2023 No. 1266 (Cy. 221)
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 92 a 219(2)(d) i (f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19911.
Enwi a dod i rym1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2024.
Diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 20212
Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 20212 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
Diwygio rheoliad 2 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau)3
Yn rheoliad 2(b) (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau) ar ôl “1 Ionawr 2024” mewnosoder “fodd bynnag, nid yw rheoliad 4 yn gymwys i ddaliadau glaswelltir cymhwysol hyd nes 1 Ionawr 2025”.
Diwygio rheoliad 3 (dehongli)4
Yn rheoliad 3 (dehongli)—
a
ar ôl y diffiniad o “cynllun gwrteithio”, mewnosoder—
ystyr “cynllun rheoli maethynnau uwch” (“enhanced nutrient management plan”) yw cynllun a lunnir yn unol â pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 1A;
b
yn lle’r diffiniad o “CANC” rhodder —
ystyr “CNC” (“NRW”) yw Cyfoeth Naturiol Cymru;
c
ar ôl y diffiniad o “cwrs dŵr” mewnosoder—
ystyr “cyfarpar taenu manwl” (“precision spreading equipment”) yw system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd;
ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024;
d
ar ôl y diffiniad o “daliad” mewnosoder—
“ystyr “daliad glaswelltir cymhwysol” (“qualifying grassland holding”) yw daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, pan fo 80% neu fwy o ardal amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa;
Mewnosod rheoliadau newydd 4A a 4B5
Ar ôl rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) mewnosoder—
Dodi tail da byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori ar ddaliadau glaswelltir cymhwysol yn ystod y cyfnod perthnasol – y terfynau o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad a gofynion ychwanegol4A
1
Rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol sicrhau—
a
nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 250 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, a
b
nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw nad ydynt yn pori sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
2
Pan fo meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, rhaid iddo—
a
cyflwyno hysbysiad i CNC yn unol â rheoliad 4B, a
b
cydymffurfio â’r gofynion rheoli maethynnau uwch yn Atodlen 1A.
3
At ddiben paragraffau (1) a (2), rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dail da byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori ar gyfer y cyfnod perthnasol yn unol â thablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) yn Atodlen 1.
4
Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen sydd i’w daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd ac unrhyw goetir (oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori).
Gofynion hysbysu4B
1
Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn gynnwys—
a
enw meddiannydd y daliad glaswelltir cymhwysol,
b
cyfeiriad y daliad glaswelltir cymhwysol,
c
datganiad ysgrifenedig bod y meddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, a
d
datganiad ysgrifenedig y bydd y meddiannydd yn cydymffurfio â’r gofynion ychwanegol a nodir yn Atodlen 1A.
2
Rhaid cyflwyno hysbysiad i CNC erbyn 31 Mawrth 2024 a rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad glaswelltir cymhwysol fynd gydag ef.
3
Rhaid cyflwyno’r hysbysiad a’r cynllun rheoli maethynnau uwch sy’n mynd gydag ef i CNC drwy e-bost3.
Diwygio rheoliad 14 (taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau)6
Yn rheoliad 14 (taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau)—
a
ym mharagraff (1), ar y dechrau mewnosoder “Ac eithrio pan fo paragraff 27 o Atodlen 1A yn gymwys,”, a
b
hepgorer paragraff 4.
Diwygio rheoliadau 24, 30, 31, 32, 47 ac Atodlen 67
Yn y rheoliadau a ganlyn, yn lle “CANC” rhodder “CNC”—
a
rheoliad 24(1)(c)(i),
b
rheoliad 30, ym mhob lle y mae’n digwydd,
c
rheoliad 31, ym mhob lle y mae’n digwydd,
d
rheoliad 32(2),
e
rheoliad 47, ac
f
Atodlen 6, ym mhob lle y mae’n digwydd.
