2023 Rhif 1070 (Cy. 182)

Amaethyddiaeth, Cymru
Dŵr, Cymru

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 92 a 219(2)(e) i (f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19911.

Enwi a dod i rym 1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2023.

Diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 2

1

Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 20212 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(b) (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau), yn lle “31 Hydref 2023” rhodder “1 Ionawr 2024”.

3

Yn rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad)—

a

ym mharagraff (1) yn lle “y cyfnod perthnasol” rhodder “unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr”;

b

hepgorer paragraff (4).

4

Yn rheoliad 36(6) (cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad)—

a

yn y diffiniad o “cyfnod o 12 mis blaenorol”, ym mharagraff (b)—

i

yn is-baragraff (i), yn lle “31 Hydref 2023 i 30 Hydref 2024” rhodder “1 Ionawr 2024 i 31 Rhagfyr 2024”, a

ii

yn is-baragraff (ii), yn lle “31 Hydref ac sy’n gorffen ar 30 Hydref” rhodder “1 Ionawr and sy’n gorffen 31 Rhagfyr”;

b

yn y diffiniad o “dyddiad perthnasol”, ym mharagraff (b), yn lle “28 Chwefror 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 28 Chwefror” rhodder “30 Ebrill 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 30 Ebrill”.

Lesley GriffithsY Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (“Rheoliadau 2021”).

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2021 er mwyn newid y dyddiad gweithredu ar gyfer rheoliadau 4 ac 36 o Reoliadau 2021 o 31 Hydref 2023 i 1 Ionawr 2024 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn parth perygl nitradau (“PPN”).

Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2021 fel bod y terfyn uchaf o 170kg yr hectar o nitrogen mewn tail da byw yn gymwys i bob cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 1 Ionawr ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN. Mae hyn yn cyfateb i’r cyfnod o 12 mis sydd eisoes mewn grym ar gyfer daliadau a oedd gynt wedi eu lleoli o fewn PPN.

Mae rheoliad 2(4)(a) yn diwygio’r diffiniad o “cyfnod o 12 mis blaenorol” yn rheoliad 36(6) o Reoliadau 2021 fel bod y cyfnod cadw cofnodion perthnasol yn adlewyrchu’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr o dan reoliad 4 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN. Mae hefyd yn ei gwneud yn glir mai’r cyfnod cadw cofnodion perthnasol cyntaf ar gyfer meddianwyr daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN yw 1 Ionawr 2024 i 31 Rhagfyr 2024.

Mae rheoliad 2(4)(b) yn diwygio’r diffiniad o “dyddiad perthnasol” yn rheoliad 36(6) o Reoliadau 2021 fel bod rhaid i feddianwyr daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN gofnodi’r data perthnasol sy’n ofynnol o dan reoliad 36(1) cyn 30 Ebrill 2025 ac 30 Ebrill ar gyfer pob blwyddyn ddilynol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru .