Offerynnau Statudol Cymru
Trafnidiaeth A Gweithfeydd, Cymru
Gwnaed
23 Mawrth 2022
Yn dod i rym
25 Mawrth 2022
Mae cais wedi ei wneud i Weinidogion Cymru yn unol â Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Geisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006(1) am Orchymyn o dan adrannau 1 a 5 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992(2) (“Deddf 1992”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu gwneud Gorchymyn i roi effaith i’r cynigion sydd yn y cais gydag addasiadau nad ydynt, yn eu barn hwy, yn gwneud unrhyw newid sylweddol i’r cynigion.
Cyhoeddwyd hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru yn y London Gazette ar 22 Mawrth 2022.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1 a 5 o Ddeddf 1992, a pharagraffau 8, 15 ac 16 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheilffordd Eryri Caernarfon a Dinas (Trosglwyddo a Llywodraethiant) 2022 a daw i rym ar 25 Mawrth 2022.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Cwmni” (“the Company”) yw The Festiniog Railway Company (rhif cwmni ZC 000203) a’i brif swyddfa yw Gorsaf yr Harbwr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9NF;
ystyr “Daliannau” (“Holdings”) yw Ffestiniog Railway Holdings Limited (rhif cwmni 02555576) y mae ei swyddfa gofrestredig yn Hen Eglwys y Santes Fair, Stryd yr Eglwys, Tremadog, Porthmadog, y Deyrnas Unedig, LL49 9RA;
ystyr “Deddf 1869” (“the 1869 Act”) yw Deddf Festiniog Railway 1869(4);
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw’r dyddiad y breinir y rheilffordd neu unrhyw ran ohoni yn y Cwmni yn rhinwedd cytundeb a wneir rhwng Daliannau a’r Cwmni;
mae i “y rheilffordd” yr ystyr a roddir i “the former railway” fel y’i diffinnir yn erthygl 2 (dehongli) o Orchymyn Rheilffordd Ysgafn Rheilffordd Caernarfon 1997(5) ac mae’n cynnwys yr holl diroedd a gweithfeydd sy’n ymwneud â hi;
ystyr “y trosglwyddai” (“the transferee”) yw unrhyw berson y lesir neu y gwerthir y rheilffordd, neu unrhyw ran ohoni, iddo o dan y pwerau a roddir gan erthygl 4 (trosglwyddo’r rheilffordd gan y Cwmni);
ystyr “yr ymgymeriad a drosglwyddwyd” (“the transferred undertaking”) yw pa faint bynnag o’r rheilffordd a lesir neu a werthir o dan y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn.
(2) Brasgywir yw unrhyw hydoedd ac unrhyw gyfeiriadau a nodir yn unrhyw ddisgrifiad o’r rheilffordd.
(3) Mae unrhyw ddeddfiadau yr awdurdodwyd adeiladu a gweithredu’r rheilffordd drwyddynt yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn, caiff Daliannau ymrwymo i gytundebau, a rhoi effaith i gytundebau sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i’r Cwmni, a breinio ynddo, yr holl hawliau, buddiannau a phwerau hynny sydd ganddo yn y rheilffordd neu mewn cysylltiad â hi.
(2) Oni ddarperir fel arall yn y Gorchymyn hwn, o’r dyddiad trosglwyddo ymlaen—
(a)mae’r rheilffordd neu unrhyw ran ohoni yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r holl ddarpariaethau statudol a darpariaethau eraill sy’n gymwys i’r rheilffordd ar y dyddiad hwnnw (i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn parhau i fod mewn grym ac yn gallu cael effaith); a
(b)Mae’r Cwmni, gan eithrio Daliannau—
(i)yn cael yr hawl i gael budd o’r rheilffordd neu unrhyw ran ohoni, ac i arfer yr holl hawliau, pwerau a breintiau sy’n ymwneud â’r rheilffordd neu unrhyw ran ohoni; a
(ii)yn ddarostyngedig i’r holl rwymedigaethau statudol neu rwymedigaethau eraill sy’n ymwneud â’r rheilffordd neu unrhyw ran ohoni (i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn parhau mewn grym ac yn gallu cael effaith) gyda Daliannau yn cael ei ryddhau rhag pob cyfryw rwymedigaeth.
4.—(1) Ar unrhyw adeg ar ôl y dyddiad trosglwyddo caiff y Cwmni, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, werthu neu lesio’r rheilffordd, neu ran ohoni, i unrhyw drosglwyddai o dan y telerau a’r amodau hynny a gytunir rhwng y Cwmni a’r trosglwyddai.
(2) Oni ddarperir fel arall gan y Gorchymyn hwn:
(a)bydd yr ymgymeriad a drosglwyddwyd yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r holl ddarpariaethau statudol a’r darpariaethau eraill sy’n gymwys iddo ar ddyddiad y les neu’r gwerthiant (i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn parhau mewn grym ac yn gallu cael effaith); a
(b)mae’r trosglwyddai, gan eithrio’r Cwmni, yn cael yr hawl i gael budd o’r ymgymeriad a drosglwyddwyd, ac i arfer yr holl hawliau, pwerau a breintiau sy’n ymwneud â’r ymgymeriad a drosglwyddwyd, ac yn ddarostyngedig i’r holl rwymedigaethau statudol neu rwymedigaethau eraill sy’n ymwneud â’r ymgymeriad a drosglwyddwyd, gyda’r Cwmni yn cael ei ryddhau rhag pob cyfryw rwymedigaeth.
