2023 Rhif 1303 (Cy. 233)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 105B(1), (2)(b) a (3) a 120A(2)(a) a (b) o Ddeddf Adeiladu 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 120C(1)2 o Ddeddf Adeiladu 1984, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Enwi, cymhwyso a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2024.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cynllun codi tâl” (“charging scheme”) yw cynllun a wneir o dan reoliad 4(1);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Adeiladu 1984;

  • ystyr “swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt” (“chargeable functions”) yw’r swyddogaethau a nodir yn rheoliad 3(2).

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (1), mae i eiriau ac ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf Adeiladu 1984 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno.

Swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt3

1

Caiff Gweinidogion Cymru adennill taliadau am gyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt.

2

Mae’r canlynol yn swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt—

a

penderfynu ar gais i gofrestru person yn arolygydd adeiladu a wneir o dan adran 58D o’r Ddeddf a chynnal y gofrestr o dan adran 58C o’r Ddeddf, gan gynnwys amrywio neu ganslo cofrestriad o dan adran 58E o’r Ddeddf;

b

penderfynu ar gais i gofrestru person yn gymeradwywr rheolaeth adeiladu a wneir o dan adran 58P o’r Ddeddf a chynnal y gofrestr o dan adran 58O o’r Ddeddf, gan gynnwys amrywio neu ganslo cofrestriad a dan adran 58Q o’r Ddeddf;

c

camau a gymerir o dan adran 58H(1) (ymchwiliadau camymddwyn proffesiynol) o’r Ddeddf;

d

camau a gymerir o dan adran 58T(1) (ymchwiliadau i achosion o dorri rheolau ymddygiad proffesiynol) o’r Ddeddf;

e

camau a gymerir o dan adran 58Z3(1) (ymchwiliadau i achosion o dorri rheolau safonau gweithredol) o’r Ddeddf;

f

unrhyw gam a gymerir sydd â’r bwriad o wneud y canlynol neu sydd mewn cysylltiad â gwneud y canlynol—

i

sicrhau cydymffurfedd â Rhan 2A o’r Ddeddf neu ofyniad a osodir oddi tani, neu

ii

gosod sancsiwn mewn cysylltiad ag achos o dorri Rhan 2A o’r Ddeddf neu ofyniad a osodir oddi tani;

g

unrhyw gam a gymerir er mwyn ymateb i apêl yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru a wneir o dan Ran 2A o’r Ddeddf;

h

arolygu awdurdod lleol neu gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu o dan adran 58Z8(1) o’r Ddeddf.

Cynllun codi tâl4

1

Rhaid i swm unrhyw dâl sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn gael ei bennu gan Weinidogion Cymru yn unol â chynllun a wneir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, gan gymryd un flwyddyn gydag un arall, fod y taliadau sy’n daladwy o dan y cynllun codi tâl i’r graddau y bo’n bosibl yn cyfateb i’r costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt wrth gyflawni’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt.

3

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cynllun codi tâl o bryd i’w gilydd.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cynllun codi tâl neu unrhyw ddiwygiadau i’r cynllun ar wefan Llywodraeth Cymru o leiaf 7 niwrnod cyn y dyddiad y mae’r cynllun neu’r diwygiad i gael effaith.

Taliadau ar gyfer awdurdodau lleol a’r proffesiwn rheolaeth adeiladu5

1

Rhaid i’r person sy’n gwneud y cais dalu’r tâl am gyflawni’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(a) a (b), fel y bo’n gymwys.

2

Rhaid i awdurdod lleol neu gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu, sy’n destun arolygiad o dan adran 58Z8 o’r Ddeddf, dalu’r taliadau sy’n deillio o gyflawni’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(h).

Taliadau am fonitro ac ymyrraeth reoleiddiol i sicrhau cydymffurfedd6

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i berson dalu’r taliadau sy’n deillio o gyflawni’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(c) i (f) os bydd gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu y gall y person fod yn torri Rhan 2A o’r Ddeddf neu ofyniad a osodir yn rhinwedd Rhan 2A, neu fod y person yn gwneud hynny neu wedi gwneud hynny.

2

Ni chaiff taliadau am gyflawni swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(c) i (f) gynnwys unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad troseddol neu erlyniad ac yr eir iddynt, yn y naill achos na’r llall, o’r dyddiad y caiff unrhyw wybodaeth ei gosod gan Weinidogion Cymru.

3

Pan fo taliadau yn daladwy o dan baragraff (1) gan berson sy’n gweithredu yn rhinwedd y ffaith ei fod yn gyflogai, rhaid i gyflogwr y person hwnnw dalu’r taliadau.

4

Nid oes tâl yn daladwy o dan baragraff (1) mewn perthynas ag ymchwiliad o dan adran 58H, 58T neu 58Z3 o’r Ddeddf gan—

a

arolygydd cofrestredig adeiladu os yw ymchwiliad Gweinidogion Cymru yn casglu nad yw wedi torri’r cod ymddygiad3 nac wedi bod yn euog o gamymddwyn proffesiynol4, na

b

cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu os yw ymchwiliad Gweinidogion Cymru yn casglu nad yw wedi torri’r rheolau ymddygiad proffesiynol5 na’r rheolau safonau gweithredol6.

Taliadau am apelau7

Rhaid i’r person sy’n gwneud yr apêl dalu’r taliadau am gyflawni’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(g)—

a

os bydd yn tynnu’r apêl yn ôl, neu

b

os bydd y llys ynadon yn cadarnhau penderfyniad Gweinidogion Cymru.

Talu taliadau8

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson dalu’r tâl am gyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth y gellir codi tâl amdani y mae’n atebol amdani o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn dyroddi iddynt y cais i dalu’r taliad hwnnw.

2

Rhaid i unrhyw gais i dalu taliadau o dan baragraff (1) gynnwys—

a

datganiad o’r gwaith a wnaed a’r costau y mae Gweinidogion Cymru wedi mynd iddynt,

b

datganiad o unrhyw waith a wnaed a’r costau y mae unrhyw berson wedi mynd iddynt am gyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth y gellir codi tâl amdani,

c

y cyfnod y mae’r datganiad gwaith o dan is-baragraff (a) yn berthnasol iddo, a

d

y ddarpariaeth yn y cynllun codi tâl y mae’r tâl wedi ei bennu oddi tani.

3

Pan fo—

a

cais yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru, a bod y cynllun codi tâl yn darparu ar gyfer talu tâl mewn perthynas â’r cais hwnnw ymlaen llaw, rhaid i’r person sy’n cyflwyno’r cais dalu’r tâl hwnnw pan fyddant yn cyflwyno’r cais;

b

hysbysiad neu gais yn cael ei anfon at Weinidogion Cymru, a bod y cynllun codi tâl yn darparu ar gyfer talu tâl ymlaen llaw mewn perthynas ag ef, rhaid i’r person sy’n anfon yr hysbysiad neu’r cais dalu’r tâl hwnnw pan fyddant yn anfon yr hysbysiad neu’r cais.

4

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod cyfanswm y taliadau am gyflawni swyddogaeth y gellir codi tâl amdani yn cael ei dalu cyn i Weinidogion Cymru gyflawni’r swyddogaeth y gellir codi tâl amdani neu ddyroddi hysbysiad o ganlyniad ei benderfyniad neu dystysgrif, fel y bo’n gymwys.

5

Caiff Gweinidogion Cymru ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, unrhyw dâl a delir.

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer adennill taliadau am gyflawni swyddogaethau ac mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 2A o Ddeddf Adeiladu 1984 (“Rhan 2A”). Mae Rhan 2A, sydd wedi ei mewnosod gan adran 42 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022, yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu a goruchwylio’r rheini sy’n arfer swyddogaethau rheolaeth adeiladu.

Mae rheoliad 3 yn awdurdodi Gweinidogion Cymru i adennill taliadau am y swyddogaethau neu mewn cysylltiad â’r swyddogaethau a restrir yn y rheoliad hwnnw (“swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt”).

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i swm unrhyw dâl gael ei bennu yn unol â chynllun codi tâl a wneir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. O dan y cynllun, rhaid i’r taliadau sy’n daladwy, i’r graddau y bo’n bosibl a chan gymryd un flwyddyn gydag un arall, adlewyrchu’r costau yr eir iddynt wrth ymgymryd â’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt. Mae darpariaeth wedi ei gwneud ar gyfer diwygio’r cynllun codi tâl ac ar gyfer cyhoeddi’r cynllun ac unrhyw ddiwygiadau.

Mae rheoliadau 5 i 7 yn pennu’r amgylchiadau y mae person penodol yn gyfrifol am dalu’r taliadau a bennir yn y rheoliadau hynny oddi tanynt.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â thalu ac adennill taliadau, gan gynnwys darpariaeth mewn perthynas ag amserlenni a datganiadau gwaith.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.