Mewnosod Atodlen 1A newydd (gofynion rheoli maethynnau uwch)8
Ar ôl Atodlen 1 (meintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori), mewnosoder Atodlen 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) fel y’i nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
YR ATODLEN
ATODLEN 1AGofynion rheoli maethynnau uwch
Cymhwyso Atodlen 1A1
Mae’r gofynion rheoli maethynnau uwch a ganlyn yn gymwys i ddeiliad daliad glaswelltir cymhwysol sy’n bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
Dehongli2
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “dadansoddiad samplu pridd” (“soil sampling analysis”) yw dadansoddiad o sampl pridd a wneir gan labordy profi pridd i ddadansoddi priddoedd ar gyfer ffosfforws;
ystyr “mynegai ffosfforws pridd” (“soil phosphorus index”) yw cyfeiriad at y rhif mynegai a neilltuwyd i’r pridd yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen hon, i ddynodi lefel y ffosfforws sydd ar gael o’r pridd.
Tail da byw sy’n pori sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol3
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau mai’r unig dail da byw sy’n pori sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yw tail a gynhyrchir gan y da byw sy’n pori ar y daliad.
Dodi tail da byw sy’n pori a thail da byw nad ydynt yn pori4
Pan fo’rmeddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, dail da byw sy’n pori ar y cyd â thail da byw nad ydynt yn pori, rhaid i’r meddiannydd sicrhau—
lle—
A yw arwynebedd y daliad (hectarau), fel y bo’n bodoli ar 1 Ionawr ar gyfer y flwyddyn galendr honno;
Ngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw sy’n pori a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 1 yn Atodlen 1;
Nngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw nad ydynt yn pori a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 2 yn Atodlen 1.
Dadansoddiad samplu pridd5
1
Rhaid i’r meddiannydd, at ddibenion pennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd, ymgymryd â dadansoddiad samplu pridd o bob pumed hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd.
2
Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau dadansoddiad samplu pridd blaenorol o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cynhaliwyd y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2020 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2023.
3
Pan na fo dadansoddiad samplu pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd wedi ei gynnal o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), rhaid cynnal y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024.
Pennu’r mynegai ffosfforws pridd6
Rhaid i’r meddiannydd bennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd trwy ddefnyddio canlyniadau’r dadansoddiad samplu pridd o dan baragraff 5 a’r gwerthoedd yn y tabl a ganlyn.
Tabl 1 – Mynegai ffosfforws
Mynegai ffosfforws
Ffosfforws (P) mg / L
Olsen (P)
0
0-9
1
10-15
2
16-25
3
26-45
4
46-70
5
71-100
6
101-140
7
141-200
8
201-280
9
Dros 280
Cynllunio’r modd y taenir gwrtaith ffosffad7
Yn ogystal â llunio cynlluniau taenu nitrogen o dan reoliad 6 (cynllunio’r modd y taenir gwrtaith nitrogen) rhaid i’r meddiannydd, o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024—
a
cyfrifo’r maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd, a
b
llunio cynllun (“cynllun rheoli maethynnau uwch”) ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol.
Gofynion ar gyfer cynlluniau rheoli maethynnau uwch8
1
Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad—
a
cynnwys map risg, a lunnir yn unol â pharagraff 12(1), sy’n nodi lleoliad y caeau y mae’r cynllun yn ymwneud â hwy, a
b
datgan yn glir mewn perthynas ag unrhyw gae y cyfeirir ato yn y cynllun y math o wrtaith sydd i’w ddefnyddio.
2
Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch gofnodi—
a
y mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd,
b
y maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd,
c
faint o nitrogen (kg) sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu yn ystod y cyfnod perthnasol,
d
faint o ffosffad (kg) sy’n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y cyfnod perthnasol, wedi ei gyfrifo yn unol ag—
i
tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) o Atodlen 1,
ii
samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3, neu
iii
dadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr,
e
faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o nitrogen sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y nitrogen a fydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y cyfnod perthnasol), ac
f
faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddiben gwrteithio’r cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol).
Cyfanswm y ffosfforws sydd i’w daenu ar ddaliad yn ystod y cyfnod perthnasol9
Ni waeth beth fo’r ffigur a gofnodir yn y cynllun rheoli maethynnau uwch yn unol â pharagraff 8(2)(b), rhaid i’r meddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—
a
y ffosffad o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, a
b
y ffosffad o dail organig, yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo,
yn fwy, yn ystod y cyfnod perthnasol, na’r terfynau a bennir ym mharagraff 10.
