2022 Rhif 891 (Cy. 188) (C. 55)
Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20181, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongliI11
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 99 o’r Ddeddf;
ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;
ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 5792 o Ddeddf 1996;
ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19963;
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 4344 o Ddeddf 1996;
ystyr “dosbarth derbyn” (“reception class”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 85 o Ddeddf 1996;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 20126;
mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 5767 o Ddeddf 1996;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru8;
mae i “yn ardal” (“in the area”) yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)9 o Ddeddf 1996;
mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf.
3
Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996.
4
Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
a
y Ddeddf,
b
rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
c
unrhyw ddarpariaeth arall o ddeddf, neu a wneir o dan ddeddf, sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
i
darpariaeth o’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath, neu
ii
person y mae’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
5
At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl os caiff ei thynnu’n ôl, neu—
a
os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
b
os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei wneud.
6
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
7
At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—
a
pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;
b
pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.
8
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae apêl yn mynd rhagddi pan—
a
na fo’r cyfnod y gallai apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 gael ei gwneud ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
b
bo’r plentyn neu riant y plentyn wedi gwneud apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno.
Ystyr plentyn sydd â datganiadI22
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “datganiad” os yw P yn blentyn y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad anghenion addysgol arbennig mewn perthynas ag ef o dan adran 324 neu 331 o Ddeddf 1996.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022I33
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022—
a
adrannau 2 i 4;
b
adrannau 6 i 14;
c
adrannau 17 i 36;
d
adran 38;
e
adrannau 40 i 44;
f
adrannau 47 i 49;
g
adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
h
adran 50(4) a (5);
i
adrannau 51 i 53;
j
adran 55;
k
adran 59;
l
adrannau 63 i 66;
m
adrannau 68 a 69;
n
adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
o
yn yr Atodlen—
i
paragraff 1;
ii
paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);
iii
paragraff 4(2) i 4(6);
iv
paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn10;
v
paragraff 4(8) a 4(9);
vi
paragraff 4(10);
vii
paragraff 4(13) i 4(18);
viii
paragraff 4(19)(b);
ix
paragraff 4(20) a 4(21);
x
paragraff 4(23) i 4(29);
xi
paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
xii
paragraff 7;
xiii
paragraff 8;
xiv
paragraff 11(a);
xv
paragraff 12(a);
xvi
paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);
xvii
paragraff 14(2) a (3);
xviii
paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);
xix
paragraff 19(5)(e)(ii);
xx
paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);
xxi
paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
xxii
paragraff 22;
xxiii
paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);
xxiv
paragraff 23(4);
xxv
paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);
xxvi
paragraff 24(3) a (6)(a).
Darpariaeth arbedI44
Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 i 12 a 15 i 22, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 199611 wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd â datganiad—
a
mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, a
b
nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
Hysbysiad CDUI55
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—
a
bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf, a
b
y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn.
Hysbysiad Dim CDUI66
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad Dim CDU sy’n cadarnhau bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.
Effaith hysbysiad CDUI77
Effaith yr hysbysiad CDU yw—
a
y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
b
bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
c
bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Effaith hysbysiad Dim CDUI88
Effaith yr hysbysiad Dim CDU yw—
a
y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
b
bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
c
bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
I99
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac—
a
sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol, neu
b
sydd o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir.
2
Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.
3
Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
F69A
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
2
Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
3
Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
I1010
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac nad oedd yn dod o fewn erthygl 9 F7na 9A.
2
Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 F8neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025.
3
Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
Dyletswydd i roi hysbysiad pan fydd apêl sy’n mynd rhagddi yn dod i benI1111
1
Pan na roddir hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn unol ag erthyglau 9 F1, 9A neu 10 oherwydd apêl sy’n mynd rhagddi, mae paragraff (2) yn gymwys.
2
Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
a
ar ôl i’r cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo ddod i ben, os nad oes apêl wedi ei gwneud;
b
ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud.
Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDUI1212
1
Caiff plentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y cais.
2
Nid yw’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU ym mharagraff (1) yn gymwys—
a
pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, neu
b
pan fydd erthyglau 15 i 22 yn gymwys.
Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigolI1313
1
Pan roddir hysbysiad CDU yn unol ag erthyglau 9, F29A, 10, 11 neu 12 rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad, oni bai—
a
bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys,
b
bod adran 31 o’r Ddeddf yn gymwys, neu
c
bod amgylchiadau eithriadol.
2
Os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys neu os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
3
Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol yn gymwys pan fydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.
Hysbysiad ADYI1414
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY i blentyn a rhiant y plentyn hwnnw ar unrhyw adeg.
3
Effaith yr hysbysiad ADY yw—
a
bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad, a
b
bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad.
4
Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol ond rhoi hysbysiad ADY o dan amgylchiadau eithriadol.
5
Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn.
Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodol
I1515
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
b
a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—
i
yn iau na’r oedran ysgol gorfodol, neu
ii
o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
c
nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023,
d
nad yw erthygl 16 yn gymwys iddo, ac
e
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
2
Ar 31 Awst 2023—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
I1616
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
b
a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—
i
yn iau na’r oedran ysgol gorfodol,
ii
o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
c
pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2023,
d
nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023, ac
e
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
2
Ar y diwrnod trosglwyddo—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
3
Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1) (C) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
I1717
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
b
a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—
i
yn iau na’r oedran ysgol gorfodol,
ii
o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac
c
y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
2
Ar y diwrnod trosglwyddo—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
3
Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—
a
y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;
b
oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;
c
pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
F517A
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
b
a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
c
nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024,
d
nad yw erthygl 17B yn gymwys iddo, ac
e
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
2
Ar 31 Awst 2024—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
17B
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
b
a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
c
pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2024,
d
nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024, ac
e
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
2
Ar y diwrnod trosglwyddo—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
3
Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
17C
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
b
a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac
c
y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
2
Ar y diwrnod trosglwyddo—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
3
Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—
a
y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;
b
oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;
c
pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
I1818
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
b
nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst F92025,
c
nad yw erthygl 19 yn gymwys iddo, a
d
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst F92025.
2
Ar 31 Awst F92025—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
I1919
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
b
pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst F102025,
c
nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst F102025, a
d
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst F102025.
2
Ar y diwrnod trosglwyddo—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
3
Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
I2020
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd â datganiad ar 1 Ionawr 2022, a
b
y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst F112025.
2
Ar y diwrnod trosglwyddo—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
3
Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—
a
y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;
b
oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;
c
pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar yr apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
Newid mewn amgylchiadau
I2121
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022 y mae ei ddatganiad yn peidio â chael ei gynnal.
2
Ar y dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn peidio â chynnal y datganiad—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
I2222
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022—
a
sy’n symud o ardal yr awdurdod lleol a oedd ar 1 Medi 2022 yn cynnal y datganiad, a
b
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
2
Oni bai bod apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn, ar y dyddiad y mae’r plentyn yn symud o ardal yr awdurdod lleol a oedd yn cynnal y datganiad—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Sylw i ddatganiad anghenion addysgol arbennig wrth lunio cynllun datblygu unigolI2323
Pan fo cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer plentyn o fewn 12 wythnos i symud i’r gyfraith newydd, rhaid rhoi sylw i gynnwys y datganiad a gynhaliwyd ar gyfer y plentyn hwnnw yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.
Galluedd plantI2424
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022.
2
Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n gymwys i berson pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
3
Nid yw dyletswydd ym mharagraff (4) na’r pŵer ym mharagraff (5) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
4
Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw—
a
y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau F49(2), 9A(2), a 10(2) ac 11;
b
y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;
c
y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1).
5
Y pŵer y cyfeirir ato ym mharagraff (3) yw’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14.
6
Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
7
Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
Plant sy’n dod yn bersonau ifanc cyn bod y gyfraith newydd yn gymwysI2525
1
Mae paragraff (2) yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022.
2
Nid yw dyletswydd ym mharagraff (3) na phŵer ym mharagraff (4) yn gymwys pan fydd person yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
3
Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
a
y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant yn erthyglau 9(2), F39A(2), 10(2) ac 11;
b
y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan riant o dan erthygl 12;
c
y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i riant o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1).
4
Y pwerau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
a
y pŵer i riant ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn erthygl 12;
b
y pŵer i roi hysbysiad ADY i riant yn erthygl 14.
5
Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
6
Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn12:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)13 |
Adran 4 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116)( C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 5 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 7 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 8 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adrannau 9 i 14 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 15 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 16 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 17 i 20 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 21 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adrannau 22 i 31 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 32 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adrannau 33 i 35 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 36 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 37 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 38 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 39 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 45 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 46 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 47 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adrannau 48 i 49 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 54 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 55 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 56 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 56(1) | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 56(4) i (6) | 4 Ionawr 2021 | |
Adrannau 57 i 58 | 1 Medi 2021 | |
Adran 59 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 60 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 61 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 62 | 4 Ionawr 2021 | |
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 65 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 66 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 67 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adrannau 70 i 73 | 1 Medi 2021 | |
Adran 74 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 75 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 76 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 77 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 78 i 81 | 1 Medi 2021 | |
Adran 82 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 83 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 84 | 1 Medi 2021 | |
Adran 85 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 86 i 90 | 1 Medi 2021 | |
Adran 91 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 92 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 93 i 94 | 1 Medi 2021 | |
Adran 95 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 96 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 3 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraffau 9 a 10 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 11(b) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 12(b) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 13 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 18 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 20 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c) | 1 Medi 2021 |