuberculosis-free status”) yw’r statws sy’n deillio o fodloni’r amodau a bennir gan Weinidogion Cymru i alluogi masnachu gwartheg heb gyfyngiadau ar symud yn ymwneud â thwbercwlosis;”.
2
Yn erthygl 8 (hysbysu am glefyd mewn anifeiliaid buchol), ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
1A
Rhaid i berson, heblaw am y ceidwad, sy’n gwneud hysbysiad o dan baragraff (1) hysbysu’r ceidwad am ei amheuaeth hefyd.
3
Yn erthygl 13A (profion ar ôl symud)—
a
ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
2A
Pan symudir anifail buchol i’r ardal TB ganolradd o fuches a leolir yn—
a
yr ardal TB uchel,
b
yr ardal risg uchel yn Lloegr, neu
c
Gogledd Iwerddon,
rhaid i’r ceidwad sy’n cael yr anifail drefnu i brawf ar ôl symud gael ei gynnal arno gan filfeddyg cymeradwy ddim llai na 60 diwrnod, ond ddim mwy na 120 diwrnod, ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd yr anifail y fangre sy’n ei gael.
b
ym mharagraff (3), yn lle “paragraff (2)” rhodder “paragraffau (2) na (2A)”.
4
Yn erthygl 14 (cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
5
Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth am ba mor hir y mae buches wedi bod â statws rhydd rhag twbercwlosis swyddogol ar unrhyw ffurf y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas at ddibenion helpu personau eraill i ddiogelu rhag lledaeniad pellach twbercwlosis.
5
Yn erthygl 14A (unedau pesgi eithriedig ac unedau pesgi cymeradwy)—
a
yn y pennawd hepgorer “Unedau pesgi eithriedig ac”;
b
ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (a);
c
ym mharagraff (2), yn is-baragraff (b) hepgorer “uned besgi eithriedig neu’r”;
d
ym mharagraff (3) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”;
e
ym mharagraff (4) hepgorer “uned besgi eithriedig nac”;
f
ym mharagraff (5) hepgorer “uned besgi eithriedig nac”;
g
ym mharagraff (6) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”;
h
yn lle paragraff (7) rhodder—
7
Mae uned besgi yn Lloegr sydd wedi ei chymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol i gymryd anifeiliaid buchol sydd wedi eu symud heb brawf cyn symud yn uned besgi eithriedig at ddibenion y Gorchymyn hwn.
6
Yn erthygl 15 (gwaharddiadau)—
a
ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
2A
Ni chaiff unrhyw berson gymryd sampl o anifail buchol at ddiben rhoi diagnosis o dwbercwlosis heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru.
b
ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
6
Pan fo prawf perthnasol wedi ei gynnal ar anifail buchol, ni chaiff person, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, symud yr anifail hwnnw o’r fangre lle cynhaliwyd y prawf hyd nes bod canlyniad negatif wedi cael ei ddarllen gan arolygydd neu filfeddyg cymeradwy a hyd nes bod y ceidwad wedi cael gwybod am y canlyniad hwnnw.
7
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5 (unedau pesgi eithriedig ac unedau pesgi cymeradwy)—
a
yn y pennawd hepgorer “Unedau pesgi eithriedig ac”;
b
yn is-baragraff (1)(a) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”.
8
Yn Atodlen 2—
a
ym mharagraff 5 (symud i unedau pesgi eithriedig) hepgorer “a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A”;
b
hepgorer paragraff 8 (symud o fewn yr ardal TB isel neu ohoni).
9
Yn Atodlen 3—
a
ym mharagraff 3 (symud i unedau pesgi eithriedig) hepgorer “a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A”;
b
ar ôl paragraff 6 (symud i sioeau amaethyddol) mewnosoder—
6A
Symud anifail buchol i sioe amaethyddol yn yr ardal TB ganolradd, neu ddychwelyd anifail i’r ardal TB ganolradd o sioe amaethyddol y tu allan i’r ardal TB ganolradd, ar yr amod—
a
nad yw’r symud yn golygu aros am fwy na 24 awr neu letya’r anifail hwnnw ar faes y sioe, a
b
bod yr anifail naill ai’n mynd yn uniongyrchol o’r sioe i’w gigydda neu’n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y sioe.
c
yn lle paragraff 7 (symud o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel) rhodder—
Symud o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel 7
Symud anifail buchol o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel. Mae i “ardal risg isel” yr ystyr a roddir i “low-risk area” yn erthygl 2(1) o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 20214 ac Atodlen 1 iddo.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)