Offerynnau Statudol Cymru

2023 No. 1166 (Cy. 204)

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Cymru

Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio, Darpariaeth Drosiannol a Dirymu) 2023

Gwnaed

1 Tachwedd 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

3 Tachwedd 2023

Yn dod i rym

16 Rhagfyr 2023

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio, Darpariaeth Drosiannol a Dirymu) 2023 a deuant i rym ar 16 Rhagfyr 2023.

Diwygio Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007

2.  Mae Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.

3.  Yn rheoliad 3 (penodi’r Comisiynydd)—

(a)ym mharagraff (5), yn lle “reoliadau 4 a 4A” rhodder “reoliad 4”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “pedair blynedd” rhodder “saith mlynedd”;

(c)yn lle paragraff (6), rhodder—

(6) Ni chaniateir i berson a benodwyd yn Gomisiynydd gael ei benodi am ail gyfnod.

4.  Hepgorer rheoliad 4A.

Darpariaeth Drosiannol

5.  Nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn cael unrhyw effaith i’r graddau y maent yn ymwneud â phenodiad Comisiynydd a wnaed cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn unol â rheoliad 1—

(a)y diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 i 4 o’r Rheoliadau hyn;

(b)y dirymiad a wneir gan reoliad 6 o’r Rheoliadau hyn.

Dirymu

6.  Mae Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio) 2016 wedi eu dirymu.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru, gan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (p. 30) (“y Ddeddf”). Mae’r Ddeddf yn sefydlu swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (“y Comisiynydd”).

Mae Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007 (“Rheoliadau 2007”) (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio) 2016) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phenodi’r Comisiynydd.

Mae Rheoliadau 2007 yn pennu cyfnod swydd y Comisiynydd. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r cyfnod hwnnw er mwyn sicrhau bod cyfnod swydd y Comisiynydd yn gyson â’r priod gyfnodau swydd y penodir Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Chomisiynydd y Gymraeg amdanynt.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r cyfnod swydd y mae rhaid penodi’r Comisiynydd amdano o gyfnod o bedair blynedd i gyfnod o saith mlynedd, ac yn darparu mai am un cyfnod yn unig y caniateir penodi’r Comisiynydd i’r swydd.

Mae rheoliad 4 yn dileu’r pŵer i estyn cyfnod swydd y Comisiynydd am gyfnod o ddwy flynedd.

Mae rheoliad 5 yn gwneud trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â’r diwygiadau hyn.

Mae rheoliad 6 yn dirymu Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio) 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2006 p. 30 (“y Ddeddf”). Mae’r pwerau i wneud rheoliadau yn arferadwy gan Weinidogion Cymru: gweler paragraffau 139(2)(b) a 140 o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388). Yn unol â pharagraff 35(4) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae’r Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(2)

Gweler y diffiniad o “regulations” yn adran 27 o’r Ddeddf.