2023 Rhif 1290 (Cy. 228)
Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn1 drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 45AA(6), (7), (10) ac (11) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 19902, adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 19993 (“Deddf 1999”) ac adrannau 36(2), 39, 42, 45 a 52 i 55 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 20084 (“Deddf 2008”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf 1999 ac adrannau 59(3) a 60 o Ddeddf 20085.
Yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008 mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (sef y rheoleiddiwr at ddiben y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.
RHAN 1Cyflwyniad
Enwi, dod i rym a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2024.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “carafán” yr ystyr a roddir i “caravan” gan adran 75(5)(b) o Ddeddf 1990;
ystyr “cartonau a’u tebyg” (“cartons and similar”) yw pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr, sef deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapur-fwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig polythen neu bolypropylen dwysedd isel, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw;
mae “cyflwyno gwastraff i’w gasglu” (“presenting waste for collection”) yn cynnwys meddiannydd mangre yn mynd â gwastraff a reolir i fan casglu canoledig;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990;
mae i “eiddo domestig” yr ystyr a roddir i “domestic property” gan adran 75(5)(a) o Ddeddf 1990;
ystyr “ffrydiau gwastraff ailgylchadwy” (“recyclable waste streams”) yw—
- a
gwydr;
- b
cartonau a’u tebyg, metel a phlastig;
- c
papur a cherdyn;
- d
gwastraff bwyd;
- e
offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd;
- f
tecstilau nas gwerthwyd,
- a
y mae pob un ohonynt wedi ei ffurfio gan yr is-ffracsiynau gwastraff a restrir yn Atodlen 1, ac ystyr “ffrwd wastraff ailgylchadwy” yw pob ffrwd unigol a restrir ym mharagraffau (a) i (f);
mae i “gwastraff a reolir” yr ystyr a roddir i “controlled waste” gan adran 75(4) o Ddeddf 1990;
mae i “gwastraff bwyd” yr ystyr a roddir i “food waste” gan adran 34D(5) o Ddeddf 1990, ond nid yw’n cynnwys—
- a
sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy’n ffurfio deunydd Categori 1 fel y’i rhestrir yn Erthygl 8, neu ddeunydd Categori 2 fel y’i rhestrir yn Erthygl 9, o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid nas bwriedir i’w bwyta gan bobl9,
- b
gwastraff bwyd o fangre sy’n cynhyrchu llai na 5 cilogram o wastraff bwyd mewn saith niwrnod olynol, nac
- c
unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 200510 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath;
- a
nid yw “mangre” (“premises”) yn cynnwys eiddo domestig na charafán;
ystyr “nas gwerthwyd” (“unsold”) yw cynnyrch treulwyr nas defnyddiwyd, mewn ffatri, mangre fanwerthu, cyfanwerthwr, warws neu fangre arall, nad yw wedi ei werthu i dreuliwr neu sydd wedi ei werthu i dreuliwr a’i ddychwelyd gan dreuliwr;
ystyr “offer trydanol ac electronig” (“electrical and electronic equipment”) yw offer sy’n ddibynnol ar geryntau trydan neu feysydd electromagnetig er mwyn gweithio’n gywir ac offer ar gyfer cynhyrchu, trosglwyddo a mesur ceryntau a meysydd o’r fath ac a ddyluniwyd i’w defnyddio â graddiad foltedd nad yw’n fwy na 1,000 o foltiau ar gyfer cerrynt eiledol a 1,500 o foltiau ar gyfer cerrynt union;
ystyr “offer trydanol ac electronig gwastraff bach” (“small waste electrical and electronic equipment”) yw offer trydanol ac electronig sy’n dod o fewn un o’r categorïau o offer trydanol ac electronig a restrir yn Atodlen 3 i Reoliadau Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff 201311, ac eithrio eitemau sydd ag unrhyw ddimensiwn allanol sy’n fwy na 50 o gentimetrau;
ystyr “rheoleiddiwr” (“regulator”) yw Cyfoeth Naturiol Cymru.
RHAN 2Y Gofynion Gwahanu
Dyletswyddau mewn perthynas â chyflwyno gwastraff3
1
At ddibenion adran 45AA(4) o Ddeddf 1990, y gofynion gwahanu yw bod rhaid i bob ffrwd wastraff ailgylchadwy, fel gofyniad sylfaenol, gael ei chyflwyno i’w chasglu ar wahân i unrhyw ffrwd wastraff ailgylchadwy arall ac i fathau eraill o wastraff a reolir neu ddeunyddiau neu eitemau eraill.
