Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1092 (Cy. 187) (C. 68)

Amaethyddiaeth, Cymru

Gorchymyn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) 2023

Gwnaed

12 Hydref 2023

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) 2023.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Rhan 1Y darpariaethau sy’n dod i rym

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 17 Hydref 2023

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 17 Hydref 2023—

(a)adrannau 21 i 23 (Ymyrraeth mewn marchnadoedd amaethyddol);

(b)adrannau 25-33 (Casglu a rhannu data);

(c)adran 34 (Safonau marchnata);

(d)adran 35 (Dosbarthiad carcasau);

(e)adran 55 (Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau etc.);

(f)Atodlen 1 (Cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i ddarpariaethau safonau marchnata);

(g)Atodlen 2 (Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol etc. sy’n ymwneud â Rhannau 1 i 3) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(h)Atodlen 3 (Diwygiadau canlyniadol etc. i’r Rheoliad CMO).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2024—

(a)adrannau 36-44 (Coedwigaeth) i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.

Rhan 2Darpariaethau arbed

4.  Er bod paragraff 1(9) o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn diddymu Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, mae’r rheoliadau a’r datganiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn parhau mewn grym ac yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan yr adran o’r Ddeddf a bennir yng Ngholofn 2 o’r Atodlen.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

12 Hydref 2023

Erthygl 4

YR ATODLENParhad mewn grym reoliadau neu ddatganiadau a wnaed o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a darpariaethau cyfatebol yn y Ddeddf.

Colofn 1Colofn 2
Rheoliadau/Datganiadau a wnaed o dan Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020Yr adran berthnasol y mae darpariaethau i gael effaith odani fel pe baent wedi eu gwneud o dan y Ddeddf
Paragraff 4(1)Adran 17
Paragraff 5(1)Adran 18
Paragraff 6(1)Adran 19
Paragraff 7(1)Adran 21
Paragraff 16(1)Adran 34

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023(2) (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 17 Hydref 2023—

(a)adrannau 21 i 23 (Ymyrraeth mewn marchnadoedd amaethyddol);

(b)adrannau 25-33 (Casglu a rhannu data);

(c)adran 34 (Safonau marchnata);

(d)adran 35 (Dosbarthiad carcasau);

(e)adran 55 (Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau etc.);

(f)Atodlen 1 (Cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i ddarpariaethau safonau marchnata);

(g)Atodlen 2 (Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol etc. sy’n ymwneud â Rhannau 1 i 3) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(h)Atodlen 3 (Diwygiadau canlyniadol etc. i’r Rheoliad CMO).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2024—

(a)adrannau 36-44 (Coedwigaeth) i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.

Mae erthygl 4 yn darparu darpariaethau arbed mewn perthynas â rheoliadau neu ddatganiadau a wnaed o dan y darpariaethau presennol yn Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a ddiddymir gan y Ddeddf.