Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 263 (Cy. 79)

Llywodraeth Leol, Cymru

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022

Gwnaed

9 Mawrth 2022

Yn dod i rym

10 Mawrth 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 36A(1) i (6) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(1), gan baragraffau 4(2)(c) a 6(7) ac (8) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000(2) a chan adran 173(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 7(1) a (2)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(4), mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol. Yn unol ag adran 36A(7) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi ymgynghori â’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn unol ag adrannau 36A(10) a 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(5), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(6).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Mawrth 2022.

Diwygio Rheolau 2021: dilysrwydd papurau enwebu

2.—(1Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021(7) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn Atodlen 1, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;.

(3Yn Atodlen 2, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;.

(4Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021(8) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (5) a (6).

(5Yn Atodlen 1, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;.

(6Yn Atodlen 2, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;.

Diwygio Rheolau 2021: y weithdrefn wrth gau’r bleidlais

3.—(1Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn Atodlen 1—

(a)yn rheol 30 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod), ym mharagraff (5), hepgorer “mewn gorsaf bleidleisio”;

(b)yn rheol 51 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais)—

(i)ym mharagraff (3), hepgorer y geiriau o “Ym mhresenoldeb” hyd at “yn yr orsaf bleidleisio,”;

(ii)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

(3B) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

(a)yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno, neu

(b)os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

(3Yn Atodlen 2—

(a)yn rheol 30 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod), ym mharagraff (5), hepgorer “mewn gorsaf bleidleisio”;

(b)yn rheol 51 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais)—

(i)ym mharagraff (3), hepgorer y geiriau o “Ym mhresenoldeb” hyd at “yn yr orsaf bleidleisio,”;

(ii)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol sydd yno.

(3B) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

(a)yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol sydd yno, neu

(b)os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw un neu ragor o’r asiantau pleidleisio hynny sydd yno.

(4Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (5) a (6).

(5Yn Atodlen 1—

(a)yn rheol 30 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod), ym mharagraff (5), hepgorer “mewn gorsaf bleidleisio”;

(b)yn rheol 51 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais)—

(i)ym mharagraff (3), hepgorer y geiriau o “Ym mhresenoldeb” hyd at “yn yr orsaf bleidleisio,”;

(ii)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

(3B) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

(a)yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno, neu

(b)os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

(6Yn Atodlen 2—

(a)yn rheol 30 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod), ym mharagraff (5), hepgorer “mewn gorsaf bleidleisio”;

(b)yn rheol 51 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais)—

(i)ym mharagraff (3), hepgorer y geiriau o “Ym mhresenoldeb” hyd at “yn yr orsaf bleidleisio,”;

(ii)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad cymuned neu etholiad perthnasol sydd yno.

(3B) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

(a)yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad cymuned neu etholiad perthnasol sydd yno, neu

(b)os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad cymuned neu etholiad perthnasol ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw un neu ragor o’r asiantau pleidleisio hynny sydd yno.

Diwygio Rheolau 2021: etholiadau cymuned: dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol

4.—(1Yn Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021, yn Atodlen 2, mae rheol 31 (dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar y dechrau mewnosoder—

(A1) Caiff y cyngor cymuned, heb fod yn hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad, ofyn i’r swyddog canlyniadau ddyroddi cardiau pleidleisio ar gyfer yr etholiad.

(3Ym mharagraff (1), yn lle “ar ôl cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad” rhodder “ar ôl cael y cais”.

(4Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddyroddi’r cerdyn pleidleisio priodol pa un a yw’r cyngor wedi gofyn i gardiau pleidleisio gael eu dyroddi o dan baragraff (A1) ai peidio.

Diwygiadau sy’n ymwneud â’r amserlen ar gyfer etholiadau

5.—(1Yn adran 40(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (amseriad etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr)(9), ar ôl “section 37” mewnosoder “, section 37ZA”.

(2Yn rheol 3(1) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 (dehongli), yn y diffiniad o “diwrnod eithriedig”, ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

(g)yn ddiwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus;.

(3Yn rheol 3(1) o Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 (dehongli), yn y diffiniad o “diwrnod eithriedig”, ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

(g)yn ddiwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus;.

Diwygio adrannau 67, 69 a 70 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983

6.—(1Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 67 (penodi asiant etholiadol)(10), ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(6A) Where a candidate at an election of councillors to a county or county borough council in Wales has named themself as election agent and the home address form accompanying the candidate’s nomination paper contains a statement under rule 9(6) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 that the candidate’s home address must not be made public—

(a)the candidate’s home address must not be included in the public notice under subsection (6), and

(b)the information given in the candidate’s home address form under rule 9(7) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 must be included in the public notice instead.

(3Yn adran 69 (swyddfa asiant ac is-asiant etholiadol)(11), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) Subsection (1B) applies where—

(a)a candidate at an election of councillors to a county or county borough council in Wales has named themself as election agent,

(b)the home address form accompanying the candidate’s nomination paper contains a statement under rule 9(6) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 that the candidate’s home address must not be made public, and

(c)the office address that is required to be declared under subsection (1) is also the candidate’s home address.

(1B) If the candidate (in their capacity as election agent) does not want the office address to be included in the public notice under section 67(6), the candidate must, in addition to declaring the office address, provide the appropriate officer with another address in England or Wales to be used for correspondence (“a correspondence address”).

(1C) Where the candidate (in their capacity as election agent) provides a correspondence address under subsection (1B)—

(a)the office address must not be included in the public notice under section 67(6), and

(b)the correspondence address must be included instead.

(4Yn yr adran honno, yn is-adran (3)—

(a)ar ôl “or sub-agent”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “, or delivered to a correspondence address provided under subsection (1C),”;

(b)yn lle “addressed to him” rhodder “addressed to the agent”.

(5Yn adran 70 (effaith methu â phenodi asiant etholiadol)(12), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A) In relation to a candidate who is deemed by virtue of this section to be their own election agent at an election of councillors to a county or county borough in Wales, subsection (4) does not apply and the candidate’s office is instead deemed to be—

(a)in a case where the candidate’s home address given under rule 9(2)(b) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 is in England or Wales, at that address, and

(b)otherwise, at the candidate’s qualifying address as stated under rule 9(2)(c) of Schedule 1 or 2 to those Rules or, where more than one qualifying address is stated, at the first of those addresses.

(6Yn yr adran honno, ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8) In relation to a candidate who is deemed by virtue of this section to be their own election agent at an election of councillors to a county or county borough in Wales, subsection (6) does not apply and instead sections 67 and 69 apply with the following modifications.

(9) Section 67 applies as if the name and address of the candidate had been declared in writing to the appropriate officer under subsection (1) of that section.

(10) Section 69 applies as if—

(a)the address at which the candidate’s office is deemed to be had been declared to the appropriate officer under subsection (1)(a) of that section, and

(b)subsections (1A) to (1C) and (2) of that section were omitted.

Diwygio Rheolau 2006 etc.

7.—(1Mae Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006(13).

(2Mae Atodlen 2 yn gwneud diwygiadau i Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006(14).

Dirymu Gorchmynion Ffurflenni Cymraeg

8.—(1Mae Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) 2007(15) wedi ei ddirymu.

(2Mae Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) 2007(16) wedi ei ddirymu.

(3O ganlyniad i’r dirymiadau a wneir gan baragraffau (1) a (2), mae’r Gorchmynion a ganlyn hefyd wedi eu dirymu—

(a)Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 2014(17);

(b)Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 2014(18);

(c)Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 2017(19);

(d)Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 2017(20).

Diwygio Atodlen 4 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007

9.  Mae Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 4 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”)(21).

Diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001

10.—(1Mae rheoliad 56 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(22) (dyddiad cau ar gyfer ceisiadau) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ym mharagraff (3B), yn lle “relevant Welsh by-election” rhodder “relevant Welsh local government election”.

(3Yn lle paragraff (3C) rhodder—

(3C) In paragraph (3B), “relevant Welsh local government election” means a local government election in Wales the poll for which takes place before 31 May 2023.

(4O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir gan baragraffau (2) a (3)—

(a)yn Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020(23), hepgorer rheoliad 8(4);

(b)yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021(24), hepgorer rheoliad 2(4);

(c)mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021(25) wedi eu dirymu.

Diwygiadau canlyniadol eraill

11.  Mae Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau pellach o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021.

Darpariaeth drosiannol

12.  Nid yw’r dirymiadau a’r diwygiadau eraill a wneir gan y darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn yn effeithio ar gynnal etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru pe bai’r bleidlais yn digwydd, pe ymleddid yr etholiad, cyn 5 Mai 2022—

(a)rheoliadau 2 i 4;

(b)rheoliad 5(2) a (3);

(c)rheoliad 6;

(d)Atodlenni 1 a 2;

(e)rheoliad 8;

(f)yn Atodlen 3, Rhannau 2 a 3;

(g)yn Atodlen 4, paragraffau 1 a 3.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

9 Mawrth 2022

YR ATODLENNI

Rheoliad 7(1)

ATODLEN 1Diwygio Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006

1.  Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2.  Yn rheol 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “principal area”, yn lle’r geiriau o “in England” hyd at y diwedd rhodder “a county in England, a district or a London borough”.

3.—(1Mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 5 (papurau enwebu: enw plaid wleidyddol gofrestredig), ym mharagraff (6)(b), yn lle’r geiriau o “if the electoral area” hyd at “that part of Great Britain” rhodder “if the party was on the relevant day registered in respect of England”.

(3Yn rheol 7 (cydsyniad i enwebu)—

(a)ym mharagraff (b)(i), hepgorer “for a nomination in England,” a’r “or” ar y diwedd;

(b)hepgorer paragraff (b)(ii).

(4Yn rheol 18 (y marc swyddogol), ym mharagraff (2), hepgorer “county borough,”.

(5Yn rheol 26 (cyfarpar gorsafoedd pleidleisio)—

(a)hepgorer paragraffau (4A) a (4B);

(b)ym mharagraff (5)(a), hepgorer “in the case of an election of councillors of a principal area in England,”;

(c)hepgorer paragraffau (5)(aa) a (5A).

(6Yn rheol 33 (cwestiynau i’w gofyn i bleidleiswyr), ym mharagraff (1), yn y Tabl, yn y drydedd golofn (Cwestiwn), ym mhob un o gwestiynau 1(b), 2(b) a 4, hepgorer “*(this county borough)”.

(7Yn yr Atodiad Ffurflenni, hepgorer y fersiynau o’r ffurflenni a ganlyn nad ydynt yn cael effaith ond o ran Cymru—

(a)ffurflen y papur enwebu;

(b)ffurflen cydsyniad yr ymgeisydd i’w enwebu;

(c)ffurflen blaen y papur pleidleisio;

(d)ffurflen cefn y papur pleidleisio.

4.—(1Mae Atodlen 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 5 (papurau enwebu: enw plaid wleidyddol gofrestredig), ym mharagraff (6)(b), yn lle’r geiriau o “if the electoral area” hyd at “that part of Great Britain” rhodder “if the party was on the relevant day registered in respect of England”.

(3Yn rheol 7 (cydsyniad i enwebu)—

(a)ym mharagraff (b)(i), hepgorer “for a nomination in England,” a’r “or” ar y diwedd;

(b)hepgorer paragraff (b)(ii).

(4Yn rheol 18 (y marc swyddogol), ym mharagraff (2), hepgorer “county borough,”.

(5Yn rheol 26 (cyfarpar gorsafoedd pleidleisio)—

(a)hepgorer paragraffau (5A) a (5B);

(b)ym mharagraff (6)(a), hepgorer “in relation to an election of councillors of a principal area in England”;

(c)hepgorer paragraffau (6)(aa) a (6A).

(6Yn rheol 33 (cwestiynau i’w gofyn i bleidleiswyr), ym mharagraff (1), yn y Tabl, yn y drydedd golofn (Cwestiwn), ym mhob un o gwestiynau 1(b), 2(b) a 4, hepgorer “*(this county borough)”.

(7Yn yr Atodiad Ffurflenni, hepgorer y fersiynau o’r ffurflenni a ganlyn nad ydynt yn cael effaith ond o ran Cymru—

(a)ffurflen y papur enwebu;

(b)ffurflen cydsyniad yr ymgeisydd i’w enwebu;

(c)ffurflen blaen y papur pleidleisio;

(d)ffurflen cefn y papur pleidleisio.

Rheoliad 7(2)

ATODLEN 2Diwygio Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006

1.  Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2.—(1Mae rheol 2 (dehongli) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “principal area”, yn lle’r geiriau o “in England” hyd at y diwedd rhodder “a county in England, a district or a London borough”.

(3Ym mharagraff (2), hepgorer “or community”.

3.  Yn rheol 3 (rheolau etholiadau), hepgorer “or community”.

4.  Yn rheol 4 (cyfuno cynnal pleidleisiau), hepgorer “or community” ym mhob lle y mae’n digwydd.

5.—(1Mae rheol 5 (llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), hepgorer “or community”.

(3Ym mharagraff (2)(a), hepgorer y geiriau o “or the county” hyd at “is situate”.

(4Ym mharagraff (3), hepgorer “or community”.

(5Ym mharagraff (5), hepgorer “or community”.

(6Ym mharagraff (6), hepgorer “or community”.

6.  Yn rheol 6 (addasu Deddf 1983), hepgorer “or community” ym mhob lle y mae’n digwydd.

7.  Yn rheol 7 (ffurflen datganiad), hepgorer “or community”.

8.—(1Mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y pennawd, hepgorer “or Community”.

(3Yn rheol 5 (papurau enwebu: enw plaid wleidyddol gofrestredig), ym mharagraff (6)(b), yn lle’r geiriau o “if the electoral area” hyd at “that part of Great Britain” rhodder “if the party was on the relevant day registered in respect of England”.

(4Yn rheol 6 (tanysgrifio papur enwebu), ym mharagraff (5), hepgorer “or community”.

(5Yn rheol 7 (cydsyniad i enwebu)—

(a)ym mharagraff (b)(i), hepgorer “for a nomination in England,” a’r “or” ar y diwedd;

(b)hepgorer paragraff (b)(ii).

(6Yn rheol 12 (enwebu mewn mwy nag un ward), hepgorer “or community”.

(7Yn rheol 18 (y marc swyddogol), ym mharagraff (2), hepgorer “or community”.

(8Yn rheol 25 (dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol)—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “or community” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(b)ym mharagraff (5)(a), hepgorer “or community”.

(9Yn rheol 33 (cwestiynau i’w gofyn i bleidleiswyr), ym mharagraff (1), yn y Tabl, yn y drydedd golofn (Cwestiwn), ym mhob un o gwestiynau 1(b), 2(b) a 4, yn lle’r geiriau o “*(this parish)” hyd at “inapplicable” rhodder “this parish”.

(10Yn rheol 50 (datgan y canlyniad)—

(a)ym mharagraff (1)(b)—

(i)ym mharagraff (i), hepgorer “or community”;

(ii)ym mharagraff (ii), hepgorer y geiriau o “or the county” hyd at “is situate”;

(b)ym mharagraff (2)(b)—

(i)ym mharagraff (i), hepgorer “or community”;

(ii)ym mharagraff (ii), hepgorer y geiriau o “or the county” hyd at “is situate”.

(11Yn rheol 52 (danfon dogfennau i’r swyddog cofrestru perthnasol), ym mharagraff (2), hepgorer “or community”.

(12Yn yr Atodiad Ffurflenni, hepgorer y fersiynau o’r ffurflenni a ganlyn nad ydynt yn cael effaith ond o ran Cymru—

(a)ffurflen y papur enwebu;

(b)ffurflen cydsyniad yr ymgeisydd i’w enwebu;

(c)ffurflen blaen y papur pleidleisio;

(d)ffurflen cefn y papur pleidleisio.

(13Yn y ffurflen cyfarwyddydau ynghylch argraffu’r papur pleidleisio, ym mharagraff 3(b), hepgorer “or community”.

(14Yn y ffurflen rhestr rhifau cyfatebol—

(a)yn y rhan o’r ffurflen sydd â’r pennawd “Corresponding Number List-L1”—

(i)yn y geiriau mewn cromfachau o dan y pennawd, hepgorer “or Community”;

(ii)yn y geiriau ar ôl y cromfachau hynny, hepgorer “or Community”;

(b)yn y rhan o’r ffurflen sydd â’r pennawd “Corresponding Number List-L2”—

(i)yn y geiriau mewn cromfachau o dan y pennawd, hepgorer “or Community”;

(ii)yn y geiriau ar ôl y cromfachau hynny, hepgorer “or Community”.

(15Yn y ffurflen datganiad pleidleisio drwy’r post, yn y geiriau o dan bennawd y ffurflen, yn lle “parish/community council” rhodder “parish council”.

(16Ym mhob un o’r ffurflenni cardiau pleidleisio, yn y geiriau o dan bennawd y ffurflen, yn lle “parish/community council” rhodder “parish council”.

(17Yn y ffurflen tystysgrif gyflogaeth, yn y geiriau o dan bennawd y ffurflen, yn lle “parish/community council” rhodder “parish council”.

(18Yn y ffurflen datganiad i’w wneud gan gydymaith pleidleisiwr ag anableddau, yn y geiriau o dan bennawd y ffurflen, yn lle “parish/community council” rhodder “parish council”.

9.—(1Mae Atodlen 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y pennawd, hepgorer “or Community”.

(3Yn rheol 5 (papurau enwebu: enw plaid wleidyddol gofrestredig), ym mharagraff (6)(b), yn lle’r geiriau o “if the electoral area” hyd at “that part of Great Britain” rhodder “if the party was on the relevant day registered in respect of England”.

(4Yn rheol 6 (tanysgrifio papur enwebu), ym mharagraff (5), hepgorer “or community”.

(5Yn rheol 7 (cydsyniad i enwebu)—

(a)ym mharagraff (b)(i), hepgorer “for a nomination in England,” a’r “or” ar y diwedd;

(b)hepgorer paragraff (b)(ii).

(6Yn rheol 12 (enwebu mewn mwy nag un ward), hepgorer “or community”.

(7Yn rheol 18 (y marc swyddogol), ym mharagraff (2), hepgorer “or community”.

(8Yn rheol 21 (hysbysiad y bleidlais), ym mharagraff (4)(a), hepgorer “or community”.

(9Yn rheol 25 (dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol)—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “or community”;

(b)ym mharagraff (5)(a), hepgorer “or community”.

(10Yn rheol 26 (cyfarpar gorsafoedd pleidleisio), ym mharagraff (2), hepgorer “or community”.

(11Yn rheol 30 (derbyn i’r orsaf bleidleisio), ym mharagraff (1)(i), hepgorer “or community”.

(12Yn rheol 33 (cwestiynau i’w gofyn i bleidleiswyr), ym mharagraff (1), yn y Tabl, yn y drydedd golofn (Cwestiwn), ym mhob un o gwestiynau 1(b), 2(b) a 4, yn lle’r geiriau o “*(this parish)” hyd at “inapplicable” rhodder “this parish”.

