Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 343 (Cy. 85)

Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

21 Mawrth 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

22 Mawrth 2022

Yn dod i rym

30 Mawrth 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f), 2(1)(1) a 3(1), (2)(c) a (3)(a) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 (“Deddf 2013”)(2).

Yn unol ag adran 21 o Ddeddf 2013(3), mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny (neu â chynrychiolwyr y personau hynny) y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.

Yn unol ag adran 3(5) o Ddeddf 2013, gwneir y Rheoliadau hyn gyda chydsyniad y Trysorlys.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mawrth 2022.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2015” yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015(4).

Diwygiadau i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

2.—(1Mae rheoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf) o Reoliadau 2015 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae paragraff (1) wedi ei fodloni, ac mae gan aelod actif hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen isaf o dan baragraff (1), pan fo paragraff (2B) yn gymwys ac y gwneir penderfyniad yn ddiweddarach o dan baragraff (2C) y byddai’r aelod wedi bod â’r hawl i bensiwn afiechyd haen isaf o dan Gynllun 1992(5) oni bai am iddo gael ei drosglwyddo i’r cynllun hwn.

(3Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Mae paragraff (2) wedi ei fodloni, ac mae gan aelod actif hawl i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen uchaf o dan baragraff (2), pan fo paragraff (2B) yn gymwys ac y gwneir penderfyniad yn ddiweddarach o dan baragraff (2C) y byddai’r aelod wedi bod â’r hawl i bensiwn afiechyd haen uchaf o dan Gynllun 1992 oni bai am iddo gael ei drosglwyddo i’r cynllun hwn.

(2B) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo, cyn 1 Ebrill 2022, yr awdurdod wedi penderfynu cael barn ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol cymwysedig annibynnol o dan reol H1 (penderfyniad gan awdurdod tân) o Gynllun 1992 ynglŷn ag a yw aelod o’r cynllun hwnnw yn anabl yn barhaol, neu’n abl i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, cyn penderfynu a oes hawl gan yr aelod i gael dyfarniad afiechyd o dan reol B3 (dyfarniadau afiechyd) o Gynllun 1992, a

(b)pan nad yw penderfyniad yr awdurdod wedi ei wneud cyn 1 Ebrill 2022.

(2C) Pan fo paragraff (2B) yn gymwys rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu ai pensiwn afiechyd haen isaf ynteu pensiwn afiechyd haen uchaf, neu’r ddau, a fyddai wedi bod yn daladwy o dan reol B3 (dyfarniadau afiechyd) o Gynllun 1992 ar 31 Mawrth 2022 pe bai’r penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2B)(b) wedi ei wneud ar 31 Mawrth 2022. Mae Rhan 12 (penderfyniadau ac apelau) o’r cynllun hwn yn gymwys i benderfyniad y rheolwr cynllun o dan y paragraff hwn.

3.—(1Mae rheoliad 75 (cyfradd flynyddol dyfarniadau afiechyd) o Reoliadau 2015 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff 3A mewnosoder—

(3B) Pan fo rheoliad 74(2B) yn gymwys a’r penderfyniad yn rheoliad 74(2C) yw y byddai pensiwn afiechyd haen isaf neu bensiwn afiechyd haen uchaf wedi bod yn daladwy ar 31 Mawrth 2022, rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)cyfrifo cyfradd flynyddol y pensiwn afiechyd haen isaf ac (os yw’n gymwys) y pensiwn afiechyd haen uchaf a fyddai wedi bod yn daladwy o dan baragraffau (2) a (3) fel pe na bai rheoliad 74(2B) yn gymwys;

(b)cyfrifo cyfradd flynyddol y pensiwn afiechyd haen isaf ac (os yw’n gymwys) y pensiwn afiechyd haen uchaf a fyddai wedi bod yn daladwy i’r aelod ar 31 Mawrth 2022 o dan Reol B3 (dyfarniadau afiechyd) o Gynllun 1992; ac

(c)pan fo’r cyfanswm a gyfrifir o dan is-baragraff (b) yn fwy na’r cyfanswm a gyfrifir o dan is-baragraff (a), addasu’r cyfraddau blynyddol sy’n daladwy o dan baragraff (2) a (3) i’r rheini a gyfrifir o dan is-baragraff (b).