2
Er gwaethaf rheoliad 3(1), caniateir i wastraff bwyd o fewn ei becynwaith gwreiddiol gael ei gyflwyno i’w gasglu o fewn ffrwd wastraff ailgylchadwy gwastraff bwyd ar yr amod nad yw’n rhesymol ymarferol i’r meddiannydd wahanu’r gwastraff bwyd o’i becynwaith gwreiddiol ac y bydd y gwastraff yn cael ei gludo i gyfleuster, a’i brosesu mewn cyfleuster, ar gyfer—
a
ei baratoi i’w ailddefnyddio, neu
b
ei ailgylchu.
3
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
a
meddiannydd ysbyty tan 6 Ebrill 2026;
b
gwastraff a reolir a gesglir gan awdurdod lleol o ran unrhyw briffordd berthnasol y mae gan awdurdod lleol ddyletswydd mewn cysylltiad â hi o dan adran 89(1)(a) o Ddeddf 1990 i sicrhau bod y tir, cyhyd ag y bo’n ymarferol, yn cael ei gadw’n glir o sbwriel a sorod;
c
gwastraff a reolir a gesglir gan brif awdurdod sbwriel o ran ei dir perthnasol y mae gan brif awdurdod sbwriel ddyletswydd mewn cysylltiad ag ef o dan adran 89(1)(c) o Ddeddf 1990 i sicrhau bod y tir, cyhyd ag y bo’n ymarferol, yn cael ei gadw’n glir o sbwriel a sorod.
4
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “ailgylchu” (“recycling”) yw unrhyw weithrediad adfer y mae deunyddiau gwastraff yn cael eu hailbrosesu drwyddo yn gynhyrchion, yn ddeunyddiau neu’n sylweddau pa un ai at y diben gwreiddiol neu at ddibenion eraill. Mae’n cynnwys ailbrosesu deunydd organig ond nid yw’n cynnwys adfer ynni ac ailbrosesu’n ddeunyddiau sydd i’w defnyddio fel tanwyddau neu ar gyfer gweithrediadau ôl-lenwi;
ystyr “paratoi i’w ailddefnyddio” (“preparation for re-use”) yw gweithrediadau adfer gwirio, glanhau neu atgyweirio, y mae cynhyrchion neu gydrannau cynhyrchion sydd wedi dod yn wastraff yn cael eu paratoi drwyddynt fel y gellir eu defnyddio drachefn at yr un diben y’u crëwyd ato heb unrhyw ragbrosesu;
mae i “prif awdurdod sbwriel”, “priffordd berthnasol” a “tir perthnasol” yr ystyron a roddir i “principal litter authority”, “relevant highway” a “relevant land”, yn y drefn honno, gan adran 86 o Ddeddf 1990;
mae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” gan adran 206(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200612.
Dyletswyddau mewn perthynas â chasglu gwastraff4
At ddibenion adran 45AA(1) a (2)(a) o Ddeddf 1990, y gofynion gwahanu yw bod rhaid i bob ffrwd wastraff ailgylchadwy sydd wedi ei chyflwyno ar wahân er mwyn ei chasglu o dan reoliad 3, fel gofyniad sylfaenol, gael ei chasglu ar wahân i unrhyw ffrwd wastraff ailgylchadwy arall ac i fathau eraill o wastraff a reolir neu ddeunyddiau neu eitemau eraill.
Dyletswyddau mewn perthynas â gwastraff sydd wedi ei gasglu5
1
At ddibenion adran 45AA(2)(b) o Ddeddf 1990, y gofynion gwahanu yw, pan fo gwastraff a reolir wedi ei gasglu ar wahân o fangre, na chaniateir i berson sy’n gweithredu yng nghwrs busnes sy’n cael y gwastraff hwnnw, sy’n ei gadw, sy’n ei drin neu sy’n ei gludo gymysgu’r gwastraff hwnnw ag unrhyw ffrwd wastraff ailgylchadwy arall na’i gymysgu â mathau eraill o wastraff neu ddeunyddiau neu eitemau eraill.
