Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1288 (Cy. 226)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Tribiwnlysoedd Ac Ymchwiliadau, Cymru

Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Gwnaed

29 Tachwedd 2023

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 17(2) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023(1) (“Deddf 2023”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 59(3) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008(2) (“Deddf 2008”) ac maent wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag adran 60(1) a (2) o’r Ddeddf honno(3).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008, y bydd awdurdodau lleol (sef y rheoleiddiwr at ddibenion y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad, yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf 2023.

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2023.

(3Ac eithrio pan fo’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i’r gwrthwyneb, mae i dermau Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i dermau Saesneg a ddiffinnir yn Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 yr un ystyr â’r termau hynny yn y Rheoliadau hyn.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ar gyfer ardal yng Nghymru;

ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act” ) yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023;

ystyr “person” (“person”) yw’r disgrifiadau o berson a nodir yn adran 5(2) (y drosedd o gyflenwi cynhyrchion plastig untro gwaharddedig) o Ddeddf 2023 ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

Y Rheoleiddiwr

2.  Awdurdod lleol yw’r rheoleiddiwr at ddibenion y Rheoliadau hyn.

RHAN 2Sancsiynau sifil, hysbysiadau ac ymgymeriadau

Sancsiynau sifil, hysbysiadau ac ymgymeriadau

3.—(1Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cosbau ariannol penodedig.

(2Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau cydymffurfio ac ymgymeriadau trydydd parti.

(3Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysiadau stop.

(4Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymgymeriadau gorfodi.

Cwmpas

4.  Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â throsedd o dan adran 5 (y drosedd o gyflenwi cynhyrchion plastig untro gwaharddedig) o Ddeddf 2023.

Cyfuno sancsiynau

5.—(1Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig os gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy ar y person hwnnw neu os cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop i’r person hwnnw sy’n ymwneud â’r un weithred neu anweithred.

(2Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio, na chyflwyno hysbysiad stop, i unrhyw berson os, mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred—

(a)gosodwyd cosb ariannol benodedig ar y person hwnnw, neu

(b)rhyddhawyd y person hwnnw rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig ar ôl cyflwyno hysbysiad o fwriad i osod y gosb honno.

RHAN 3Peidio â chydymffurfio a gorfodi

Adennill taliadau

6.  Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.

Cosbau am beidio â chydymffurfio

7.—(1Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw sy’n gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd ni waeth a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd mewn cysylltiad â’r drosedd honno.

(2Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau bodloni gweddill gofynion yr hysbysiad neu’r ymgymeriad trydydd parti.

(3Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno fod yn 100%, os yw’n briodol.

(4Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod y gosb am beidio â chydymffurfio;

(b)y swm sydd i’w dalu;

(c)sut y mae rhaid talu;

(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau;

(e)yr hawl i apelio;

(f)canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod penodedig;

(g)unrhyw amgylchiadau pan gaiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.

(5Os bodlonir gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu os cyflawnir ymgymeriad trydydd parti cyn y terfyn amser ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.

(6Caiff y person y cyflwynir iddo’r hysbysiad sy’n gosod y gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.

(7Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;

(d)bod swm y gosb yn afresymol;

(e)unrhyw reswm tebyg arall.

Hysbysiadau adennill cost gorfodaeth

8.—(1Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill cost gorfodaeth”) i berson y cyflwynwyd hysbysiad cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop iddo sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r costau y mae’r rheoleiddiwr wedi mynd iddynt mewn perthynas â gosod yr hysbysiad hwnnw hyd at yr adeg y’i gosodwyd.

(2Mae costau yn cynnwys yn benodol—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau cael gafael ar gyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(3Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gorfodaeth bennu—

(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad;

(b)y swm y mae’n ofynnol ei dalu;

(c)sut y mae rhaid talu;

(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau;

(e)yr hawl i apelio; ac

(f)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y cyfnod penodedig.

(4Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm.

(5Nid yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn agored i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.

(6Caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau apelio—

(a)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau;

(b)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr o ran swm y costau hynny; neu

(c)am unrhyw reswm tebyg arall.