(3C) Mae rheoliadau 77 (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar) a 78 (canlyniadau adolygu) yn gymwys i unrhyw symiau sy’n daladwy o ganlyniad i reoliad 75(3B)(c).

(3D) Pan fo rheoliad 74 (2B) yn gymwys, ar ôl i ddyfarniad afiechyd ddod yn daladwy o dan y cynllun hwn, os gwneir taliad gwerth trosglwyddiad o dan reol F9 (talu gwerthoedd trosglwyddo) o Gynllun 1992 mewn cysylltiad â hawliau’r aelod o dan y cynllun hwnnw a bod y trosglwyddiad yn ymwneud â chyfnod o wasanaeth sydd wedi ei gynnwys fel gwasanaeth cymwys mewn perthynas â chyfrif ymddeol yr aelod hwnnw, rhaid i reolwr y cynllun ddidynnu o swm y dyfarniad afiechyd swm mewn cysylltiad â gwasanaeth yng Nghynllun 1992 sy’n hafal i’r gwerth a gynrychiolir gan y taliad gwerth trosglwyddo hwnnw.

4.—(1Mae rheoliad 80 (opsiwn i gymudo rhan o’r pensiwn) o Reoliadau 2015 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(5A) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i aelod sy’n cael cynnydd mewn dyfarniad afiechyd o ganlyniad i reoliad 75(3B)(c) ac eithrio nad yw paragraffau (3) a (4) yn gymwys a’r cyfandaliad sy’n daladwy yw’r cyfandaliad hwnnw a gyfrifir yn unol â rheol B7 (cymudo – darpariaeth gyffredinol) o Gynllun 1992.

5.—(1Mae rheoliad 162 (rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun) o Reoliadau 2015 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 2(b) yn lle “neu’r oedran pensiwn gohiriedig”, rhodder “, yr oedran pensiwn gohiriedig neu pan fo rheoliad 74(2B) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf) yn gymwys, unrhyw oedran arall a bennir gan y rheolwr cynllun,”

6.—(1Mae Atodlen 2 (darpariaethau trosiannol) i Reoliadau 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1 (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “dyddiad cau”, ym mharagraff (c), yn lle “aelod hwnnw, neu” hyd at y diwedd rhodder—

aelod hwnnw,

(ii)os yw’r aelod yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, 31 Mawrth 2022, neu

(iii)os nad yw’r aelod yn aelod a ddiogelir o un o’r cynlluniau hynny, dyddiad cau’r cynllun;;

(b)yn y diffiniad o “dyddiad trosiant”, yn lle “aelod hwnnw, a” hyd at y diwedd rhodder—

aelod hwnnw,

(b)os yw’r aelod yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, 1 Ebrill 2022, ac

(c)os nad yw’r aelod yn aelod a ddiogelir o Gynllun 1992 neu o CPNDT, y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun, neu, os yw’n ddiweddarach, y diwrnod y peidiodd y person â bod yn aelod a ddiogelir o’r cynllun hwnnw.

(3Yn lle is-baragraff (3) o baragraff 3 (ystyr “dyddiad cau diogelwch taprog”) rhodder—

(3) Y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o CPNDT y mae paragraff 9(5) neu 21 yn gymwys iddo yw—

(a)31 Mawrth 2022; neu

(b)dyddiad cynharach a benderfynir gan y rheolwr cynllun.

(4Yn lle is-baragraff (2) o baragraff 9 (aelodau diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT) rhodder—

(2) Mae P yn peidio â bod yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yn ôl y digwydd—

(a)ar 31 Mawrth 2022; neu

(b)os yw’n gynharach, pan fo P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ac yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, onid yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys.

(5Ym mharagraff 31(2)(a) (gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT), hepgorer y geiriau o “neu os yw T yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy” hyd at y diwedd.

