Anifeiliaid, Cymru

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 8(3) a (7) o Ddeddf Plâu 19541 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi a chychwyn 1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Amrywio) (Cymru) 2023 a daw i rym ar 29 Medi 2023.

Amrywio Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019 2

Mae’r Atodlen i Orchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 20193 wedi ei hamrywio fel a ganlyn—

a

yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y cofnodion a ganlyn—

Aurotrap a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, AUROCON Automated Rodent Control, Industrivej 35, 9600 Aars, Denmarc.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.

Quill Trap a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Quill Productions, Manor Farm, Pulham, Dorchester, Dorset, DT2 7EE.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd carlymod, gwencïod a llygod mawr.

Pan gaiff y trap ei ddefnyddio ar ffurf â phen caeedig, rhaid gosod y trap mewn twnnel artiffisial a adeiladwyd i’r dyluniad a bennwyd gan Quill Productions gan ddefnyddio deunyddiau sy’n addas at y diben.

Pan gaiff y trap ei ddefnyddio ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo, rhaid gosod y trap yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd wrth ei osod ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

Smart Catch a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Anticimex Innovation Center A/S, Skovgaardsvej 23E, DK-3200 Helsinge, Denmarc.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr a llygod.

Smart Catch Mini a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Anticimex Innovation Centre A/S, Skovgaardsvej 23E, DK-3200 Helsinge, Denmarc.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.

Smart Pipe Long Life 110 (eitem rhif 141110), Smart Pipe Long Life 160 (eitem rhif 141160), Smart Pipe Long Life 200 (eitem rhif 141200), Smart Pipe Long Life 250 (eitem rhif 141250), a Smart Pipe Long Life 300 (eitem rhif 141300) a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Anticimex Innovation Center A/S, Skovgaardsvej 23E, DK-3200 Helsinge, Denmarc.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.

Rhaid gosod y trap mewn carthffos, pibell ddraenio neu strwythur tebyg.

b

hepgorer y cofnodion ar gyfer yr WCS Collarum Stainless UK Fox Model a’r WiseTrap 110, y WiseTrap 160, y WiseTrap 200 a’r WiseTrap 250.

Lesley GriffithsY Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn amrywio Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019 (O.S. 2019/18 (Cy. 7)).

O dan adran 8 o Ddeddf Plâu 1954 (p. 68), mae’n drosedd i ddefnyddio neu i ymwybodol ganiatáu defnyddio unrhyw drap sbring, ac eithrio trap sydd wedi ei gymeradwyo drwy Orchymyn, ar anifeiliaid neu mewn amgylchiadau nad yw wedi ei gymeradwyo ar eu cyfer.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu mathau o drapiau sbring at y rhai sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru, sef yr Aurotrap, y Quill Trap, y Smart Catch, y Smart Catch Mini, y Smart Pipe Long Life 110, y Smart Pipe Long Life 160, y Smart Pipe Long Life 200, y Smart Pipe Long Life 250, a’r Smart Pipe Long Life 300 (erthygl 2(a)).

Mae hefyd yn dileu’r WCS Collarum Stainless UK Fox Model, y WiseTrap 110, y WiseTrap 160, y WiseTrap 200 a’r WiseTrap 250 o’r trapiau sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru (erthygl 2(b)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.