Terfynau ffosffad uchaf fesul cnwd10
1
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff cyfanswm y ffosffad a daenir ar unrhyw gnwd a restrir yng ngholofn gyntaf unrhyw un o’r tablau isod fod yn fwy na’r ffigur o dan y rhif mynegai ffosfforws pridd cymwys yn yr un tabl.
Tabl 2 - Uchafsymiau ffosffad ar gyfer porfa
Mynegai ffosfforws pridd (kg P2O5 / ha)
0
1
2
3
4+
Wrth i’r borfa ymsefydlu
120
80
50
30
0
Pori
80
50
20
0
0
Gwair
80
55
30
0
0
Silwair
Toriad cyntaf
100
70
40
20
0
Ail doriad
25
25
25
0
0
Trydydd toriad
15
15
15
0
0
Pedwerydd toriad
10
10
10
0
0
Tabl 3 - Uchafsymiau ffosffad ar gyfer cnydau eraill
Mynegai-P
0
1
2
3
4
5+
Cnwd
Ffosffad (kg / ha)
Cnydau porthi
Indrawn porthi
115
85
55
20
0
0
Ydau cnwd cyfan
115
85
55
0
0
0
Swêds a maip porthi (wedi eu codi)
105
75
45
0
0
0
Betys porthiant (wedi eu codi)
120
90
60
0
0
0
Rêp, swêds a maip sofl porthi (a borir)
85
55
25
0
0
0
Cêl (a borir)
80
50
20
0
0
0
Rhygwellt a heuir ar gyfer hadau
90
60
30
0
0
0
Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori)
Gwenith y gaeaf
110
80
50
0
0
0
Rhygwenith y gaeaf
125
95
65
0
0
0
Haidd y gaeaf
110
80
50
0
0
0
Haidd y gwanwyn
105
75
45
0
0
0
Gwenith y gwanwyn/rhygwenith y gwanwyn/rhyg/ceirch
110
80
50
0
0
0
Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith)
Gwenith y gaeaf
115
85
55
0
0
0
Rhygwenith y gaeaf
130
100
70
0
0
0
Haidd y gaeaf
115
85
55
0
0
0
Haidd y gwanwyn
105
75
45
0
0
0
Gwenith y gwanwyn
110
80
50
0
0
0
Rhygwenith y gwanwyn/rhyg
110
80
50
0
0
0
Ceirch
115
85
55
0
0
0
Hadau olew
Rêp had olew y gaeaf
110
80
50
0
0
0
Rêp had olew y gwanwyn neu had llin
90
60
30
0
0
0
Pys (sych a dringo) a ffa
100
70
40
0
0
0
Betys siwgr
110
80
50
0
0
0
Tatws
250
210
170
100
0
0
Llysiau a bylbiau
Merllys (ymsefydlu)
175
150
125
100
75
0
Merllys (y blynyddoedd dilynol ar ôl ymsefydlu)
75
75
50
50
25
0
Ysgewyll Brwsel, bresych storio, bresych pen a bresych llyfnddail
200
150
100
50
0
0
Blodfresych a calabrese
200
150
100
50
0
0
Seleri
250
200
150
100
50
0
Pys (cynhaeaf y farchnad)
185
135
85
35
0
0
Ffa llydan, corffa a ffa dringo
200
150
100
50
0
0
Radis ac india-corn
175
125
75
25
0
0
Letys a dail berwr
250
200
150
100
60(a)
60(a)
Winwns a chennin
200
150
100
50
60(a)
60(a)
Betys (coch) swêds, maip, pannas a moron
200
150
100
50
0
0
Bylbiau a blodau bwlb
200
150
100
50
0
0
Coriander a mintys
175
125
75
25
0
0
Courgettes
175
125
75
25
0
0
Ffrwythau a gwinwydd cyn plannu
200
100
50
50
0
0
Hopys cyn plannu
250
175
125
100
50
0
Ffrwythau coed sefydledig
80
40
20
20
0
0
Cyrens duon, cyrens cochion, eirin Mair, mafon, mwyar logan, mafonfwyar, mwyar duon, mefus a gwinwydd
110
70
40
40
0
0
Hopys sefydledig
250
200
150
100
50
0
(a)Pan fo Mynegai P yn 4 a 5, gellir defnyddio hyd at 60 kg P2 O5/ha fel gwrtaith cychwynnol, yn agos at yr had. Ni ddylai faint o ffosffad a ddodir fel dos cychwynnol, ynghyd â faint a ychwanegir yn y gwrtaith sylfaen, fod yn fwy na faint o ffosffad sy’n ofynnol i gymryd lle’r hyn a dynnwyd gan y cnwd blaenorol.
2
Caniateir taenu ffosffad ar borfa a chnydau eraill uwchben y gwerthoedd a nodir yn y tablau uchod yn ddarostyngedig i gael cyngor ysgrifenedig ymlaen llaw gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau4.
Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y cyfnod perthnasol11
1
Yn ogystal â’r wybodaeth sydd i’w chofnodi o dan reoliad 7 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i’r meddiannydd—
a
cyn taenu tail organig yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi cyfanswm y ffosffad (kg) sydd yn y tail organig; a
b
cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
i
faint o ffosffad (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir), a
ii
y mis arfaethedig ar gyfer taenu.
Mapiau risg – gofynion ychwanegol12
1
Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 11 (mapiau risg), rhaid i’r map risg—
a
dangos pob cae wedi ei farcio â rhif cyfeirnod neu rif i alluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd mewn cynlluniau gwrteithio,
b
cyfateb i ardal amaethyddol y daliad, ac
c
cael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2024 .
2
Pan fo newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar fater y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b), rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map o fewn un mis i’r newid, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
Cynnal y daliad fel daliad glaswelltir cymhwysol13
Rhaid i’r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod o leiaf 80% o’r ardal amaethyddol wedi ei hau â phorfa yn ystod y cyfnod perthnasol.
Cyfnod gwaharddedig ar gyfer aredig porfa ar y daliad14
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson—
a
yn aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd ar y daliad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024,
b
yn aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr 2024 ar y daliad pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Medi ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol, ac
c
yn aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd ar y daliad cyn 16 Ionawr 2024 pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol ac yn dod i ben â 15 Ionawr 2024.
Hau cnydau yn dilyn porfa ar y daliad15
Pan fo unrhyw borfa ar y daliad yn cael ei haredig yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid—
a
hau’r tir â chnwd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa, neu
b
hau’r tir â phorfa o fewn chwe wythnos, sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.
Cylchdro cnydau ar y daliad16
Ni chaiff cylchdro cnydau ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gynnwys codlysiau na phlanhigion eraill sy’n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% ohono yn feillion, neu unrhyw godlysiau eraill gyda phorfa wedi ei hau oddi tanynt.
Cofnodi maint y daliad17
1
Rhaid i’r meddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol ac ardal y borfa o fewn y daliad erbyn 1 Mawrth 2024.
2
Os bydd maint y daliad neu ardal y borfa o fewn iddo yn newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r cofnod o fewn un mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
Cofnod o nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan anifeiliaid18
1
Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) disgwyliedig y da byw sydd i’w cadw ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol.
2
Yn dilyn y gofynion i wneud cofnod yn is-baragraff (1), rhaid i’r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad (kg) mewn tail y disgwylir i’r da byw ar y daliad ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) yn Atodlen 1.
3
Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2024.
Tail da byw y bwriedir ei anfon o’r daliad19
1
Rhaid i’r meddiannydd—
a
gwneud cofnod o fath a maint y tail da byw (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys) y bwriedir ei anfon o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, a
b
asesu a chofnodi maint y nitrogen (kg) sydd yn y tail da byw a gofnodir o dan baragraff (a) yn unol â rheoliad 36(4) a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.
2
Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud erbyn 1 Mawrth 2024.
