2022 Rhif 83 (Cy. 29)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.