2022 Rhif 805 (Cy. 181)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 49(2) a 105(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 49(5)2 o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cynrychiolwyr hynny o awdurdodau perthnasol y maent yn ystyried eu bod yn briodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Enwi a dod i rymI11

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) (Diwygio) 2022.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Awst 2022.

Annotations:
Commencement Information
I1

Ergl. 1 mewn grym ar 5.8.2022, gweler ergl. 1(2)

Diwygio erthygl 2 o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001I22

Yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn erthygl 2 (Dehongli) o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 20013, ar ôl “cyngor cymuned,” mewnosoder—

ca

cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)4,

Annotations:
Commencement Information
I2

Ergl. 2 mewn grym ar 5.8.2022, gweler ergl. 1(2)

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 2 o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (“y Gorchymyn”) er mwyn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) at y rhestr o awdurdodau perthnasol, gan wneud yr egwyddorion yn yr Atodlen i’r Gorchymyn yn gymwys i aelodau cyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn yn nodi’r egwyddorion sy’n llywodraethu ymddygiad aelodau awdurdodau perthnasol yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.