(13Yn rheol 35 (gweithdrefn bleidleisio), ym mharagraff (6), hepgorer “or community”.

(14Yn rheol 36 (marcio pleidleisiau gan y swyddog llywyddu), ym mharagraff (4), hepgorer “or community”.

(15Yn rheol 37 (pleidleisio gan bersonau ag anableddau), ym mharagraff (6), hepgorer “or community”.

(16Yn rheol 39 (papurau pleidleisio a dendrwyd: darpariaethau cyffredinol), ym mharagraff (3), hepgorer “or community”.

(17Yn rheol 43 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais), ym mharagraff (1), hepgorer “or community”.

(18Yn rheol 44 (presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif)—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “or community” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(b)ym mharagraff (2), hepgorer “or community”;

(c)ym mharagraff (4), hepgorer “or community”.

(19Yn rheol 45 (y cyfrif)—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “or community” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(b)ym mharagraff (3), hepgorer “or community”;

(c)ym mharagraff (4), hepgorer “or community”;

(d)ym mharagraff (7)(a), hepgorer “or community”.

(20Yn rheol 50 (datgan y canlyniad)—

(a)ym mharagraff (1)(b)—

(i)ym mharagraff (i), hepgorer “or community”;

(ii)ym mharagraff (ii), hepgorer y geiriau o “or the county” hyd at “is situate”;

(b)ym mharagraff (2)(b)—

(i)ym mharagraff (i), hepgorer “or community”;

(ii)hepgorer y geiriau o “or the county” hyd at “is situate”.

(21Yn rheol 52 (danfon dogfennau i’r swyddog cofrestru perthnasol), ym mharagraff (3), hepgorer “or community” ym mhob lle y mae’n digwydd.

(22Yn rheol 55 (diddymu’r bleidlais neu roi’r gorau iddi ar ôl i ymgeisydd farw)—

(a)ym mharagraff (2), hepgorer “or community”;

(b)ym mharagraff (3), hepgorer “or community”;

(c)ym mharagraff (4), hepgorer “or community”;

(d)ym mharagraff (5), hepgorer “or community”;

(e)ym mharagraff (7), hepgorer “or community” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(f)ym mharagraff (8), hepgorer “or community”;

(g)ym mharagraff (9), hepgorer “or community”.

(23Yn yr Atodiad Ffurflenni, hepgorer y fersiynau o’r ffurflenni a ganlyn nad ydynt yn cael effaith ond o ran Cymru—

(a)ffurflen y papur enwebu;

(b)ffurflen cydsyniad yr ymgeisydd i’w enwebu;

(c)ffurflen blaen y papur pleidleisio;

(d)ffurflen cefn y papur pleidleisio.

(24Yn y ffurflen cyfarwyddydau ynghylch argraffu’r papur pleidleisio, ym mharagraff 3(b), hepgorer “or community”.

(25Yn y ffurflen rhestr rhifau cyfatebol—

(a)yn y ffurflen sydd â’r pennawd “Corresponding Number List-M1”—

(i)yn y geiriau mewn cromfachau o dan y pennawd, hepgorer “or community”;

(ii)yn y geiriau ar ôl y cromfachau hynny, hepgorer “or Community”;

(b)yn y ffurflen sydd â’r pennawd “Corresponding Number List-M2”—

(i)yn y geiriau mewn cromfachau o dan y pennawd, hepgorer “or community”;

(ii)yn y geiriau ar ôl y cromfachau hynny, hepgorer “or Community”.

(26Ym mhob un o’r ffurflenni datganiad pleidleisio drwy’r post—

(a)yn y geiriau o dan y pennawd, yn lle “parish/community” rhodder “parish”;

(b)yn y cyfarwyddiadau ar gyfer pleidleisio drwy’r post—

(i)yn lle “parish/community” rhodder “parish”;

(ii)yn lle “Parish/Community” rhodder “Parish”.

(27Ym mhob un o’r ffurflenni cardiau pleidleisio, yn y geiriau o dan bennawd y ffurflen, yn lle “parish/community” rhodder “parish”.

(28Yn y ffurflen tystysgrif gyflogaeth, yn y geiriau o dan bennawd y ffurflen, yn lle “parish/community” rhodder “parish”.

(29Yn y ffurflen datganiad i’w wneud gan gydymaith pleidleisiwr ag anableddau, yn y geiriau o dan bennawd y ffurflen, yn lle “parish/community” rhodder “parish”.

Rheoliad 9

ATODLEN 3Diwygio Atodlen 4 i Orchymyn 2007

RHAN 1Diwygio Rhan 1 o Atodlen 4

1.  Mae Rhan 1 o Atodlen 4 i Orchymyn 2007 (Cyfuno cynnal pleidleisiau: etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2.  Ym mharagraff 2 (swyddogaethau mewn pleidleisiau wedi eu cyfuno), yn is-baragraff (1)(b), yn lle “section 36” rhodder “section 36A”.

3.—(1Mae paragraff 3 (addasu darpariaethau ynghylch treuliau yn y Gorchymyn hwn ac yn Neddf 1983) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (1)(c), yn lle “section 36(4) and (5A)” rhodder “section 36C(1) to (3)”.

(3Yn is-baragraff (2), yn lle “section 36(6)” rhodder “section 36C(3)”.

(4Yn is-baragraff (4)—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “section 36(4)” rhodder “section 36C(1)”;

(b)ym mharagraff (b), yn lle “section 36(5A)” rhodder “section 36C(2)”.

RHAN 2Amnewid Rhan 3 o Atodlen 4

4.  Yn lle Rhan 3 o Atodlen 4 i Orchymyn 2007 rhodder—

PART 3Application of the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 where the poll at an election of councillors to a county or county borough council is taken together with the poll at a Senedd Cymru election under article 16(1) or (2)

27.  The following provisions of the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 apply where the poll at an election of councillors to a county or county borough council is taken together with the poll at a Senedd Cymru election under article 16(1) or (2), subject to the modifications set out in this Part of this Schedule—

(a)rules 3 and 4;

(b)rule 5(3) to (7) and Schedule 2.

28.(1) Rule 3 (interpretation) is modified as follows.

(2) In paragraph (1)—

(a)in the English language text, for the definition of “the Combination of Polls Regulations” substitute—

the 2007 Order” (“Gorchymyn 2007”) means the National Assembly for Wales (Representation of the People) Order 2007;;

(b)in the Welsh language text, for the definition of “Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau” substitute—

ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007;.

(3) For paragraph (2)—

(a)in the English language text substitute—

(2) For the purposes of these Rules, each of the following is a “relevant election”—

(a)the Senedd Cymru election with which the poll at the election of councillors to a county or county borough council is combined;

(b)an election of councillors to a community council where the poll at the election is combined with the poll at the Senedd Cymru election and the poll at the election of councillors to a county or county borough council;

(c)a mayoral election, that is, an election conducted under the Local Authorities (Mayoral Elections) (England and Wales) Regulations 2007 where the poll at the election is combined with the poll at the Senedd Cymru election and the poll at the election of councillors to a county or county borough council.;

(b)in the Welsh language text substitute—

(2) At ddibenion y Rheolau hyn, mae pob un o’r canlynol yn “etholiad perthnasol”—

(a)yr etholiad Senedd Cymru y mae’r bleidlais yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn cael ei chyfuno ag ef;

(b)etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned pan fo’r bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chyfuno â’r bleidlais yn yr etholiad Senedd Cymru a’r bleidlais yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

(c)etholiad maer, hynny yw, etholiad a gynhelir o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Etholiadau Maerol) (Cymru a Lloegr) 2007 pan fo’r bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chyfuno â’r bleidlais yn yr etholiad Senedd Cymru a’r bleidlais yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

29.  In rule 5 (conduct of elections to the council of a principal area), in paragraph (4)—

(a)in the English language text, for the words from “who, under” to the end of the paragraph substitute “who, under paragraph 1 of Schedule 4 to the 2007 Order, is responsible for discharging functions specified in paragraph 2 of that Schedule.”;

(b)in the Welsh language text, for the words from “sydd, o dan” to the end of the paragraph substitute “sydd, o dan baragraff 1 o Atodlen 4 i Orchymyn 2007, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 o’r Atodlen honno.”

30.(1) Schedule 2 (Rules for conduct of an election of councillors for a principal area where poll is taken together with poll at a relevant election) is modified as follows.

(2) In the English language text, in each of the following places, for “regulations 4 and 5 of the Combination of Polls Regulations” substitute “paragraphs 1 and 2 of Schedule 4 to the 2007 Order”; and in the Welsh language text, in each of the following places, for “reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau” substitute “baragraffau 1 a 2 o Atodlen 4 i Orchymyn 2007”

(a)rule 23(6) (corresponding number list);

(b)rule 27(6) (notice of situation of polling stations);

(c)rule 28(5) (postal ballot papers);

(d)rule 29(4) (provision of polling stations);

(e)rule 30(6) (appointment of presiding officers and clerks);

(f)rule 32(14) (equipment of polling stations);

(g)rule 35(4) (notification of requirement of secrecy);

(h)rule 36(4) (return of postal ballot papers);

(i)rule 37(9) (signature of certificate as to employment);

(j)rule 38(7) (keeping of order in station).

(3) In rule 27 (notice of poll), in paragraph (4), for sub-paragraph (b)—

(a)in the English language text substitute—

(b)specify the constituency or electoral region to which the Senedd Cymru election relates,

(ba)specify the area to which any other relevant election relates, and;

(b)in the Welsh language text substitute—

(b)pennu’r etholaeth neu’r rhanbarth etholiadol y mae’r etholiad Senedd Cymru yn ymwneud â hi neu ag ef,

(ba)pennu’r ardal y mae unrhyw etholiad perthnasol arall yn ymwneud â hi, ac.

(4) In rule 50 (adjournment of poll in case of riot), in paragraph (2), in sub-paragraph (b)—

(a)in the English language text, at the end insert “and, where the Senedd Cymru election is or includes a regional election, the regional returning officer”;

(b)in the Welsh language text, after “cydlynol” insert “, a phan fo’r etholiad Senedd Cymru yn etholiad rhanbarthol neu pan fo’n cynnwys etholiad rhanbarthol, y swyddog canlyniadau rhanbarthol,”.

RHAN 3Amnewid Rhan 4 o Atodlen 4

5.  Yn lle Rhan 4 o Atodlen 4 i Orchymyn 2007 rhodder—

PART 4Application of the Local Elections (Communities) (Wales) Rules 2021 where the poll at an election of councillors to a community council is taken together with the poll at a Senedd Cymru election under article 16(1) or (2)

31.  The following provisions of the Local Elections (Communities) (Wales) Rules 2021 apply where the poll at an election of councillors to a community council is taken together with the poll at a Senedd Cymru election under article 16(1) or (2), subject to the modifications set out in this Part of this Schedule—

(a)rule 3;

(b)rule 4(3) to (7) and Schedule 2;

(c)rules 6 and 7 and Schedule 3.

32.(1) Rule 3 (interpretation) is modified as follows.

(2) In paragraph (1)—

(a)in the English language text, for the definition of “the Combination of Polls Regulations” substitute—

the 2007 Order” (“Gorchymyn 2007”) means the National Assembly for Wales (Representation of the People) Order 2007;;

(b)in the Welsh language text, for the definition of “Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau” substitute—

ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007;.

(3) For paragraph (2)—

(a)in the English language text substitute—

(2) For the purposes of these Rules, each of the following is a “relevant election”—

(a)the Senedd Cymru election with which the poll at the election of councillors to a community council is combined;

(b)an election of councillors to a county or county borough council where the poll at the election is combined with the poll at the Senedd Cymru election and the poll at the election of councillors to a community council;

(c)a mayoral election, that is, an election conducted under the Local Authorities (Mayoral Elections) (England and Wales) Regulations 2007 where the poll at the election is combined with the poll at the Senedd Cymru election and the poll at the election of councillors to a community council.;

(b)in the Welsh language text substitute—

(2) At ddibenion y Rheolau hyn, mae pob un o’r canlynol yn “etholiad perthnasol”—

(a)yr etholiad Senedd Cymru y mae’r bleidlais yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor cymuned yn cael ei chyfuno ag ef;

(b)etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan fo’r bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chyfuno â’r bleidlais yn yr etholiad Senedd Cymru a’r bleidlais yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor cymuned;

(c)etholiad maer, hynny yw, etholiad a gynhelir o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Etholiadau Maerol) (Cymru a Lloegr) 2007 pan fo’r bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chyfuno â’r bleidlais yn yr etholiad Senedd Cymru a’r bleidlais yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor cymuned.

33.  In rule 4 (conduct of elections to a community council), in paragraph (4)—

(a)in the English language text, for the words from “who, under” to the end of the paragraph substitute “who, under paragraph 1 of Schedule 4 to the 2007 Order, is responsible for discharging functions specified in paragraph 2 of that Schedule.”;

(b)in the Welsh language text, for the words from “sydd, o dan” to the end of the paragraph substitute “sydd, o dan baragraff 1 o Atodlen 4 i Orchymyn 2007, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 o’r Atodlen honno.”

34.(1) Schedule 2 (Rules for conduct of an election of councillors for a community where poll is taken together with poll at a relevant election) is modified as follows.

(2) In the English language text, in each of the following places, for “regulations 4 and 5 of the Combination of Polls Regulations” substitute “paragraphs 1 and 2 of Schedule 4 to the 2007 Order”; and in the Welsh language text, in each of the following places, for “reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau” substitute “baragraffau 1 a 2 o Atodlen 4 i Orchymyn 2007”

(a)rule 23(6) (corresponding number list);

(b)rule 27(6) (notice of situation of polling stations);

(c)rule 28(5) (postal ballot papers);

(d)rule 29(4) (provision of polling stations);

(e)rule 30(6) (appointment of presiding officers and clerks);

(f)rule 32(14) (equipment of polling stations);

(g)rule 35(4) (notification of requirement of secrecy);

(h)rule 36(4) (return of postal ballot papers);

(i)rule 37(9) (signature of certificate as to employment);

(j)rule 38(7) (keeping of order in station).

(3) In rule 27 (notice of poll), in paragraph (4), for sub-paragraph (b)—

(a)in the English language text substitute—

(b)specify the constituency or electoral region to which the Senedd Cymru election relates,

(ba)specify the area to which any other relevant election relates, and;

(b)in the Welsh language text substitute—

(b)pennu’r etholaeth neu’r rhanbarth etholiadol y mae’r etholiad Senedd Cymru yn ymwneud â hi neu ag ef,

(ba)pennu’r ardal y mae unrhyw etholiad perthnasol arall yn ymwneud â hi, ac.

(4) In rule 50 (adjournment of poll in case of riot), in paragraph (2), in sub-paragraph (b)—

(a)in the English language text, at the end insert “and, where the Senedd Cymru election is or includes a regional election, the regional returning officer”;

(b)in the Welsh language text, after “cydlynol” insert “, a phan fo’r etholiad Senedd Cymru yn etholiad rhanbarthol neu pan fo’n cynnwys etholiad rhanbarthol, y swyddog canlyniadau rhanbarthol,”.

Rheoliad 11

ATODLEN 4Diwygiadau canlyniadol pellach

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

1.  Yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, hepgorer y canlynol—

(a)adran 13(4);

(b)yn Atodlen 2, paragraff 19.

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Cynnal Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004

2.  Yn rheoliad 6 (addasu darpariaethau ynghylch treuliau yn Neddf 1983) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Cynnal Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004(26), ym mharagraff (4), yn lle “subsections (4), (4B), (5) and (5A) respectively of section 36” rhodder “section 36(4), (4B) or (5) or section 36C(1) or (2)”.

Rheoliadau Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012

3.—(1Mae rheoliad 4 o Reoliadau Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012(27) (pŵer i roi cyfarwyddydau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (3)(a) mewnosoder—

(aa)rule 55 of the rules set out in Schedule 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 (separation of ballot papers etc.);.

(3Ar ôl paragraff (3)(b) mewnosoder—

(ba)rule 55 of the rules set out in Schedule 2 to the Local Elections (Communities) (Wales) Rules 2021 (separation of ballot papers etc.);.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau hyn)

Mae rheoliad 1 yn darparu ar gyfer enwi a chychwyn y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1459 (Cy. 374)) a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1460 (Cy. 375)) o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(1) i (4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) (“Deddf 1983”). Mae’r diwygiadau’n ychwanegu, at y rhestr o seiliau y caiff y swyddog canlyniadau ddyfarnu bod papur enwebu’n annilys arnynt, nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau y mae’n ofynnol i’r ymgeisydd eu cynnwys yn ei bapur enwebu, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.

Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiadau pellach i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(1) i (4) o Ddeddf 1983. Mae’r prif ddiwygiadau i’r rheolau sy’n llywodraethu’r weithdrefn wrth gau’r bleidlais (rheol 51 ym mhob un o’r Atodlenni i’r ddwy set o Reolau). Mae’r diwygiadau hyn yn galluogi’r copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon a’r rhestr rhifau cyfatebol a farciwyd i gael eu rhoi mewn pecynnau a’u selio mewn man heblaw’r orsaf bleidleisio. O ganlyniad i hyn, mae rheol 30 o bob un o’r Atodlenni hefyd wedi ei diwygio fel y caiff y swyddog llywyddu awdurdodi’r clercod a benodwyd gan y swyddog canlyniadau i weithredu yn unrhyw fan lle y mae’r swyddog llywyddu yn cyflawni swyddogaethau.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheol 31 o Atodlen 2 i Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(1), (3) a (4) o Ddeddf 1983. Mae Atodlen 2 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys pan fo’r bleidlais mewn etholiad cymuned yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiadau penodol eraill. Mae’r diwygiadau’n darparu y bydd cardiau pleidleisio swyddogol yn yr etholiad cymuned yn cael eu dyroddi ar gais y cyngor, ac eithrio cardiau pleidleisio a ddyroddir i etholwyr sydd â chofnodion dienw y mae rhaid iddynt gael eu dyroddi pa un a oes cais ai peidio. Mae’r diwygiadau’n cywiro amryfusedd yn y Rheolau hynny ac yn golygu mai’r un yw’r sefyllfa o ran dyroddi cardiau pleidleisio mewn etholiadau cymuned pa un a yw’r bleidlais yn cael ei chyfuno ai peidio.

Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau sy’n ymwneud â’r amserlen ar gyfer etholiadau. Mae paragraffau (2) a (3) yn diwygio Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 er mwyn ychwanegu, at y rhestr o ddiwrnodau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo cyfnodau o amser yn amserlen yr etholiad, ddiwrnodau a bennwyd ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus. Mae’r diwygiadau’n cywiro hepgoriad yn y Rheolau hynny ac fe’u gwneir o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(1) i (4) o Ddeddf 1983. Mae paragraff (1) yn gwneud diwygiad cysylltiedig i adran 40(1) o Ddeddf 1983 ac yn yr un modd yn cywiro hepgoriad yn yr adran honno. Effaith y diwygiad yw, pan fyddai’r bleidlais mewn etholiad llywodraeth leol cyffredin yng Nghymru yn digwydd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, gŵyl banc neu ddiwrnod a bennwyd ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus, fod yr etholiad wedi ei ohirio tan y diwrnod cyntaf wedi hynny nad yw’n un o’r diwrnodau hynny. Gwneir y diwygiad hwn o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983.