(3) Pan fo cytundeb wedi ei wneud yn rhinwedd paragraff (1) bydd cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at y Cwmni yn cynnwys cyfeiriadau at y trosglwyddai.
(4) Mae paragraffau (1), (2) a (3) yn cael effaith yn ystod parhad unrhyw les a roddwyd, ac o ddyddiad gweithredol unrhyw werthiant, o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon.
5.—(1) Ar y dyddiad y daw’r Gorchymyn i rym ac ar ôl hynny caiff y Cwmni neu’r trosglwyddai, yn ôl y digwydd, weithredu a defnyddio’r rheilffordd fel system drafnidiaeth, neu ran o system drafnidiaeth, ar gyfer cludo teithwyr a nwyddau.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), y pŵer symud i’w ddefnyddio ar y rheilffordd yw ager, diesel-trydan, diesel, peiriant tanio mewnol, trydan-batri neu’r pŵer symud arall hwnnw y caiff y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ei gymeradwyo’n ysgrifenedig.
(3) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi defnyddio pŵer trydan fel pŵer symud ar y rheilffordd oni ddaw’r pŵer hwnnw o fatris storio neu o ffynhonnell gynhyrchu a gynhwysir yn gyfan gwbl yn y peiriannau a’r cerbydau ac sy’n cael ei gludo ynddynt.
(4) Os defnyddir pŵer trydan fel pŵer symud ar y rheilffordd, rhaid peidio â defnyddio’r cyfryw bŵer trydan mewn modd a fyddai’n peri, neu’n debygol o beri, unrhyw ymyrraeth ag unrhyw gyfarpar cyfathrebu electronig neu wrth ddefnyddio cyfarpar o’r fath.
(5) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, nac mewn unrhyw ddeddfiad a gymhwysir ganddo, yn rhagfarnu nac yn effeithio ar weithrediad Rhan 1 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(6).
6.—(1) Mae Deddf 1869 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 22—
(a)ar ôl “time to time” mewnosoder “increase or”, a
(b)yn lle “three” rhodder “five”.
(3) Yn adran 23, yn lle “five hundred” rhodder “twenty-five”.
(4) Yn adran 25, ar ôl “herein-before contained for” mewnosoder “increasing or”.
7. Mae adran 70 (caiff cyfranddalwyr ei gwneud yn ofynnol i gynnal cyfarfodydd eithriadol) o Ddeddf Cydgrynhoi Cymalau Cwmnïau 1845(7) yn gymwys i Ddeddf 1869 ond fel pe bai yn lle “for the prescribed number of shareholders, holding in the aggregate shares to the prescribed amount, or, where the number of shareholders shall not be prescribed, it shall be lawful for twenty or more shareholders” y rhoddir “for a shareholder or shareholders”.
8. Cyfeirir unrhyw wahaniaeth o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, oni wneir darpariaeth wahanol ar ei gyfer, at un cymrodeddwr y bydd y partïon yn cytuno arno, neu yn niffyg cytundeb, a benodir ar gais y naill neu’r llall o’r partïon (wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r parti arall) gan Lywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil am y tro, a bydd yr un cymrodeddwr hwnnw yn dyfarnu ar y gwahaniaeth hwnnw.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn galluogi trosglwyddo’r pwerau a’r rhwymedigaethau statudol yng Ngorchymyn Rheilffordd Ysgafn Rheilffordd Caernarfon 1997 o Ffestiniog Holdings Limited i Festiniog Railway Company ac yn diwygio Deddf Festiniog Railway 1869 i addasu trefniadau llywodraethiant y Festiniog Railway Company.
Nid yw’r Gorchymyn yn awdurdodi adeiladu gweithfeydd.
O.S. 2006/1466, a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/439, O.S. 2011/556, O.S. 2011/2085, O.S. 2012/147, O.S. 2012/1658, O.S. 2012/2590 ac O.S. 2013/755.
1992 p. 42. Diwygiwyd adran 1 gan baragraffau 51 a 52 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29), diwygiwyd adran 5 gan O.S. 2012/1659.
Mae pwerau o dan adrannau 1 a 5 o’r Ddeddf, a pharagraffau 8, 15 ac 16 o Atodlen 1 iddi, bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Roedd y pwerau wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru.
1869 p. cxli.
1993 p. 43. Fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38), Deddf Diogelwch y Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 (p. 43) a Deddf y Rheilffyrdd 2005 (p. 14).
1845 p. 16. Mae’r Ddeddf hon wedi ei hymgorffori gyda Deddf 1869, ac yn ffurfio rhan ohoni, yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf 1869.