2
Yn y rheoliad hwn, mae i “person sy’n gweithredu yng nghwrs busnes” yr ystyr a roddir i “person acting in the course of a business” gan adran 45AA(3) o Ddeddf 1990.
RHAN 3Sancsiynau Sifil
Sancsiynau sifil6
Mae Atodlen 2 (sancsiynau sifil) yn gwneud darpariaeth ynghylch y sancsiynau sifil y caniateir eu gosod at ddiben gorfodi trosedd o dan adran 45AA(8) o Ddeddf 1990.
RHAN 4Diwygiadau i Ddeddf 1990 a Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011
Diwygio Deddf 1990: Cymru
7
Mae Deddf 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
8
Yn adran 46 (deiliadyddion ar gyfer gwastraff aelwydydd), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
5A
A requirement imposed on an occupier by a waste collection authority in Wales by a notice under this section does not apply so far as the requirement duplicates or conflicts with a requirement imposed on the occupier under section 45AA(4).
9
Yn adran 47 (deiliadyddion ar gyfer gwastraff masnachol neu ddiwydiannol), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
5A
A requirement imposed on an occupier by a waste collection authority in Wales by a notice under this section does not apply so far as the requirement duplicates or conflicts with a requirement imposed on the occupier under section 45AA(4).
Diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011: Cymru
10
Mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 201113 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
11
Yn rheoliad 13 (dyletswyddau mewn perthynas â chasglu gwastraff), o flaen paragraff (2) mewnosoder—
1A
In relation to Wales, paragraphs (2) to (4) apply in relation to the collection of waste from a domestic property or a caravan.
12
Yn rheoliad 14 (dyletswydd mewn perthynas â gwastraff sydd wedi ei gasglu), o flaen paragraff (1) mewnosoder—
A1
In relation to Wales, paragraphs (1) and (2) apply in relation to separately collected waste from a domestic property or a caravan.
13
Ar ôl rheoliad 15 (canllawiau) mewnosoder—
Interpretation: Wales15A
For the purposes of regulations 13 and 14, in relation to Wales—
“caravan” has the meaning given by section 75(5)(b) of the Environmental Protection Act 1990;
“domestic property” has the meaning given by section 75(5)(a) of the Environmental Protection Act 1990.
YR ATODLENNI
ATODLEN 1Is-ffracsiynau gwastraff sy’n ffurfio pob ffrwd wastraff ailgylchadwy
Gwydr
Jariau gwydr a ddefnyddir fel pecynwaith
Poteli gwydr a ddefnyddir fel pecynwaith
ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
Cartonau a’u tebyg, metel a phlastig
Cartonau a’u tebyg
Pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr, sef deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapur-fwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig polythen neu bolypropylen dwysedd isel, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw, yn gyfyngedig i’r canlynol:
Cartonau
Cwpanau diod papur sydd â haen blastig bolythen neu bolypropylen dwysedd isel
Cynwysyddion papur anhyblyg
ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
Metel
Aerosolau dur ac alwminiwm
Caeadau a chapiau jariau a photeli dur ac alwminiwm
Ffoil alwminiwm
Hambyrddau bwyd alwminiwm
Tiwbiau alwminiwm
Tuniau a chaniau dur ac alwminiwm
ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
Plastig
Pecynwaith plastig polyethylen tereffthalad amorffaidd a pholyethylen tereffthalad crisialog yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, caeadau anhyblyg a lled anhyblyg a chwpanau clir ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Pecynwaith plastig polypropylen a pholypropylen wedi ei ehangu yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, caeadau anhyblyg a lled anhyblyg a chwpanau clir ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Pecynwaith polyethylen dwysedd uchel a pholyethylen dwysedd isel yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, a chaeadau anhyblyg a lled anhyblyg ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Poteli plastig polyethylen tereffthalad amorffaidd ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Poteli, pympiau a thrigerau plastig polyethylen dwysedd uchel a pholyethylen dwysedd isel ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Poteli, pympiau a thrigerau plastig polypropylen ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Tiwbiau pecynwaith plastig polyethylen a pholypropylen ac eithrio:
pan fônt yn llai na 50x50mm;
pan fônt wedi cynnwys cynhyrchion a ddefnyddir mewn gwaith adeiladu;
pan fo ganddynt haen fetel, neu
pan fônt yn blastig amlfonomer
ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
