2022 Rhif 476 (Cy. 118)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10(4) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Mai 2022.

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017

2

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 20172 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.

3

Yn rheoliad 10(1) (terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol)—

a

yn lle “2019-2020 neu 2020-2021” rhodder “2019-2020, 2020-2021 neu 2021-2022”;

b

yn lle “26 Mai 2022” rhodder “31 Hydref 2022”.

Julie MorganY Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“y Ddeddf”). Maent yn diwygio gofyniad penodol a osodir ar ddarparwyr gofal cymdeithasol cofrestredig ac maent wedi eu gwneud mewn ymateb i ledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar ddarparwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol a reoleiddir gan y Ddeddf. Maent yn cynnwys gofyniad yn adran 10 i gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1097 (Cy. 277)) (“y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol”) yn darparu manylion pellach am y datganiadau blynyddol. Maent yn cynnwys darpariaeth a wneir o dan adran 10(4) ynghylch y dyddiadau erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno’r datganiadau.

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 10(1) o’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol. Mae’r rheoliad hwnnw yn ymwneud â’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno datganiadau blynyddol sy’n ymwneud â’r blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20 a 2020-21. Yn flaenorol, roedd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyflwyno datganiadau blynyddol ar gyfer y cyfnodau hyn heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2022. O dan reoliad 10(2) roedd yn ofynnol cyflwyno datganiadau ariannol ar gyfer 2021-2022 heb fod yn hwyrach na 56 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno (31 Mai 2022). Effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 3 yw bod rhaid i ddarparwyr pob math o wasanaethau rheoleiddiedig gyflwyno datganiadau blynyddol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20, 2020-21 a 2021-22 heb fod yn hwyrach na 31 Hydref 2022.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.