Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 895 (Cy. 192) (C. 59)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 12) 2022

Gwnaed

16 Awst 2022

Enwi a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 12) 2022.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—

(i)

adran 312(2)(2) o Ddeddf 1996—

(aa)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

(bb)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

(ii)

adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;

mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579(3) o Ddeddf 1996;

mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC plan” yn adran 37(2)(4) o Ddeddf 2014;

mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—

(iii)

adran 312(4) o Ddeddf 1996—

(aa)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

(bb)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

(iv)

adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

ystyr “Deddf 1996” (“ the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(5);

ystyr “Deddf 2014” (“ the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(6);

mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(7) o Ddeddf 1996;

ystyr “y Ddeddf” (“ the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(8) o Ddeddf 1996;

mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;

ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“ Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(9);

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(10);

mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)(11) o Ddeddf 1996;

mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in England” yn adran 579(3A)(12) o Ddeddf 1996;

ystyr “ysgol a gynhelir” (“ maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(13);

mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.

(3At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—

(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a

(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.

(4Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson y cychwynnwyd darpariaethau’r Ddeddf mewn perthynas ag ef gan Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021(14) neu Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021(15).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwydLL+C

2.  Mae gan blentyn “P” “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” at ddibenion y Gorchymyn hwn os oes gan P anhawster dysgu a nodwyd gan berchennog neu awdurdod lleol sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022LL+C

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 ac eithrio mewn perthynas â pherson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau yn erthygl 4 ar 1 Medi 2022—

(a)adrannau 2 i 4;

(b)adrannau 6 i 14;

(c)adrannau 17 i 36;

(d)adran 38;

(e)adrannau 40 i 44;

(f)adrannau 47 i 49;

(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);

(h)adran 50(4) i (5);

(i)adrannau 51 i 53;

(j)adran 55;

(k)adran 59;

(l)adrannau 63 i 66;

(m)adrannau 68 i 69;

(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);

(o)yn yr Atodlen—

(i)paragraff 1;

(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);

(iii)paragraff 4(2) i 4(6);

(iv)paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi cael ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn(16)

(v)paragraff 4(8) i 4(9);

(vi)paragraff 4(10);

(vii)paragraff 4(13) i 4(18);

(viii)paragraff 4(19)(b);

(ix)paragraff 4(20) a 4(21);

(x)paragraff 4(23) i 4(29);

(xi)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);

(xii)paragraff 7;

(xiii)paragraff 8;

(xiv)paragraff 11(a);

(xv)paragraff 12(a);

(xvi)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);

(xvii)paragraff 14(2) a (3);

(xviii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);

(xix)paragraff 19(5)(e)(ii);

(xx)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);

(xxi)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);

(xxii)paragraff 22;

(xxiii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);

(xxiv)paragraff 23(4);

(xxv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);

(xxvi)paragraff 24(3) a (6)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud

4.  Person—

(a)sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

(b)sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd;

(c)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;

(d)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;

(e)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu

(iii)dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;

(f)y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;

(g)y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(iii)dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn, neu

(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(h)y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;

(i)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);

(j)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36 o Ddeddf 2014, beidio â sicrhau asesiad AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;

(k)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—

(i)nad yw’r asesiad wedi cychwyn,

(ii)bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu

(iii)nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;

(l)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu

(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(m)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

16th August 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phersonau penodol. Mae’r Gorchymyn yn gwneud hyn drwy eithrio o’r cychwyn hwnnw bersonau sy’n dod o fewn categori a nodir yn erthygl 4 ar 1 Medi 2022. Mae’r categorïau sydd wedi eu heithrio yn cynnwys y rheini sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a’r rheini sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd (gweler erthygl 2).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn(17):

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)(18)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)(19)

O.S. 2021/1245 (W. 317) (C. 70)

Adran 4 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116)( C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 52 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 6 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 7 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 8 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 9 i 14 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 152 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 16 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)(20)

Adrannau 17 i 20 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 21 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 22 i 31 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316)(C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 32 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 33 i 35 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 36 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 372 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 38 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 392 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 452 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 462 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 47 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 48 i 49 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 54 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Adran 55 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 56 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 56(1)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 56(4) i (6)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 57 i 581 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 59 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 604 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 614 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 624 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 65 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 66 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 672 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 70 i 731 Medi 2021

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Adran 742 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 75 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Adran 76 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 77 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Adrannau 78 i 811 Medi 2021

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Adran 822 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 83 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Adran 841 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 85 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Adrannau 86 i 901 Medi 2021

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Adran 91 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 92 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Adrannau 93 i 941 Medi 2021

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Adran 95 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 96 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 31 Medi 2021

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b)

(yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraffau 9 a 101 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 11(b)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 12(b)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 131 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 181 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373

(Cy. 116) (C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 201 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i)1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) (21)
(2)

Diwygiwyd gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 2, gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 23 o Atodlen 7 ac Atodlen 8.

(3)

Amnewidiwyd y diffiniad o “local authority” gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.

(4)

Diwygiwyd gan Ddeddf Gofal 2014 a Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 (O.S. 2015/914), erthygl 2 a pharagraff 97 o’r Atodlen.

(5)

1996 p. 56.

(6)

2014 p. 6.

(7)

Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 111 o Atodlen 30 a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7(3) o Atodlen 2.

(8)

Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).

(10)

Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(11)

Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

(12)

Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

(13)

1998 p. 31.

(16)

Mae paragraff 4(7) (“y ddarpariaeth”) wedi ei ddiddymu gan baragraff 75 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) (“Deddf 2021”). Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth wedi ei harbed gan Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022 (O.S. 2022/111 (Cy. 39)) mewn perthynas â phlentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo o dan yr hen gwricwlwm (h.y. nad yw Ddeddf 2021 wedi cychwyn mewn perthynas ag ef). Effaith y ddarpariaeth arbed honno yw bod paragraff 4(7) o’r Atodlen i’r Ddeddf yn parhau mewn grym hyd nes y darperir addysg o dan Ddeddf 2021 i’r disgybl neu’r plentyn.

(17)

Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/891 (Cy. 188) (C. 55)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/892 (Cy. 189) (C. 56)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 10) 2022 (O.S. 2022/893 (Cy. 190) (C. 57)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022 (O.S. 2022/894 (Cy. 191) (C. 58)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 13 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/896 (Cy. 193) (C. 60)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 14 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/897 (Cy. 194) (C. 61)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 15) 2022 (O.S. 2022/898 (Cy. 195) (C. 62)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.