Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 832 (Cy. 184)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

19 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym

1 Hydref 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 27(1) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”)(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori âʼr personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel syʼn ofynnol gan adran 27(4)(a) oʼr Ddeddf, ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel syʼn ofynnol gan adran 27(4)(b) oʼr Ddeddf.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod copi oʼr datganiad gerbron Senedd Cymru fel syʼn ofynnol gan adran 27(5) oʼr Ddeddf.

Gosodwyd drafft oʼr Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 187(2)(f) oʼr Ddeddf ac feʼi cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022.

(2Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2022.

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

2.  Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiad iʼr gofyniad ynghylch addasrwydd staff

3.  Yn rheoliad 35—

(a)yn lle paragraff (2)(f) rhodder—

(f)yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) ac eithrio fel rheolwr er mwyn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—

(i)â gwasanaeth cartref gofal,

(ii)â gwasanaeth llety diogel,

(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu

(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,

fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”);;

(b)yn lle paragraff (2)(g) rhodder—

(g)yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—

(i)â gwasanaeth cartref gofal,

(ii)â gwasanaeth llety diogel,

(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu

(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,

fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8A) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).;

(c)ym mharagraff (8A)(a)—

(i)ym mharagraff (i), hepgorer “a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant”;

(ii)ar ôl paragraff (iii) hepgorer “neu”;

(iii)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, neu.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Gorffennaf 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”). Mae Rheoliadau 2017 yn nodiʼr gofynion rheoleiddiol syʼn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau penodol syʼn cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Y rhain yw gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cartref.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 35 o Reoliadau 2017.

Mae paragraff (a) yn amnewid paragraff (2)(f) o reoliad 35 syʼn darparu, pan fo darparwr gwasanaeth yn cyflogi person, ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth cymorth cartref neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, fod rhaid iʼr person fod wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn 6 mis i ddechrau ei gyflogaeth.

Mae paragraff (b) yn amnewid paragraff (2)(g) o reoliad 35 syʼn darparu, pan fo person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau (syʼn cynnwys gweithwyr asiantaeth), ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth cymorth cartref neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, fod rhaid iʼr person hwnnw fod wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn 6 mis iʼr dyddiad y cymerir y person ymlaen gyntaf o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth oʼr fath.

Effaith yr amnewidiadau hyn yw estyn y gofyniad i ddarparwyr gwasanaethau gyflogi a chontractio gweithwyr, ac eithrio rheolwyr, i ddarparu gofal a chymorth, sydd wedi eu cofrestru o fewn 6 mis i ddechrau eu cyflogaeth neu i ddechrau bod wedi eu cymryd ymlaen o dan gontract, fel ei fod yn gymwys i wasanaethau cartrefi gofal i oedolion a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd.

Mae paragraff (c) yn diwygio paragraff (8A) o reoliad 35 i sicrhau bod y diffiniad o “y dyddiad perthnasol” yn gymwys i weithwyr sydd wedi eu contractio i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth mewn cartrefi gofal i oedolion a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2016 dccc 2. Mae’r cyfeiriadau yn adrannau 27(5) a 187(2) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

O.S. 2017/1264 (Cy. 295), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/757 (Cy. 142) ac O.S. 2020/389 (Cy. 87); mae offeryn diwygio arall nad ywʼn berthnasol.