YR ATODLENNI
ATODLEN 4Telerau Gwasanaeth
Corffori darpariaethau 1
1
Mae unrhyw ddarpariaethau o’r canlynol sy’n effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau contractwyr yn ffurfio rhan o’r telerau gwasanaeth—
a
y Rheoliadau hyn;
b
y Datganiad;
c
y cyfarwyddydau ffioedd;
d
cymaint o Ran 2 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 199254 ag sy’n ymwneud â’r canlynol—
i
ymchwilio i gwestiynau sy’n codi rhwng contractwyr a’u cleifion, ymchwiliadau eraill sydd i’w gwneud gan y pwyllgor disgyblu offthalmig (“y Pwyllgor”), a’r camau gweithredu y caiff y Pwyllgor eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau o’r fath, gan gynnwys cadw tâl yn ôl oddi wrth gontractwr pan fo’r telerau gwasanaeth wedi eu torri;
ii
apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadau’r Pwyllgor;
iii
ymchwilio i achosion o ddyroddi gormod o dalebau optegol yn dilyn profion golwg;
e
rheoliad 9 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 199755 (dyroddi talebau gan ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr).
2
Rhaid i’r contractwr sicrhau bod unrhyw berson y mae’r contractwr yn ei gyflogi i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yn cydymffurfio â’r darpariaethau a restrir ym mharagraff (1)(a) i (e) i’r graddau y maent yn gymwys i’r personau hynny.
3
Yn y paragraff hwn, mae i “cyfarwyddydau ffioedd” yr ystyr a roddir yn rheoliad 32.