2022 Rhif 806 (Cy. 182)
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 50(2) a (3)1 a 105(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Yn unol ag adran 49(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cynrychiolwyr awdurdodau perthnasol, a’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.
Enwi a dod i rymI11
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Awst 2022.
Diwygio’r Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008I22
Yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rhan 1 (Dehongli) o’r Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 20083 ar ôl “cyngor cymuned” mewnosoder—
ca
cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)4,
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)