Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1039 (Cy. 174)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2023

Gwnaed

22 Medi 2023

Enwi

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2023.

Y diwrnod penodedig

2.  26 Medi 2023 yw’r diwrnod a benodwyd i adran 31(2) o Ddeddf Iechyd 2009 ddod i rym.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

22nd September 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2009 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 31(2) o’r Ddeddf, sy’n diwygio adran 107(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”). Mae adran 107 o Ddeddf 2006 yn rhoi pŵer i Fyrddau Iechyd Lleol i ddileu enw ymarferydd o restr fferyllol neu restr offthalmig pan fo amodau penodol wedi eu bodloni. Mae adran 31(2) o’r Ddeddf yn diwygio’r diffiniad o “practitioner” (“ ymarferydd”) yn adran 107(9) o Ddeddf 2006 i egluro bod cyfeiriadau at ymarferwyr ym Mhennod 2 o Ran 8 o Ddeddf 2006 yn gyfeiriadau at ymarferwyr sydd wedi eu cynnwys mewn rhestr fferyllol neu restr offthalmig.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 19 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 14 i 17, 18 a 19 o Atodlen 3.1 Ebrill 2010O.S. 2010/930 (Cy. 95) (C. 63)
Atodlen 3, paragraffau 14 i 17.1 Ebrill 2010O.S. 2010/930 (Cy. 95) (C. 63)
Atodlen 3, paragraffau 18 a 19 ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â diwygiadau i Ddeddf 2006.1 Ebrill 2010O.S. 2010/930 (Cy. 95) (C. 63)
Adran 22 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.1 Chwefror 2012O.S. 2011/2362 (Cy. 248) (C. 83)
Atodlen 4, paragraffau 7(6), 8(1), 8(3) ac, i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 7(6), 8(1) ac 8(3), paragraff 2.1 Mehefin 2012O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)
Adran 21 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (at ddiben siopau mawr ac eithrio swmpwerthwyr tybaco a gwerthwyr tybaco arbenigol).3 Rhagfyr 2012O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)
Atodlen 4, paragraff 6(2) a pharagraff 6(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 6(2)), paragraff 10, paragraffau 11 a 12 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym), paragraff 2 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 6(2), 6(1), 10, 11 a 12), ac adran 24 (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny).3 Rhagfyr 2012O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)
Adran 20 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. 6 Ebrill 2015O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)
Adran 21 i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.6 Ebrill 2015O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)
Atodlen 4, paragraff 2 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym), paragraff 3, paragraff 4(2) a (5) a pharagraff 4(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r is-baragraffau hynny), ac adran 24 (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny).6 Ebrill 2015O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)

Mae darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 3619 Ionawr 2010O.S. 2010/30 (C. 5)
Atodlen 6 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r diddymu sy’n ymwneud â Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12), ac adran 38 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r ddarpariaeth honno.1 Hydref 2011O.S. 2010/1068 (C. 70) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1255 (C. 49)
Atodlen 6 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r diddymu sy’n ymwneud ag adran 14(12) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (p. 36), ac adran 38 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r ddarpariaeth honno.6 Ebrill 2012O.S. 2010/1068 (C. 70) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1255 (C. 49)
Y cofnodion yn Atodlen 6 sy’n ymwneud â Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (p. 36) i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac adran 38 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r cofnodion hynny yn Atodlen 6.31 Hydref 2012O.S. 2012/2647 (C. 105)

Mae amryw o ddarpariaethau’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2010/30 (C. 5); O.S. 2010/779 (C. 52); O.S. 2010/1068 (C. 70); O.S. 2010/1863 (C. 95); O.S. 2011/1255 (C. 49); O.S. 2012/1902 (C. 76) ac O.S. 2012/2647 (C. 105).