2023 Rhif 1039 (Cy. 174)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2023

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 40(2)(c) o Ddeddf Iechyd 20091, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi 1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2023.

Y diwrnod penodedig 2

26 Medi 2023 yw’r diwrnod a benodwyd i adran 31(2) o Ddeddf Iechyd 2009 ddod i rym.

Eluned MorganY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2009 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 31(2) o’r Ddeddf, sy’n diwygio adran 107(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”). Mae adran 107 o Ddeddf 2006 yn rhoi pŵer i Fyrddau Iechyd Lleol i ddileu enw ymarferydd o restr fferyllol neu restr offthalmig pan fo amodau penodol wedi eu bodloni. Mae adran 31(2) o’r Ddeddf yn diwygio’r diffiniad o “practitioner” (“ ymarferydd”) yn adran 107(9) o Ddeddf 2006 i egluro bod cyfeiriadau at ymarferwyr ym Mhennod 2 o Ran 8 o Ddeddf 2006 yn gyfeiriadau at ymarferwyr sydd wedi eu cynnwys mewn rhestr fferyllol neu restr offthalmig.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 19 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 14 i 17, 18 a 19 o Atodlen 3.

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/930 (Cy. 95) (C. 63)

Atodlen 3, paragraffau 14 i 17.

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/930 (Cy. 95) (C. 63)

Atodlen 3, paragraffau 18 a 19 ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â diwygiadau i Ddeddf 2006.

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/930 (Cy. 95) (C. 63)

Adran 22 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

1 Chwefror 2012

O.S. 2011/2362 (Cy. 248) (C. 83)

Atodlen 4, paragraffau 7(6), 8(1), 8(3) ac, i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 7(6), 8(1) ac 8(3), paragraff 2.

1 Mehefin 2012

O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)

Adran 21 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (at ddiben siopau mawr ac eithrio swmpwerthwyr tybaco a gwerthwyr tybaco arbenigol).

3 Rhagfyr 2012

O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)

Atodlen 4, paragraff 6(2) a pharagraff 6(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 6(2)), paragraff 10, paragraffau 11 a 12 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym), paragraff 2 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 6(2), 6(1), 10, 11 a 12), ac adran 24 (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny).

3 Rhagfyr 2012

O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)

Adran 20 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

6 Ebrill 2015

O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)

Adran 21 i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

6 Ebrill 2015

O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)

Atodlen 4, paragraff 2 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym), paragraff 3, paragraff 4(2) a (5) a pharagraff 4(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r is-baragraffau hynny), ac adran 24 (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny).

6 Ebrill 2015

O.S. 2012/1288 (Cy. 165) (C. 45)

Mae darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 36

19 Ionawr 2010

O.S. 2010/30 (C. 5)

Atodlen 6 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r diddymu sy’n ymwneud â Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12), ac adran 38 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r ddarpariaeth honno.

1 Hydref 2011

O.S. 2010/1068 (C. 70) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1255 (C. 49)

Atodlen 6 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r diddymu sy’n ymwneud ag adran 14(12) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (p. 36), ac adran 38 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r ddarpariaeth honno.

6 Ebrill 2012

O.S. 2010/1068 (C. 70) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1255 (C. 49)

Y cofnodion yn Atodlen 6 sy’n ymwneud â Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (p. 36) i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac adran 38 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r cofnodion hynny yn Atodlen 6.

31 Hydref 2012

O.S. 2012/2647 (C. 105)

Mae amryw o ddarpariaethau’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2010/30 (C. 5); O.S. 2010/779 (C. 52); O.S. 2010/1068 (C. 70); O.S. 2010/1863 (C. 95); O.S. 2011/1255 (C. 49); O.S. 2012/1902 (C. 76) ac O.S. 2012/2647 (C. 105).