RHAN 4Gweinyddu

Tynnu hysbysiad yn ôl neu ddiwygio hysbysiad

9.  Caiff y rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—

(a)tynnu hysbysiad cosb ariannol benodedig yn ôl;

(b)tynnu hysbysiad cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad adennill cost gorfodaeth yn ôl neu leihau’r swm a bennir yn yr hysbysiad;

(c)tynnu hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop yn ôl neu ddiwygio’r camau a bennir yn yr hysbysiad er mwyn lleihau faint o waith sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.

Apelau

10.—(1Mae apêl o dan y Rheoliadau hyn yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

(2Mewn unrhyw apêl (ac eithrio mewn perthynas â hysbysiad stop) pan fo cyflawni trosedd yn fater y mae’n ofynnol penderfynu arno, rhaid i’r rheoleiddiwr brofi’r drosedd honno yn ôl yr un baich profi a’r un safon brofi ag mewn erlyniad troseddol.

(3Mewn unrhyw achos arall rhaid i’r Tribiwnlys bennu’r safon brofi.

(4Mae pob hysbysiad (ac eithrio hysbysiadau stop) wedi ei atal dros dro wrth aros am apêl.

(5Caiff y Tribiwnlys atal dros dro neu amrywio hysbysiad stop.

(6Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad—

(a)tynnu’r gofyniad neu’r hysbysiad yn ôl;

(b)cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(c)amrywio’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(d)cymryd unrhyw gamau y gallai’r rheoleiddiwr eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gofyniad neu’r hysbysiad;

(e)anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, i’r rheoleiddiwr.

Canllawiau ar ddefnyddio sancsiynau sifil

11.—(1Pan fo pŵer i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â throsedd yn cael ei roi i’r rheoleiddiwr yn y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ar ei ddefnydd o’r sancsiwn;

(b)yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol;

(c)rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol;

(d)rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.

(2Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) yw gwybodaeth am—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod;

(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei gosod;

(c)swm y gosb;

(d)sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw; ac

(e)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.

(3Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) yw gwybodaeth am—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r gofyniad yn debygol o gael ei osod;

(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei osod;

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys person yn rhoi gwybod o’i wirfodd nad yw wedi cydymffurfio); a

(d)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.

(4Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â hysbysiad stop, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) yw gwybodaeth am—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o gyflwyno’r hysbysiad;

(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei osod; ac

(c)hawliau apelio.

Canllawiau ychwanegol

12.  Rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodaeth sy’n pennu—

(a)o dan ba amgylchiadau y maent yn debygol o gael eu gosod;

(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir eu gosod;

(c)materion i’w hystyried wrth bennu’r swm o dan sylw;

(d)hawliau apelio.

Ymgynghori ar ganllawiau

13.  Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu unrhyw ganllawiau diwygiedig o dan y Rheoliadau hyn.

Cyhoeddi camau gorfodi

14.—(1Pa fo pŵer yn cael ei roi i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â throsedd, rhaid i’r rheoleiddiwr o bryd i’w gilydd gyhoeddi adroddiadau sy’n pennu—

(a)yr achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt;

(b)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ynddynt yn sgil talu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd;

(c)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol amrywiadwy neu’n hysbysiad cydymffurfio, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt;

(d)achosion yr ymrwymwyd i ymgymeriad gorfodi ynddynt.

(2Ym mharagraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.

(3Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyhoeddi camau gorfodi yn amhriodol.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

29 Tachwedd 2023

Rheoliad 3

ATODLEN 1Cosbau ariannol penodedig

Pŵer i osod cosb ariannol benodedig

1.—(1Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar berson mewn perthynas â throsedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023.

(2Cyn gwneud hynny rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.

(3Swm y gosb sydd i’w thalu i’r rheoleiddiwr fel cosb ariannol benodedig yw £200.

Hysbysiad o fwriad

2.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”) i’r person hwnnw.

(2Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)y seiliau dros y cynnig i osod y gosb ariannol benodedig;

(b)swm y gosb;

(c)datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad;

(d)gwybodaeth am—

(i)effaith y taliad rhyddhau hwnnw;

(ii)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;

(iii)o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gofyniad (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).

Rhyddhad rhag atebolrwydd

3.  Caiff y gosb ei rhyddhau os yw person sy’n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad.

Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau

4.  Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol benodedig.

Cyflwyno hysbysiad terfynol

5.—(1Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol sy’n gosod cosb ariannol benodedig.

(2Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

(3Ni chaiff rheoleiddiwr sy’n cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r drosedd.

Cynnwys hysbysiad terfynol

6.  Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—

(a)swm y gosb;

(b)y seiliau dros osod y gosb;

(c)sut y caniateir talu;

(d)y cyfnod o 56 o ddiwrnodau y mae rhaid talu o’i fewn;

(e)manylion y disgowntiau am dalu’n gynnar a’r cosbau am dalu’n hwyr;

(f)hawliau apelio; ac

(g)canlyniadau peidio â thalu.

Disgownt am dalu’n gynnar

7.  Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo wedi cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw ryddhau’r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol.

Seiliau dros apelio

8.—(1Caiff y person sy’n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)unrhyw reswm tebyg arall.

Peidio â thalu ar ôl 56 o ddiwrnodau

9.—(1Rhaid i’r gosb gael ei thalu o fewn 56 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad terfynol.

(2Os na thelir y gosb o fewn 56 o ddiwrnodau cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.

(3Yn achos apêl mae’n daladwy o fewn 28 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau cynyddir swm y gosb 50%.

Achosion troseddol

10.—(1Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—

(a)ni chaniateir dechrau achos troseddol am y drosedd yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad, a

(b)os yw’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.

(2Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.

Rheoliad 3

ATODLEN 2Cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau cydymffurfio ac ymgymeriadau trydydd parti

Gosod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio

1.—(1Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod—

(a)gofyniad i dalu cosb ariannol i’r rheoleiddiwr o unrhyw swm y caiff y rheoleiddiwr ei ganfod (“cosb ariannol amrywiadwy”);

(b)gofyniad i gymryd unrhyw gamau y caiff y rheoleiddiwr eu pennu, o fewn unrhyw gyfnod y caiff ei bennu, er mwyn sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu nad yw’n digwydd eto (“hysbysiad cydymffurfio”);

neu gyfuniad o’r gofynion hyn, mewn perthynas â throsedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023.

(2Cyn gwneud hynny rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.

(3Ni chaniateir gosod gofyniad o dan y paragraff hwn ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

(4Cyn cyflwyno hysbysiad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o’r drosedd.

Hysbysiad o fwriad

2.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod gofyniad ar berson o dan yr Atodlen hon, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”).

(2Yn achos hysbysiad cydymffurfio arfaethedig rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)y seiliau dros yr hysbysiad arfaethedig;

(b)gofyniad yr hysbysiad;

(c)gwybodaeth am—

(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;

(ii)o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod yr hysbysiad (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).

(3Yn achos cosb ariannol amrywiadwy arfaethedig rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)y seiliau dros osod y gosb ariannol amrywiadwy;

(b)swm y gosb,

(c)gwybodaeth am—

(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;

(ii)o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).

Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau

3.  Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo o fewn 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio.

Ymgymeriadau trydydd parti

4.—(1Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran y camau sydd i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno (“ymgymeriad trydydd parti”).

(2Caiff y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod ymgymeriad trydydd parti o’r fath.

Hysbysiad terfynol

5.—(1Ar ôl i’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ddod i ben, rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai—

(a)i osod y gofynion yn yr hysbysiad o fwriad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu

(b)i osod unrhyw ofyniad arall y mae gan y rheoleiddiwr bŵer i’w osod o dan yr Atodlen hon.

(2Wrth wneud ei benderfyniad, rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i unrhyw ymgymeriad trydydd parti a dderbyniwyd ganddo.

(3Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 6 neu 7.

(4Ni chaiff y rheoleiddiwr osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

Cynnwys hysbysiad terfynol – cosb ariannol amrywiadwy

6.  Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod y gosb;

(b)y swm sydd i’w dalu;

(c)sut y caniateir talu;

(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau;

(e)hawliau apelio; ac

(f)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Cynnwys hysbysiad terfynol – hysbysiad cydymffurfio

7.  Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad;

(b)pa gamau cydymffurfio sy’n ofynnol ac o fewn pa gyfnod y mae rhaid eu cymryd;

(c)yr hawliau apelio; a

(d)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol

8.—(1Caiff y person sy’n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, fod swm y gosb yn afresymol;

(d)yn achos hysbysiad cydymffurfio, fod natur y gofyniad yn afresymol;

(e)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(f)unrhyw reswm tebyg arall.

