Rhan 1Y darpariaethau sy’n dod i rym

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 17 Hydref 2023

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 17 Hydref 2023—

(a)adrannau 21 i 23 (Ymyrraeth mewn marchnadoedd amaethyddol);

(b)adrannau 25-33 (Casglu a rhannu data);

(c)adran 34 (Safonau marchnata);

(d)adran 35 (Dosbarthiad carcasau);

(e)adran 55 (Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau etc.);

(f)Atodlen 1 (Cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i ddarpariaethau safonau marchnata);

(g)Atodlen 2 (Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol etc. sy’n ymwneud â Rhannau 1 i 3) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(h)Atodlen 3 (Diwygiadau canlyniadol etc. i’r Rheoliad CMO).