Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
25 Hydref 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
27 Hydref 2023
Yn dod i rym
17 Tachwedd 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 123(4)(a) o Ddeddf Addysg 2002(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymelldaliadau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 a daw i rym ar 17 Tachwedd 2023.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002(2);
mae i “awdurdod lleol yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “local authority in Wales” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996(3).
2. Nid yw cyfandaliad a wneir i athro neu athrawes ysgol o dan y Cynllun Bwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg(4), gan awdurdod lleol yng Nghymru neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod o’r fath, i’w drin fel tâl at ddiben adran 122(1) o Ddeddf Addysg 2002.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu nad yw cyfandaliadau a delir i athrawon ysgol yng Nghymru o dan y Fwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg yn cael eu trin fel tâl at ddiben adran 122(1) o Ddeddf Addysg 2002 ac felly nad ydynt yn ddarostyngedig i’r fframwaith tâl statudol ac nad ydynt yn bensiynadwy.
Mae canllawiau ar y Fwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg wedi eu cyhoeddi ar wefan llyw.cymru yn https://www.llyw.cymru/y-fwrsariaeth-i-gadw-athrawon-cymraeg-mewn-addysg-canllawiau-i-ymgeiswyr-html.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Addysgeg, Gyrfa Cynnar ac Ymarferwyr Cymraeg, Yr Is-adran Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2002 p. 32. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 39(3) o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).
Diwygiwyd is-adrannau (3) a (4) o adran 122 gan erthygl 5(1) o O.S. 2010/1158 a chan baragraff 11 o Ran 1 o Atodlen 2 iddo.
Rhoddwyd “local authority in Wales” a diffiniadau eraill yn lle’r diffiniad o “local authority” gan erthygl 3(2)(b) o O.S. 2010/1158.
ISBN 978-1-83504-879-5.