Achosion troseddol

9.—(1Os—

(a)gosodir cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio ar unrhyw berson, neu

(b)derbynnir ymgymeriad trydydd parti oddi wrth unrhyw berson,

ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy, yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).

(2Mae’r achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn achos—

(a)pan fo hysbysiad cydymffurfio yn cael ei osod ar berson neu pan fo ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson,

(b)pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw, ac

(c)pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.

(3Caniateir dechrau achos troseddol am drosedd y mae hysbysiad neu ymgymeriad yn is-baragraff (2) yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad pan fydd y rheoleiddiwr yn hysbysu’r person bod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r hysbysiad neu’r ymgymeriad hwnnw.

Rheoliad 3

ATODLEN 3Hysbysiadau stop

Hysbysiadau stop

1.—(1Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson yn unol â’r Atodlen hon mewn perthynas â throsedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023.

(2Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad stop ond mewn achos sydd o fewn is-baragraff (3) neu (4).

(3Mae achos sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn achos—

(a)pan fo’r person yn ymgymryd â’r gweithgarwch,

(b)pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgarwch fel y mae’r person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn achosi niwed difrifol i unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), neu’n peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath, ac

(c)pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgarwch fel y mae’r person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023 gan y person hwnnw.

(4Mae achos sy’n dod o fewn yr is-baragraff hwn yn achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol—

(a)bod y person yn debygol o ymgymryd â’r gweithgarwch,

(b)y bydd y gweithgarwch fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw’n ymgymryd ag ef yn achosi niwed sylweddol i unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), neu y bydd yn peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath, ac

(c)y bydd y gweithgarwch fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw’n ymgymryd ag ef yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023 gan y person hwnnw.

(5Y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (3)(b) a (4)(b) yw—

(a)iechyd dynol,

(b)yr amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid a phlanhigion).

Cynnwys hysbysiad stop

2.  Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad stop;

(b)y camau y mae rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop;

(c)hawliau apelio; a

(d)canlyniadau peidio â chydymffurfio.

Apelau

3.—(1Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;

(e)nad yw’r person wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

(f)na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

(g)unrhyw reswm tebyg arall.

Tystysgrifau cwblhau

4.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, wedi ei fodloni bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).

(2Mae’r hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.

(3Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo wneud cais am dystysgrif gwblhau ar unrhyw adeg.

(4Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau o fewn 14 o ddiwrnodau i gais o’r fath.

(5Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y sail bod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm tebyg arall.

Digollediad

5.—(1Rhaid i’r rheoleiddiwr ddigolledu person am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau os yw’r person hwnnw wedi dioddef colled o ganlyniad i’r hysbysiad neu’r gwrthodiad ac—

(a)bod yr hysbysiad stop yn cael ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio wedi hynny gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol;

(b)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol; neu

(c)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.

(2Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu benderfyniad ynghylch swm y digollediad—

(a)ar y sail bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;

(b)ar y sail bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar wallau ffeithiol;

(c)am unrhyw reswm tebyg arall.

Troseddau

6.  Pan na fo person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy, neu i ddedfryd o garchar am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cyffredinol mewn llys ynadon, neu’r ddau, neu

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddedfryd o garchar am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu’r ddau.

Rheoliad 3

ATODLEN 4Ymgymeriadau gorfodi

Ymgymeriadau gorfodi

1.  Caiff y rheoleiddiwr dderbyn ymgymeriad gorfodi gan berson mewn achos pan fo gan y rheoleiddiwr sail resymol dros amau bod y person wedi cyflawni trosedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023.