Papur a cherdyn
Yr holl bapur a cherdyn ac eithrio:
Amlenni clustogog wedi eu leinio â pholyethylen
Cardiau crafu
Cwyr, silicon, papurau gwrthsaim
Derbynebau til
Llyfrau clawr caled
Papur a cherdyn sydd wedi eu halogi â bwyd, paent, olew neu saim
Papur a cherdyn sy’n cynnwys gliter neu ffoil
Papur a cherdyn wedi ei lamineiddio
Papur wal
Papur wedi ei ddarnio
Pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr, sef deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapur-fwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill hefyd, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw
Sticeri a nodiadau gludiog
Tyweli papur, hancesi papur, weipiau gwlyb, papur cegin
a chan eithrio hefyd unrhyw bapur neu gerdyn gwastraff sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw bapur neu gerdyn gwastraff sydd wedi eu halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
Gwastraff bwyd
Pob gwastraff bwyd (gweler y diffiniad o “gwastraff bwyd” yn rheoliad 2)
Offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd
Pob offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd (gweler y diffiniadau o “offer trydanol ac electronig gwastraff bach” ac “nas gwerthwyd” yn rheoliad 2), ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
Tecstilau nas gwerthwyd
Dillad
Pecynwaith sydd wedi ei wneud o decstilau
Tecstilau nad ydynt yn ddillad gan gynnwys carpedi a theils carped, tecstilau hamdden (fel pebyll a tharpolinau), matresi, rygiau, deunyddiau dodrefnu meddal (fel llenni, cynfasau gwely, blancedi, dwfes, clustogau, tyweli), isgarped
ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
ATODLEN 2Sancsiynau sifil
RHAN 1Cosbau ariannol penodedig
Gosod cosb ariannol benodedig1
1
Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar berson (“cosb ariannol benodedig”) mewn perthynas â throsedd o dan adran 45AA(8) o Ddeddf 1990.
2
Cyn gwneud hynny, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
3
Mae swm y gosb sydd i’w thalu i’r rheoleiddiwr wedi ei phennu yn y tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.
Hysbysiad o fwriad2
1
Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”) i’r person hwnnw.
2
Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
a
y seiliau dros y cynnig i osod y gosb;
b
swm y gosb;
c
datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad;
d
gwybodaeth am—
i
effaith y taliad rhyddhau hwnnw;
ii
yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
iii
ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).
Rhyddhau rhag atebolrwydd3
Caiff y gosb ei rhyddhau os yw person sy’n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad.
Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau4
Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol benodedig.
Cyflwyno hysbysiad terfynol5
1
Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol (“hysbysiad terfynol”) sy’n gosod cosb ariannol benodedig.
2
Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
3
Ni chaiff y rheoleiddiwr sy’n cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r drosedd.
Cynnwys hysbysiad terfynol6
Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—
a
y seiliau dros osod y gosb,
b
swm y gosb,
c
sut y caniateir talu,
d
y cyfnod o 56 o ddiwrnodau y mae rhaid talu o’i fewn,
e
manylion y disgowntiau am dalu’n gynnar a’r cosbau am dalu’n hwyr,
f
hawliau apelio, ac
g
canlyniadau peidio â thalu.
Disgownt am dalu’n gynnar7
Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo wedi cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw ryddhau hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol.
Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol8
1
Caiff y person sy’n cael hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
2
Y seiliau dros apelio yw—
a
bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
b
bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
c
bod y penderfyniad yn afresymol;
d
unrhyw reswm tebyg arall.
Peidio â thalu ar ôl 56 o ddiwrnodau (cosb am dalu’n hwyr)9
1
Rhaid i’r gosb gael ei thalu o fewn 56 o ddiwrnodau i gael hysbysiad terfynol.
2
Os na thelir y gosb o fewn 56 o ddiwrnodau cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.
3
Yn achos apêl mae’r gosb yn daladwy o fewn 28 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau cynyddir swm y gosb 50%.
Achosion troseddol10
1
Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—
a
ni chaniateir dechrau achos troseddol am y drosedd yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad, a
b
os yw’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.
2
Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.
RHAN 2Symiau cosb ariannol benodedig
Y toriad | Swm y gosb ariannol benodedig |
---|---|
Methu â chydymffurfio ag adran 45AA(2) o Ddeddf 1990, heb esgus rhesymol | £500 |
Methu â chydymffurfio ag adran 45AA(4) o Ddeddf 1990, heb esgus rhesymol | £300 |
RHAN 3Cosbau ariannol amrywiadwy
Gosod cosb ariannol amrywiadwy11
1
Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol ar berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu i’r rheoleiddiwr unrhyw swm a bennir gan y rheoleiddiwr (“cosb ariannol amrywiadwy”) mewn perthynas â throsedd o dan adran 45AA(8) o Ddeddf 1990.
2
Cyn gwneud hynny, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
3
Pan osodir cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas â throsedd—
a
y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod yn unig, a
b
sydd i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy (pa un a yw hefyd i’w chosbi drwy gyfnod o garchar ai peidio),
ni chaniateir i swm y gosb ariannol amrywiadwy fod yn fwy nag uchafswm y ddirwy honno (os oes uchafswm).
4
Cyn cyflwyno hysbysiad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o’r drosedd.
Hysbysiad o fwriad12
1
Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod cosb ariannol amrywiadwy ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”).
2
Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
a
y seiliau dros y cynnig i osod y gosb;
b
swm y gosb;
c
gwybodaeth am—
i
yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
ii
ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).
Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau13
Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol amrywiadwy.
Ymgymeriadau trydydd parti14
1
Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran y camau sydd i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno (“ymgymeriad trydydd parti”).
2
Rhaid i’r rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod ymgymeriad trydydd parti.
Cyflwyno hysbysiad terfynol15
1
Ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i osod y gosb ariannol amrywiadwy yn yr hysbysiad o fwriad ai peidio, gydag addasiadau neu hebddynt.
2
Rhaid i’r rheoleiddiwr ystyried unrhyw ymgymeriad trydydd parti a dderbynnir ganddo wrth benderfynu—
a
pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio, a
b
swm unrhyw gosb ariannol amrywiadwy a osodir ganddo.
3
Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod cosb ariannol amrywiadwy, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad sy’n ei gosod (“hysbysiad terfynol”) sy’n cydymffurfio â pharagraff 16.
4
Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
Cynnwys hysbysiad terfynol16
Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—
a
y seiliau dros osod y gosb,
b
swm y gosb,
c
sut y caniateir talu,
d
y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau,
e
hawliau apelio, ac
f
canlyniadau peidio â thalu.
Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol17
1
Caiff y person sy’n cael hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
2
Y seiliau dros apelio yw—
a
bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
b
bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
c
bod swm y gosb yn afresymol;
d
bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
e
unrhyw reswm tebyg arall.
Achosion troseddol18
1
Os—
a
gosodir cosb ariannol amrywiadwy ar unrhyw berson, neu
b
derbynnir ymgymeriad trydydd parti oddi wrth unrhyw berson,
ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
2
Mae’r achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn achos—
a
pan fo ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson,
b
pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw, ac
c
pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad trydydd parti.
3
Caniateir dechrau achos troseddol am droseddau y gellir eu rhoi ar brawf yn ddiannod y mae ymgymeriad trydydd parti yn is-baragraff (2) yn ymwneud â hwy ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad pan fydd y rheoleiddiwr yn hysbysu’r person bod y person wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.
RHAN 4Cosbau am beidio â chydymffurfio
Cosbau am beidio â chydymffurfio19
1
Os yw person yn methu â chydymffurfio ag ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw sy’n gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd, ni waeth a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd mewn cysylltiad â’r drosedd honno ai peidio.
2
Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau bodloni gweddill gofynion yr ymgymeriad trydydd parti.
3
Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno fod yn 100%, os yw’n briodol.
4
Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am—
a
y seiliau dros osod y gosb,
b
swm y gosb,
c
sut y caniateir talu,
d
y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau,
e
hawliau apelio,
f
canlyniadau peidio â thalu, ac
g
unrhyw amgylchiadau pan gaiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.
5
Os cyflawnir ymgymeriad trydydd parti cyn y terfyn amser ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.
Apelau yn erbyn cosbau am beidio â chydymffurfio20
1
Caiff person sy’n cael cosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei herbyn.
2
Y seiliau dros apelio yw—
a
bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
b
bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
c
bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;
d
bod swm y gosb yn afresymol;
e
unrhyw reswm tebyg arall.
RHAN 5Cyfuno sancsiynau
Cyfuno sancsiynau21
1
Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig os gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy ar y person hwnnw sy’n ymwneud â’r un weithred neu anweithred.
