Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022

Diwygio Atodlen 12

15.  Ym mharagraff 25A—

(a)yn is-baragraff (2)(b)—

(i)yn lle “y cyfeiriadau yn isadrannau (1) a (2)” rhodder “y cyfeiriad yn is-adran (1)”;

(ii)yn y testun Saesneg yn lle “were references” rhodder “was a reference”;

(b)ar ôl is-baragraff (2)(b) mewnosoder—

, ac

(c)yn adran 175, y canlynol wedi ei roi yn lle isadrannau (2) a (3)-

(2) Os yw’r contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded wreiddiol.

(3) At ddibenion is-adran (2)—

(a)roedd contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall—

(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded flaenorol,

(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi, tenant neu drwyddedai o dan y contract yn denant neu’n drwyddedai o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a landlord o dan y contract wedi ei drosi yn landlord o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a

(iii)os yw’r contract wedi ei drosi yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a

(b)ystyr “tenantiaeth neu drwydded wreiddiol” yw—

(i)pan fo dyddiad meddiannu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded nad yw’n denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall;

(ii)pan gafwyd cyfres o denantiaethau neu drwyddedau olynol yn denantiaethau neu’n drwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r tenantiaethau neu’r trwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall.