2023 Rhif 1079 (Cy. 185)

Coedwigaeth, Cymru

Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio) (Cymru) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 10A(3), 24F(4), 26C(1), 26C(2), 26G(2) a 32(1) a (2) o Ddeddf Coedwigaeth 19671, yn gwneud y rheoliadau canlynol.

Enwi, dod i rym, cymhwyso a dehongli 1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio) (Cymru) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2024.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

4

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Coedwigaeth 1967.

Diwygiadau i Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979 2

Mae Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 19792 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiadau mewn cysylltiad â thrwyddedau cwympo coed neu hysbysiadau ynghylch coed y mae Gorchymyn Diogelu Coed ar eu cyfer.

3

Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—

Prescribed period for objection to agreement of amendments to a felling licence 4A

1

For the purposes of section 10A(3) of the Act, the prescribed period in which the authority by whom the Tree Preservation Order was made may object is one month from the date of receipt of the notice.

2

The prescribed period in regulation 4A(1) does not apply if the NRBW consider the amendment is necessary to respond to an imminent and serious risk of harm to—

i

natural beauty, or

ii

flora, fauna, geological or physiographical features, or natural habitats.

4

Ar ôl rheoliad 13 mewnosoder—

Prescribed period for objection to notice given under section 24C(3) or 24E(2). 13A

1

For the purposes of section 24F(4) of the Act, the prescribed period in which the authority by whom the Tree Preservation Order was made may object to the notice is one month from the date of receipt of the notice.

2

The prescribed period in regulation 13A(1) does not apply if the NRBW consider that the emergency criteria in section 24F(2) of the Act apply.

Diwygiadau sy’n ymwneud ag apelau yn erbyn hysbysiadau a gyflwynir gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru o dan Adrannau 24C, 24D a 24E.

5

Ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—

Appeals under section 26A and 26B of the Act against section 24C, 24D and 24E notices. 14A

1

An appeal under section 26A against a notice served under sections 24C(3) and 24D(2) must be in Form 9A and must be served on the Welsh Ministers within three months beginning on the day after receipt of the notice by a person with the right to bring an appeal as set out in Section 26A(1).

2

An appeal under section 26B against a notice served under section 24E(2) (appeal against a notice where no breach of condition or licence), must be in Form 9A and shall be served on the Welsh Ministers within 3 months beginning on the day after receipt of the notice by a person with the right to bring an appeal as set out in section 26B(1) of the Act.

3

Where an appeal is made under the grounds in sections 26A(2)(e) or 26B(2)(d), that a suspension should have been brought to an end by a notice, the appeal to the Welsh Ministers may be made at any time during the suspension of the licence even if this falls after the three month period specified in regulations 14A(1) and 14A(2).

6

Ar ôl Ffurflen 9 (sy’n ymddangos yn Atodlen 1 i Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979 3) mewnosoder Ffurflen 9A (apêl yn erbyn hysbysiadau a gyflwynir o dan adrannau 24C, 24D a 24E) fel y’i nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

Diwygiadau sy’n ymwneud â hawliadau am ddigollediad sy’n deillio o hysbysiadau a ddyroddir o dan adrannau 24C, 24D a 24E.

7

Ar ôl rheoliad 15 mewnosoder—

Claims for compensation under sections 26D, 26E and 26F 15A

1

A claim for compensation made under sections 26D, and 26F of the Act by the relevant person, or, in the case of a claim made under section 26E, the person to whom the notice was given, must be made to the NRBW on Form 1A.

2

Where the claim for compensation arises from a successful appeal of a notice given under sections 24C(3), 24D(2) or 24E(2) after which the notice is subsequently cancelled in accordance with 26C(6)(b) of the Act, the prescribed period for claiming expenses reasonably incurred by the relevant person or the person to whom the notice was given, will be eighteen months beginning on the day after the day on which the Welsh Ministers send notification of a successful appeal outcome and cancellation of the notice.

3

Where a claim for compensation arises from a successful appeal against a suspension of a felling licence given under section 24C(3) or 24E(2), and the NRBW are subsequently directed by the Welsh Ministers to lift the suspension in accordance with 26C(6)(a)(i) of the Act, the prescribed period for claiming expenses reasonably incurred, by the relevant person, will be eighteen months after the date on which the suspension is lifted.

4

Where a claim for compensation arises for depreciation in the value of the trees, attributable to deterioration in the quality of the timber, as a result of a successful appeal against a notice issued under section 24C(3), which is subsequently cancelled (in accordance with 26C(6)(b), or the suspension of which is lifted in accordance with 26C(6)(a)(i)), the prescribed period for the relevant person to make a claim is set out in 26G(3)(a) of the Act, unless the timber has not been felled, in which case the prescribed period is eighteen months.

5

Where the relevant person makes a claim solely for compensation for depreciation in the value of the trees, attributable to deterioration in the quality of the timber, arising from a notice given under section 24E(2) of the Act, in accordance with 26F(2), the prescribed periods for claims are those set out in Section 26G(3) to the Act.

6

For a claim made under section 26D, relevant person has the meaning given by section 26D(4) of the Act.

7

For a claim made under section 26F, relevant person has the meaning given by section 26F(5) of the Act.

8

Ar ôl Ffurflen 1 (sy’n ymddangos yn Atodlen 1 i Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979) mewnosoder Ffurflen 1A (digollediad sy’n deillio o hysbysiadau a gyflwynir o dan adrannau 24C, 24D a 24E) fel y’i nodir yn Atodlen 1 i’r rheoliadau hyn.

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENNI

ATODLEN 1

Rheoliad 8

Image_r00001

ATODLEN 2

Rheoliad 6

Image_r00002

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, a wneir gan Weinidogion Cymru, yn diwygio Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979 mewn perthynas â materion gweithdrefnol (dull rhagnodedig a chyfnod rhagnodedig) sy’n deillio o Ran 4 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Mae’r diwygiadau hyn yn—

  1. 1

    rhagnodi cyfnod o un mis ar gyfer y gwrthwynebiad i gytundeb i ddiwygio trwydded cwympo coed sy’n ddarostyngedig i Orchymyn Diogelu Coed gan yr awdurdod y gwnaed y Gorchymyn Diogelu Coed ganddo (rheoliad 3);

  2. 2

    rhagnodi cyfnod o un mis ar gyfer y gwrthwynebiad i hysbysiad a roddir o dan adran 24C a 24E o Ddeddf Coedwigaeth 1967 mewn perthynas â chwympo coed sy’n ddarostyngedig i Orchymyn Diogelu Coed gan yr awdurdod y gwnaed y Gorchymyn Diogelu Coed ganddo (rheoliad 4);

  3. 3

    rhagnodi cyfnod o dri mis ar gyfer apelau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 yn erbyn hysbysiadau a roddir o dan adrannau 24C, 24D a 24E o’r Ddeddf honno (rheoliad 5). Gwneir darpariaeth wahanol ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau sy’n atal dros dro drwydded cwympo coed (rheoliad 5(3));

  4. 4

    rhagnodi bod rhaid i apelau yn erbyn hysbysiadau o dan adrannau 24C, 24D a 24E o Ddeddf Coedwigaeth 1967 gael eu gwneud ar Ffurflen 9A (Atodlen 2);

  5. 5

    rhagnodi cyfnod o ddeunaw mis i hawlio treuliau yr aethpwyd iddynt yn rhesymol yn dilyn apêl lwyddiannus yn erbyn hysbysiad o dan adrannau 26D, 26E a 26F (rheoliad 7) o Ddeddf Coedwigaeth 1967 ac yn rhagnodi bod rhaid hawlio digollediad ar Ffurflen 1A (Atodlen 1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.