Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 806 (Cy. 182)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

13 Gorffennaf 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym

5 Awst 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 50(2) a (3)(1) a 105(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Yn unol ag adran 49(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cynrychiolwyr awdurdodau perthnasol, a’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Awst 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 5.8.2022, gweler ergl. 1(2)

Diwygio’r Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008LL+C

2.  Yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rhan 1 (Dehongli) o’r Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008(3) ar ôl “cyngor cymuned” mewnosoder—

(ca)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)(4),.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 5.8.2022, gweler ergl. 1(2)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

13 Gorffennaf 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol fel y’i nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 (“y Gorchymyn”) er mwyn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) at y rhestr o awdurdodau perthnasol. Effaith y diwygiad fyddai gwneud y Cod Ymddygiad Enghreifftiol gorfodol yn gymwys i aelodau cyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol yn llywodraethu ymddygiad aelodau awdurdodau perthnasol yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol pan wnaed y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Diwygiwyd adran 50 gan p. 20 Atodlen 25(5) para. 1 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (mae’r diwygiad yn cael effaith fel O.S. 2012/1463 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol, darpariaethau darfodol a darpariaethau arbed a bennir yn O.S. 2012/1463 erthygl 7(3) a (4)). Trosglwyddwyd y pwerau a roddwyd gan adran 50(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Lywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

dsc 1.