2022 Rhif 994 (Cy. 211)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygio) (Cymru) 2022

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2)(f) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygio) (Cymru) 2022 a daw i rym ar 20 Hydref 2022.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 19872

1

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 19873 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ar ôl erthygl 3(6)(j) mewnosoder—

k

as a betting office.

3

Yn Rhan A o’r Atodlen, ym mharagraff (c) o Ddosbarth A2 (gwasanaethau ariannol a phroffesiynol) hepgorer—

(including use as a betting office)

4

Yn Rhan C o’r Atodlen—

a

yn Nosbarth C2, yn lle “class C3 (dwelling houses)” rhodder “Class C3. Dwellinghouses, used as sole or main residences”;

b

ym mhennawd Dosbarth C3, yn lle “Dwellinghouses”, rhodder “Dwellinghouses, used as sole or main residences”;

c

yn Nosbarth C3 yn lle “(whether or not as a sole or main residence)” rhodder “, as a sole or main residence and occupied for more than 183 days in a calendar year”;

d

yn “Interpretation of Class C3”—

i

ar ôl “C3” hepgorer “(a)”;

ii

ar ôl “Housing Act 2004.” mewnosoder—

“In the calculation of the 183 days, any time spent by single households in accommodation provided in connection with a person’s occupation, such as oil rigs or barracks, contributes to the 183 days.”

e

ar ôl Dosbarth C4 mewnosoder—

Class C5. Dwellinghouses, used otherwise than as sole or main residences

Use as a dwellinghouse, otherwise than as a sole or main residence and occupied for 183 days or fewer by—

a

a single person or by people to be regarded as forming a single household,

b

not more than six residents living together as a single household where care is provided for residents, or

c

not more than six residents living together as a single household where no care is provided to residents (other than a use within class C4).

Interpretation of Class C5

For the purposes of Class C5 “single household” is to be construed in accordance with section 258 of the Housing Act 2004.

f

ar ôl Dosbarth C5 mewnosoder—

Class C6. Short-term lets

Use of a dwellinghouse for commercial short-term letting not longer than 31 days for each period of occupation.

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (O.S. 1987/764) (“y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd”).

Mae’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd yn pennu dosbarthiadau defnydd adeiladau neu dir arall at ddibenion adran 55(2)(f) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae adran 55(2)(f) yn darparu nad datblygiad yw newid defnydd pan fo’r defnydd blaenorol a’r defnydd newydd o fewn yr un dosbarth. Nid oes angen caniatâd cynllunio ar newidiadau defnydd nad ydynt i’w hystyried fel eu bod yn cynnwys datblygiad.

Mae erthygl 3(6) o’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd yn rhestru defnyddiau sydd wedi eu heithrio o’r dosbarthiadau defnydd a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwnnw. Mae erthygl 2(2) yn diwygio erthygl 3(6) o’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd er mwyn cynnwys swyddfeydd betio ar y rhestr honno. Mae erthygl 2(3) yn hepgor swyddfeydd betio o ddosbarth defnydd A2.

Mae erthygl 2(4)(c) yn cyfyngu dosbarth defnydd C3 i ddefnyddio tŷ annedd fel unig breswylfa neu brif breswylfa a feddiannir am fwy na 183 o ddiwrnodau mewn blwyddyn galendr.

Mae erthygl 2(4)(e) yn cyflwyno dosbarth defnydd newydd C5 sy’n cwmpasu defnyddio tŷ annedd heblaw am fel unig breswylfa neu brif breswylfa a feddiannir am 183 o ddiwrnodau neu lai mewn blwyddyn galendr.

Mae erthygl 2(4)(f) yn cyflwyno dosbarth defnydd newydd C6 sy’n cwmpasu defnyddio tŷ annedd at ddibenion gosod byrdymor masnachol am ddim hwy nag 31 o ddiwrnodau ar gyfer pob cyfnod meddiannu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.