Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 803 (Cy. 179)

Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022

Gwnaed

13 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1), paragraff 17 o Atodlen 3 iddi, paragraff 13 o Atodlen 8A(2) iddi, paragraff 13 o Atodlen 9 iddi, paragraff 11 o Atodlen 9B(3) iddi a pharagraff 11 o Atodlen 9C(4) iddi, ac adrannau 255(5) a 256(1) a (2)(6) iddi.

Yn unol ag adran 256(3), (4)(h), (i), (la)(7), (m), (mb)(8), (mc)(9) a (5) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru(10) ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar [F11 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)] (11).

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygio Atodlen 2LL+C

2.  Yn Atodlen 2 i’r Ddeddf (eithriadau i adran 7), ym mharagraff 7(3)(12) ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(j)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety a ddarperir—

(i)gan, neu ar ran, yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gofyniad a osodwyd o dan adran 3(6) (darpariaethau cyffredinol)(13) o Ddeddf Mechnïaeth 1976 (p. 63)(14), neu

(ii)o dan Ran 1 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau prawf) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21)(15) at y dibenion prawf (o fewn ystyr adran 1(16) o’r Ddeddf honno);

(k)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â—

(i)llety a ddarperir o dan adran 4 (llety)(17) neu Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches etc.) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(p. 33)(18), neu

(ii)cyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 i Ddeddf Mewnfudo 2016 (c. 19) (mechnïaeth mewnfudo)(19) ar gyfer llety i berson a ddarperir mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygio Atodlen 3LL+C

3.  Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), hepgorer paragraff 4(20) a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygio Atodlen 8ALL+C

4.  Yn Atodlen 8A i’r Ddeddf (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord), hepgorer paragraff 5 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygio Atodlen 9LL+C

5.  Yn Atodlen 9 i’r Ddeddf (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt), hepgorer paragraff 4(21) a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygio Atodlen 9BLL+C

6.  Yn Atodlen 9B i’r Ddeddf (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186), hepgorer paragraff 3 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygio Atodlen 9CLL+C

7.  Yn Atodlen 9C i’r Ddeddf (contractau safonol cyfnod penodol a gaiff gynnwys cymal terfynu’r landlord hyd yn oed os ydynt wedi eu gwneud am gyfnod llai na dwy flynedd), hepgorer paragraff 3 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygiadau canlyniadolLL+C

8.  Yn Neddf Mewnfudo 2016, ym mharagraff 2 o Atodlen 11, ar ôl paragraff (m), mewnosoder—

(n)in paragraph 7(3)(k)(i) of Schedule 2 to the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1), in the English language text omit “section 4 (accommodation) or” and in the Welsh Language text omit “adran 4 (llety) neu”..

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (as diwygio gan The Renting Homes (Wales) Deddf 2016 (Commencement No. 2 ac Consequential Amendments) gorchymyn 2022 (S.I. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

9.  Yn Neddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021(22), yn Atodlen 6 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—

(a)hepgorer paragraff 23;

(b)hepgorer paragraff 26(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (as diwygio gan The Renting Homes (Wales) Deddf 2016 (Commencement No. 2 ac Consequential Amendments) gorchymyn 2022 (S.I. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlenni 2, 3, 8A, 9, 9B a 9C i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) (dccc 1).

Mae rheoliad 2 yn mewnosod ym mharagraff 7(3) o Atodlen 2 (eithriadau i adran 7) i’r Ddeddf, gyfeiriad at denantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol (er enghraifft, o dan neu yn rhinwedd trefniadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol â pherson arall), mewn cysylltiad â gofyniad a osodir o dan adran 3(6) o Ddeddf Mechnïaeth 1976. Mae hefyd yn ychwanegu cyfeiriad at lety a ddarperir o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 at y dibenion prawf (o fewn ystyr adran 1 o’r Ddeddf honno). Mae’r diwygiad hwn yn golygu na all tenantiaeth na thrwydded o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth o dan y Ddeddf.

Mae rheoliad 2 hefyd yn mewnosod ym mharagraff 7(3) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, gyfeiriad at denantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â:

(a)llety a ddarperir o dan adran 4 (llety) neu Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, a

(b)cyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 (mechnïaeth mewnfudo) i Ddeddf Mewnfudo 2016 ar gyfer llety person a ddarperir mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.

Mae’r diwygiad hwn yn golygu na all unrhyw denantiaeth na thrwydded o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth o dan y Ddeddf.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol) i’r Ddeddf i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Atodlen 8A (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord) i’r Ddeddf i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf, i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 9B (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186) i’r Ddeddf, i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.

Mae rheoliad 7 yn diwygio Atodlen 9C (contractau safonol cyfnod penodol a gaiff gynnwys cymal terfynu’r landlord hyd yn oed os ydynt wedi eu gwneud am gyfnod llai na dwy flynedd) i’r Ddeddf, i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.

Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiad canlyniadol i baragraff 2 o Atodlen 11 i Ddeddf Mewnfudo 2016 (“Deddf 2016”). Bydd paragraff 1 o Atodlen 11 i Ddeddf 2016, pan ddaw i rym yn llawn, yn diddymu adran 4 o Ddeddf 1999. Pan gaiff adran 4 o Ddeddf 1999 ei diddymu a phan ddaw paragraff 2 o Atodlen 11 i Ddeddf 2016 i rym, bydd y diwygiad a wneir gan reoliad 8 yn hepgor y cyfeiriad at adran 4 o Ddeddf 1999 ym mharagraff 7(3)(k)(i) o Atodlen 2 i’r Ddeddf (fel y’i mewnosodir gan reoliad 2).

Mae rheoliad 9 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 6 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021, yn ymwneud â’r ddarpariaeth yn rheoliadau 3 a 5.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.

(2)

Mewnosodwyd Atodlen 8A gan adran 3 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) ac Atodlen 1 iddi.

(3)

Mewnosodwyd Atodlen 9B gan adran 10(3) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 ac Atodlen 3 iddi.

(4)

Mewnosodwyd Atodlen 9C gan adran 11(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 ac Atodlen 4 iddi.

(5)

Diwygiwyd adran 255(2) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio)(Cymru) 2021 a pharagraff 8 o Atodlen 5 iddi.

(6)

Diwygiwyd adran 256(2) gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 21(a) o Atodlen 6 iddi.

(7)

Mewnosodwyd adran 256(4)(la) gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 21(b)(ii) o Atodlen 6 iddi.

(8)

Mewnosodwyd adran 256(4)(mb) gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 21(c) o Atodlen 6 iddi.

(9)

Mewnosodwyd adran 256(4)(mc) gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 21(c) o Atodlen 6 iddi.

(10)

Mae’r cyfeiriadau yn adran 256(3) a (5) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(11)

Daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(12)

Diwygiwyd paragraff 7(3) o Atodlen 2 i’r Ddeddf gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 5(2) o Atodlen 5 iddi.

(13)

Diwygiwyd is-adran (6) gan adrannau 27(2)(a) a 168(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33) ac Atodlen 11 iddi, adrannau 13(1) a 332 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) a Rhan 2 o Atodlen 37 iddi, adran 54(2) o Ddeddf Troseddau ac Anrhefn 1988 (p. 37) ac adran 208(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p. 29) a pharagraffau 33 a 34 o Atodlen 21 iddi.

(16)

Diwygiwyd adran 1 gan adran 148(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), a pharagraff 83(a) a (b) o Ran 2 o Atodlen 26 iddi; adran 410 o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) a pharagraff 261 o Ran 1 o Atodlen 24 iddi; ac adran 38(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2) a pharagraffau 24 a 25 o Atodlen 9 iddi.

(17)

Diwygiwyd adran 4 gan adran 49 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 (p. 41), adran 10(1) a (6) o Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr, etc) 2004 (p. 19), adran 43(7) o Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13) ac mae wedi ei diddymu’n rhannol gan adran 66 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19) a pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(20)

Diwygiwyd paragraff 4 o Atodlen 3 i’r Ddeddf gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraffau 1 a 23 o Atodlen 6 iddi.

(21)

Diwygiwyd paragraff 4 o Atodlen 9 i’r Ddeddf gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraffau 1 a 26(1) a (3) o Atodlen 6 iddi.