2
Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson os, mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred—
a
gosodwyd cosb ariannol benodedig ar y person hwnnw, neu
b
rhyddhawyd y person hwnnw rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig ar ôl cyflwyno hysbysiad o fwriad i osod y gosb honno.
RHAN 6Hysbysiad adennill cost gorfodaeth
Hysbysiadau adennill cost gorfodaeth22
1
Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill cost gorfodaeth”) i berson y gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy arno sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r costau y mae’r rheoleiddiwr wedi mynd iddynt mewn perthynas â gosod y gosb ariannol amrywiadwy hyd at yr adeg y’i gosodwyd.
2
Mae costau yn cynnwys yn benodol—
a
costau ymchwilio;
b
costau gweinyddu;
c
costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
3
Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gorfodaeth bennu—
a
y seiliau dros osod yr hysbysiad,
b
y swm y mae’n ofynnol ei dalu,
c
sut y caniateir talu,
d
y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau,
e
hawliau apelio, ac
f
canlyniadau peidio â thalu.
4
Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm.
5
Nid yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn agored i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.
Apelau yn erbyn hysbysiadau adennill cost gorfodaeth23
Caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau o dan baragraff 22(1) apelio—
a
yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau,
b
yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr o ran swm y costau hynny, neu
c
am unrhyw reswm tebyg arall.
2
Y seiliau dros apelio yw—
a
bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
b
bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
c
bod swm y costau yn afresymol;
d
bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
e
unrhyw reswm tebyg arall.
RHAN 7Gweinyddu ac apelau
Tynnu hysbysiad yn ôl neu ddiwygio hysbysiad24
Caiff y rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—
a
tynnu cosb ariannol benodedig yn ôl;
b
tynnu cosb ariannol amrywiadwy, cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad adennill cost gorfodaeth yn ôl neu leihau’r swm a bennir yn y gosb neu’r hysbysiad.
Canllawiau ar ddefnyddio sancsiynau sifil25
1
Pan fo’r Rheoliadau hyn yn rhoi pŵer i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil—
a
rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ar ei ddefnydd o’r sancsiwn;
b
yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy, rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol;
c
rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol;
d
rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.
2
Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—
a
ym mha amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,
b
ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb,
c
swm y gosb,
d
sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac
e
hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.
3
Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—
a
ym mha amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,
b
ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb,
c
y materion y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys person yn rhoi gwybod o’i wirfodd nad yw wedi cydymffurfio), a
d
hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.
Canllawiau ychwanegol26
Rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodaeth sy’n pennu—
a
ym mha amgylchiadau y maent yn debygol o gael eu gosod,
b
ym mha amgylchiadau na chaniateir eu gosod,
c
materion i’w hystyried wrth bennu’r swm o dan sylw, a
d
hawliau apelio.
Ymgynghori ar ganllawiau27
Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu unrhyw ganllawiau diwygiedig o dan y Rheoliadau hyn.
Cyhoeddi camau gorfodi28
1
Pan fo pŵer yn cael ei roi i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r rheoleiddiwr o bryd i’w gilydd gyhoeddi adroddiadau sy’n pennu—
a
yr achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt,
b
pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ynddynt yn sgil talu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd, ac
c
pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol amrywiadwy, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt.
2
Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.
3
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyhoeddi camau gorfodi yn amhriodol.
Adennill taliadau29
Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio a osodir o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.
Apelau30
1
Mae apêl o dan y Rheoliadau hyn yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (“y Tribiwnlys”).
2
Mewn unrhyw apêl pan fo cyflawni trosedd yn fater y mae’n ofynnol penderfynu arno, rhaid i’r rheoleiddiwr brofi’r drosedd honno yn ôl yr un baich profi a’r un safon brofi ag mewn erlyniad troseddol.
3
Mewn unrhyw achos arall rhaid i’r Tribiwnlys bennu’r safon brofi.
4
Mae pob hysbysiad wedi ei atal dros dro wrth aros i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
5
Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod cosb neu gyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn—
a
tynnu’r gosb neu’r hysbysiad yn ôl,
b
cadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad,
c
amrywio’r gosb neu’r hysbysiad,
d
cymryd unrhyw gamau y gallai’r rheoleiddiwr eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb neu’r hysbysiad, neu
e
anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at y rheoleiddiwr.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)