(6Hepgorer paragraffau 37 (awdurdod yn penderfynu a oes hawlogaeth gan aelod o CPNDT i gael dyfarniad afiechyd) a 38 (awdurdod yn penderfynu a oes hawlogaeth gan aelod o Gynllun 1992 i gael dyfarniad afiechyd).

Hannah Blythyn

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

21 Mawrth 2022

Rydym yn cydsynio

Michael Tomlinson

Alan Mak

Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi

16 Mawrth 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth sy’n ganlyniadol i Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 er mwyn trosglwyddo holl aelodau Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (“Cynllun 1992”) a Chynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“Cynllun 2007”) i Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (“Cynllun 2015”) o 1 Ebrill 2022.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 sy’n nodi Cynllun 2015.

Mae rheoliadau 2 i 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag aelodau Cynllun 1992 sy’n trosglwyddo i Gynllun 2015 ar 1 Ebrill 2022, pan fo awdurdod tân ac achub yng Nghymru wedi penderfynu, cyn trosglwyddo, cael barn ysgrifenedig gan ymarferydd iechyd cymwysedig annibynnol o ran dyfarniad afiechyd posibl. Os penderfynir yn ddiweddarach bod dyfarniad afiechyd yn daladwy, yna gwneir darpariaeth i’r dyfarniad fod o leiaf yn hafal i’r dyfarniad hwnnw y byddai’r aelod wedi ei gael pe bai’r penderfyniad ar ei ddyfarniad afiechyd wedi ei wneud o dan Gynllun 1992 ar 31 Mawrth 2022.

Mae rheoliad 6(2)(a) yn darparu mai’r diffiniad o “dyddiad cau” yn Atodlen 2 (sef diwrnod olaf aelodaeth o Gynllun 1992 neu Gynllun 2007) yw 31 Mawrth 2022 ar gyfer aelodau a ddiogelir yn llawn.

Mae rheoliad 6(2)(b) yn diwygio’r diffiniad o “dyddiad trosiant” yn Atodlen 2 er mwyn pennu mai diwrnod cyntaf aelodaeth o Gynllun 2015 yw 1 Ebrill 2022 ar gyfer aelodau a ddiogelir yn llawn.

Mae rheoliad 6(3) yn cael gwared ar y pŵer i reolwyr cynllun bennu dyddiad dod i ben ar gyfer diogelwch taprog ar ôl 31 Mawrth 2022, ac yn pennu bod rhaid i bob cyfnod o ddiogelwch taprog ddod i ben ar y dyddiad hwn neu cyn hynny.

Mae rheoliad 6(4) yn ganlyniadol i reoliad 2(2)(a) ac mae’n darparu y bydd aelodau a ddiogelir yn llawn o Gynllun 1992 neu Gynllun 2007 yn peidio â bod yn aelodau o’r cynlluniau hynny ar 31 Mawrth 2022.

Mae rheoliad 6(5) yn diwygio paragraff 31(2) o Atodlen 2 fel na chaniateir gwneud unrhyw ddewisiadau newydd i brynu gwasanaeth ychwanegol o dan Gynllun 2007 ar ôl 31 Mawrth 2022.

Mae rheoliad 6(6) yn hepgor paragraffau 37 a 38 o Atodlen 2 fel bod aelodau sy’n aros am benderfyniad ynghylch a oes hawl ganddynt i gael dyfarniad afiechyd o dan Gynllun 1992 neu Gynllun 2007 ar 1 Ebrill 2022 yn cael eu trosi i Gynllun 2015 ar y dyddiad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

Gweler hefyd baragraff 6(b) o Atodlen 2.

(2)

2013 p. 25. Diwygiwyd adran 3 gan adran 94(2) i (6) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 p. 7.

(3)

Diwygiwyd adran 21 gan adran 94(8) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022.

(4)

O.S. 2015/622 (Cy. 50); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.au 2015/1016 (Cy. 71) a 2018/576 (Cy. 103).