Ffurf a chynnwys ymgymeriad gorfodi

2.—(1Rhaid i ymgymeriad gorfodi fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—

(a)camau i sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau nac yn digwydd eto,

(b)camau i sicrhau bod y sefyllfa, i’r graddau y bo’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn a fyddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni,

(c)camau (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno, neu

(d)pan na fo’n bosibl adfer y niwed sy’n deillio o’r drosedd, gamau a fydd yn sicrhau budd cyfatebol neu welliant i’r amgylchedd.

(2Rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae rhaid cymryd y camau.

(3Rhaid iddo gynnwys—

(a)datganiad bod yr ymgymeriad wedi ei wneud yn unol â’r Atodlen hon;

(b)telerau’r ymgymeriad;

(c)sut a phryd yr ystyrir bod person wedi cyflawni’r ymgymeriad.

(4Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodi, neu ymestyn y cyfnod y mae rhaid cymryd y camau o’i fewn, os yw’r ddau barti yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.

Derbyn ymgymeriad gorfodi

3.  Os yw’r rheoleiddiwr wedi derbyn ymgymeriad gorfodi, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad neu unrhyw ran ohono—

(a)ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r ymgymeriad yn ymwneud â hi;

(b)ni chaiff y rheoleiddiwr osod unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy nac unrhyw hysbysiad cydymffurfio ar y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred honno.

Darpariaethau cyffredinol ar ymgymeriadau gorfodi

4.—(1Rhaid i’r rheoleiddiwr sefydlu a chyhoeddi’r weithdrefn ar gyfer ymrwymo i ymgymeriad gorfodi.

(2Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn gwneud hynny.

(3Pan fydd yn derbyn ymgymeriad caiff y rheoleiddiwr ei gyhoeddi ym mha bynnag fodd y gwêl yn dda.

Cyflawni ymgymeriad gorfodi

5.—(1Rhaid i reoleiddiwr sydd wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd ag ymgymeriad gorfodi ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw.

(2Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad.

(3Caiff y person a roddodd yr ymgymeriad wneud cais am dystysgrif o’r fath ar unrhyw adeg.

(4Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif o’r fath, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau i gais o’r fath.

(5Caiff y person y rhoddir yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif ar y sail bod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm tebyg arall.

Gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol

6.—(1Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodi i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.

(2Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif a ddyroddwyd o dan baragraff 5 os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol.

Peidio â chydymffurfio ag ymrwymiad gorfodi

7.—(1Os na chydymffurfir ag ymgymeriad gorfodi, caiff y rheoleiddiwr naill ai—

(a)cyflwyno hysbysiad cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio, neu

(b)cychwyn achos troseddol

mewn cysylltiad â’r drosedd.

(2Os yw person wedi cydymffurfio’n rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu unrhyw sancsiwn arall ar y person.

(3Caniateir cychwyn achos troseddol am y drosedd y mae ymgymeriad gorfodi yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad y mae’r rheoleiddiwr yn hysbysu’r person bod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 17 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023. Maent yn galluogi awdurdod lleol, fel y rheoleiddiwr, i osod sancsiynau sifil mewn perthynas â’r drosedd o dan adran 5 o’r Ddeddf honno.

Y sancsiynau sifil yw cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau stop ac ymgymeriadau gorfodi (rheoliad 3).

Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sy’n ymwneud â chosbau ariannol penodedig (Atodlen 1), cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau cydymffurfio ac ymgymeriadau trydydd parti (Atodlen 2), hysbysiadau stop (Atodlen 3) ac ymgymeriadau gorfodi (Atodlen 4).

Maent yn caniatáu i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad sy’n gosod cosb am beidio â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad trydydd parti (rheoliad 7).

O dan reoliad 8 caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad adennill cost gorfodaeth mewn perthynas â chostau ymchwilio a gweinyddu, a chostau cael gafael ar gyngor arbenigol, y mae wedi mynd iddynt.

Mae rheoliad 10 yn nodi’r drefn apelio. Gwneir apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae rheoliadau 11 i 13 yn darparu bod rhaid llunio canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio sancsiynau sifil a chynnal ymgynghoriad arnynt, ac mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am gamau gorfodi a gymerir gan y rheoleiddiwr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Is-adran Diogelu’r Amgylchedd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3)

Mae adran 17 o Ddeddf 2023 yn cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2008 i reoliadau a wneir o dan yr adran honno.