Cofnodion o’r cnydau a heuwyd20
Yn ogystal â gofynion rheoliad 39 (cofnodion o’r cnydau a heuwyd), os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r meddiannydd o fewn un wythnos i hau cnwd gofnodi—
a
y cnwd a heuir, a
b
dyddiad ei hau.
Cofnodion o daenu gwrtaith ffosffad21
Yn ogystal â gofynion rheoliad 40 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
a
o fewn un wythnos i daenu tail organig, gyfanswm y cynnwys ffosfforws (kg), a
b
o fewn un wythnos i daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—
i
dyddiad ei daenu, a
ii
maint y ffosffad a daenwyd (kg).
Cofnodi’r dyddiad aredig22
Yn ogystal â gofynion rheoliad 41 (cofnodion dilynol), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi o fewn un wythnos i aredig porfa ar y daliad ddyddiad yr aredig hwnnw.
Cyfrifon gwrteithio23
1
Rhaid i’r meddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y cyfnod perthnasol i CNC erbyn 31 Mawrth 2025.
2
Rhaid cyflwyno’r cyfrifon gwrteithio i CNC drwy e-bost5.
3
Rhaid i’r cyfrif gwrteithio gofnodi—
a
cyfanswm ardal amaethyddol y daliad mewn hectarau;
b
arwynebedd y daliad mewn hectarau a orchuddir gan—
i
gwenith y gaeaf,
ii
gwenith y gwanwyn,
iii
haidd y gaeaf,
iv
haidd y gwanwyn,
v
rêp had olew y gaeaf,
vi
betys siwgr,
vii
tatws,
viii
indrawn porthi,
ix
porfa, a
x
cnydau eraill;
c
nifer a chategori yr anifeiliaid a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol yn unol â’r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
d
maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
e
maint (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys), math a nodweddion y tail da byw a anfonwyd o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
f
maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(e), wedi ei gyfrifo yn unol ag Atodlen 1;
g
pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
h
pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl stociau gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
i
pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol;
j
pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol.
Mesurau diogelu pridd24
1
Rhaid i’r meddiannydd ddiogelu yr holl bridd drwy sicrhau bod yr holl dir wedi ei orchuddio â chnydau, soflau, gweddillion neu lystyfiant arall bob amser, ac eithrio pan fyddai sefydlu gorchudd o’r fath yn creu risg sylweddol o erydiad pridd a risg sylweddol y bydd nitrogen a ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb.
2
Pan fo tir wedi ei gynaeafu gan ddefnyddio dyrnwr medi, cynaeafwr porthiant neu beiriant torri porfa, rhaid i’r meddiannydd sicrhau y bodlonir un o’r amodau a ganlyn ar y tir hwnnw bob amser, drwy gydol y cyfnod perthnasol sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024—
a
bod sofl y cnwd a gynaeafwyd yn dal yn y tir, neu
b
bod y tir yn cael ei baratoi fel gwely hadau ar gyfer cnwd neu gnwd gorchudd dros dro o fewn 14 o ddiwrnodau i gynaeafu, gan ddechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu, ac—
i
bod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau o fewn cyfnod o 10 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl i’r gwely hadau gael ei baratoi yn derfynol, neu
ii
pe bai hau o fewn y cyfnod hwnnw o 10 niwrnod yn arwain at risg sylweddol o erydu pridd, ac o nitrogen neu ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb, fod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r tir beidio â bod yn ddyfrlawn.
Lleoliadau safleoedd bwydo ac yfed atodol ar gyfer da byw25
1
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster bwydo atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 20 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
2
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster yfed atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 10 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
Taenu slyri yn ystod y cyfnod perthnasol26
Os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu slyri ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid defnyddio cyfarpar taenu manwl ac eithrio pan na fyddai’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
Taenu tail organig ger dŵr wyneb yn ystod y cyfnod perthnasol27
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson, yn ystod y cyfnod perthnasol, yn taenu tail organig o fewn 15 metr i ddŵr wyneb oni bai ei fod yn defnyddio cyfarpar taenu manwl ac os felly ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)