Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
16 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(3)(b) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 4) 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 18 Hydref 2023—
(a)adran 65 (gofynion sy’n ymwneud â chasglu ar wahân etc. wastraff),
(b)adran 67 (pŵer i wahardd neu reoleiddio gwaredu gwastraff drwy losgi),
(c)adran 68 (sancsiynau sifil),
(d)adran 69(5) (rheoliadau), ac
(e)adran 70 (mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau).
3. Y diwrnod penodedig i adran 66 (gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos) o’r Ddeddf ddod i rym yw 6 Ebrill 2024.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ran 4 (casglu a gwaredu gwastraff) y Ddeddf ar 18 Hydref 2023—
(a)adran 65 (gofynion sy’n ymwneud â chasglu ar wahân etc. wastraff),
(b)adran 67 (pŵer i wahardd neu reoleiddio gwaredu gwastraff drwy losgi),
(c)adran 68 (sancsiynau sifil),
(d)adran 69(5) (rheoliadau), ac
(e)adran 70 (mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 66 (gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos) o’r Ddeddf i rym ar 6 Ebrill 2024.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 76 | 1 Ebrill 2017 | O.S. 2017/504 (Cy. 104) |
Adrannau 77 i 79 i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau | 24 Chwefror 2017 | O.S. 2017/152 (Cy. 44) |
Adrannau 77 i 79 ac eithrio at ddiben gwneud rheoliadau | 1 Ebrill 2017 | O.S. 2017/504 (Cy. 104) |
Adran 80 | 1 Ebrill 2017 | O.S. 2017/504 (Cy. 104) |
Adran 81 | 14 Gorffennaf 2017 | O.S. 2017/714 (Cy. 171) |