Mae rheoliad 6 yn diwygio adrannau 67, 69 a 70 o Ddeddf 1983 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o’r Ddeddf honno. O dan reol 9(6) o bob un o Atodlenni 1 a 2 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021, mae’n bosibl i ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru gynnwys datganiad yn ei ffurflen cyfeiriad cartref na chaniateir cyhoeddi ei gyfeiriad cartref. Pan fo’r ymgeisydd yn gwneud hyn, ni chynhwysir ei gyfeiriad cartref yn y datganiad o’r personau a enwebwyd nac ar y papur pleidleisio. Fodd bynnag, mae rhai ymgeiswyr hefyd yn gweithredu fel eu hasiant etholiadol eu hunain, sy’n golygu y byddai eu cyfeiriad cartref i’w gyhoeddi o dan adran 67(6) o Ddeddf 1983. Gan fod hyn yn anghyson â’r polisi o ganiatáu i ymgeiswyr gadw eu cyfeiriad cartref yn breifat, mae rheoliad 6(2) yn diwygio adran 67 er mwyn sicrhau, pan fo ymgeisydd sy’n gweithredu fel ei asiant etholiadol ei hun wedi datgan yn ei ffurflen cyfeiriad cartref na chaniateir cyhoeddi ei gyfeiriad cartref, na chyhoeddir y cyfeiriad cartref o dan adran 67(6). Yn hytrach, gwybodaeth sylfaenol yn unig, sef yn gyffredinol enw’r ardal llywodraeth leol y mae’r ymgeisydd yn byw ynddi, a gyhoeddir.

Mae rheoliad 6(3) a (4) yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i adran 69 o Ddeddf 1983 er mwyn ymdrin â’r sefyllfa pan fo’r ymgeisydd yn defnyddio ei gartref fel ei swyddfa, ac o ganlyniad y byddai ei gyfeiriad cartref i’w ddatgan fel ei gyfeiriad swyddfa a’i gynnwys o’r herwydd yn yr hysbysiad cyhoeddus o dan adran 67(6). Mae’r diwygiadau’n caniatáu i’r ymgeisydd yn y sefyllfa hon ddarparu cyfeiriad yng Nghymru neu yn Lloegr heblaw ei gyfeiriad cartref (“cyfeiriad gohebu”), y caiff gweinyddwyr etholiadol ac eraill ei ddefnyddio wedyn i gyflwyno hysbysiadau etc. sy’n ymwneud â’r etholiad. Pan fo’r ymgeisydd yn gwneud hyn, cyhoeddir y cyfeiriad gohebu yn yr hysbysiad o dan adran 67(6) (yn hytrach na’r cyfeiriad swyddfa) a bernir bod hysbysiadau etc. sydd wedi eu danfon i’r cyfeiriad gohebu wedi eu cyflwyno yn yr un modd ag y byddent wedi eu cyflwyno pe baent wedi eu danfon i’r cyfeiriad swyddfa.

Mae rheoliad 6(5) a (6) yn diwygio adran 70 o Ddeddf 1983 sy’n ymdrin â sefyllfa ymgeisydd sy’n dod yn asiant etholiadol iddo ef ei hun oherwydd methiant, fel arfer am nad yw wedi penodi unrhyw un yn asiant etholiadol iddo. Mae’r diwygiadau’n darparu ar gyfer barnu bod gan yr ymgeisydd swyddfa yn y cyfeiriad cartref a roddir yn ei ffurflen cyfeiriad cartref os yw’r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru neu yn Lloegr, ac fel arall yn y cyfeiriad y cadarnhaodd ei gymhwyster i fod yn ymgeisydd yn ei rinwedd (“y cyfeiriad cymwys”). Mae’r diwygiadau hefyd yn ymdrin â chymhwyso adrannau 67 a 69 yn y sefyllfa hon. Mae adran 67 yn gymwys yn y ffordd arferol. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw gyfle i’r ymgeisydd ddarparu cyfeiriad gohebu arall o dan adran 69. O ganlyniad, bydd cyfeiriad swyddfa tybiedig yr ymgeisydd bob amser yn cael ei gynnwys yn yr hysbysiad cyhoeddus a roddir.

Gwneir rheoliad 7 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983. Mae rheoliad 7(1) yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n diwygio Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 (O.S. 2006/3304) fel nad ydynt yn gymwys ond o ran Lloegr. Gwneir darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau lleol ar gyfer prif ardaloedd yng Nghymru bellach gan Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021. Mae rheoliad 7(2) yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n diwygio Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006 (O.S. 2006/3305) fel nad ydynt yn gymwys ond o ran plwyfi yn Lloegr. Gwneir darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau lleol ar gyfer cymunedau yng Nghymru bellach gan Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021.

Gwneir rheoliad 8 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983. Mae’n dirymu Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) 2007 (O.S. 2007/1015), Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) 2007 (O.S. 2007/1013) ac offerynnau sy’n diwygio’r Gorchmynion hynny. Mae’r Gorchmynion bellach wedi eu disbyddu o ganlyniad i’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021.

Mae rheoliad 9 yn cyflwyno Atodlen 3 sy’n diwygio Atodlen 4 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236) (“Gorchymyn 2007”). Mae Atodlen 4 i Orchymyn 2007 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr hyn sy’n digwydd pan fo’r bleidlais mewn etholiad Senedd Cymru yn cael ei chyfuno â phleidlais mewn etholiad llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 4 i Orchymyn 2007 o ganlyniad i ddarpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“Deddf 2021”). Er enghraifft, mae paragraff 2 o’r Atodlen yn newid cyfeiriad at adran 36 o Ddeddf 1983 yn gyfeiriad at adran 36A o’r Ddeddf honno, newid sy’n angenrheidiol oherwydd mai effaith diwygiadau a wneir gan adran 13 o Ddeddf 2021 yw fod y pŵer i wneud rheolau sy’n llywodraethu cynnal etholiadau yng Nghymru bellach yn cael ei roi gan adran 36A yn hytrach nag adran 36. Gwneir y diwygiadau yn Rhan 1 o dan y pwerau a roddir gan adran 173(1) a (2) o Ddeddf 2021.

Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn rhoi Rhan 3 newydd yn lle’r Rhan 3 bresennol o Atodlen 4 i Orchymyn 2007, sy’n nodi’r modd y cymhwysir gydag addasiadau ddarpariaethau Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 pan fo’r bleidlais mewn etholiad prif ardal yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad Senedd Cymru. Mae hyn yn angenrheidiol oherwydd nad yw Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 yn gymwys mwyach o ran Cymru. Gwneir y diwygiadau yn Rhan 2 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983.

Mae Rhan 3 o Atodlen 3 yn rhoi Rhan 4 newydd yn lle’r Rhan 4 bresennol o Atodlen 4 i Orchymyn 2007, sy’n nodi’r modd y cymhwysir gydag addasiadau ddarpariaethau Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 pan fo’r bleidlais mewn etholiad cymuned yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad Senedd Cymru. Mae hyn yn angenrheidiol oherwydd nad yw Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006 yn gymwys mwyach o ran Cymru. Gwneir y diwygiadau yn Rhan 3 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983.

Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 56(3B) a (3C) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341) ac fe’i gwneir o dan y pwerau a roddir gan baragraffau 4(2)(c) a 6(7) ac (8) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2). Mewnosodwyd rheoliad 56(3B) a (3C) gan reoliad 8 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1399 (Cy. 310)) ac, o dan reoliad 8(4), byddai’r rheoliad yn dod i ben ar ddiwedd 3 Rhagfyr 2022. Roedd rheoliad 56(3B) a (3C) yn galluogi ceisiadau penodol yn ymwneud â phleidleisio drwy ddirprwy i gael eu gwneud hyd 5 p.m. ar ddiwrnod y bleidlais mewn is-etholiad llywodraeth leol yng Nghymru ar seiliau sy’n ymwneud â phandemig Covid-19. Diwygiwyd y rheoliad wedi hynny gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (O.S. 2021/193 (Cy. 375)) a Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/1247 (Cy. 319)), ac roedd y Rheoliadau olaf hyn yn estyn cymhwysiad y diwygiadau i is-etholiadau y mae’r bleidlais ar eu cyfer yn digwydd cyn 28 Mawrth 2022. Mae rheoliad 10(2) a (3) yn gwneud diwygiadau pellach er mwyn estyn cymhwysiad y diwygiadau i bob etholiad llywodraeth leol yng Nghymru y mae’r bleidlais ar ei gyfer yn digwydd cyn 31 Mai 2023. Mae rheoliad 10(4) yn gwneud diwygiadau canlyniadol, gan gynnwys hepgor rheoliad 8(4) o Reoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020.

Mae rheoliad 11 yn cyflwyno Atodlen 4 sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol pellach.

  • Mae paragraff 1 yn hepgor darpariaethau yn Neddf 2021 sydd bellach wedi eu disbyddu. Gwneir y diwygiadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983.

  • Mae paragraff 2 o’r Atodlen honno’n diwygio rheoliad 6 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Cynnal Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004 (O.S. 2004/294). Mae hyn yn angenrheidiol gan fod darpariaeth ynghylch treuliau swyddogion canlyniadau mewn etholiadau lleol yng Nghymru bellach yn cael ei gwneud gan adran 36C o Ddeddf 1983 (fel y’i mewnosodwyd gan baragraff 2(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 2021). Gwneir y diwygiadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 173(1) a (2) o Ddeddf 2021.

  • Mae paragraff 3 o’r Atodlen honno’n diwygio rheoliad 4 o Reoliadau Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012 (O.S. 2012/1918) er mwyn ychwanegu cyfeiriadau at reol 55 o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 ac o Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 (ymdrin â gwahanu papurau pleidleisio mewn pleidleisiau wedi eu cyfuno). Mae hyn yn angenrheidiol oherwydd na fydd y cyfeiriadau presennol at ddarpariaethau Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 a Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006 yn gymwys mwyach o ran Cymru. Gwneir y diwygiadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983.

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw dirymiadau perthnasol a diwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau yn effeithio ar gynnal etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru pan fo’r bleidlais yn yr etholiad yn digwydd cyn 5 Mai 2022. Gwneir y rheoliad hwn o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) o Ddeddf 1983.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

1983 p. 2. Mewnosodwyd adran 36A gan adran 13(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1). Caniateir arfer y pŵer i wneud rheolau o dan adran 36A i wneud rheoliadau yn rhinwedd adran 39(1) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

(2)

2000 p. 2. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf honno, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o fewn cymhwysedd datganoledig, i Weinidogion Cymru gan O.S. 2018/644. Diwygiwyd paragraff 4 o Atodlen 4 gan adran 14 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22). Am y diffiniad o “prescribed” yn Atodlen 4, gweler paragraff 1(2) o’r Atodlen honno ac adran 202(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

(5)

Mae paragraff 1(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 yn darparu bod Atodlen 4 yn cael effaith fel pe bai wedi ei chynnwys yn Rhan 1 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

(6)

Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

(9)

Diwygiwyd adran 40 gan adran 19 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50), gan baragraff 50 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 a chan adran 15(3) o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 (p. 6).

(10)

Diwygiwyd adran 67 gan baragraff 20 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 a chan baragraff 12 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p. 29).

(11)

Diwygiwyd adran 69 gan baragraff 22 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985, gan baragraff 68 o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19), gan baragraff 14 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 a chan baragraff 19 o Atodlen 18 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).

(12)

Diwygiwyd adran 70 gan baragraff 23 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 a chan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 2009 (p. 12).

(13)

O.S. 2006/3304. Diwygiwyd y Rheolau gan baragraff 19 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chan O.S. 2014/494, O.S. 2018/1308 ac O.S. 2018/1310. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(14)

O.S. 2006/3305. Diwygiwyd y Rheolau gan O.S. 2012/1917, O.S. 2014/492, O.S. 2015/104, O.S. 2017/67, O.S. 2018/1309 ac O.S. 2018/1310. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(15)

O.S. 2007/1015. Diwygiwyd y Gorchymyn gan O.S. 2014/918 ac O.S. 2017/145.

(16)

O.S. 2007/1013. Diwygiwyd y Gorchymyn gan O.S. 2014/919 ac O.S. 2017/146.

(21)

O.S. 2007/236. Diwygiwyd Atodlen 4 gan O.S. 2016/272. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(22)

O.S. 2001/341. Mewnosodwyd rheoliad 56(3B) a (3C) gan O.S. 2020/1399 (Cy. 310) ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2021/193 (Cy. 44) ac O.S. 2021/1247 (Cy. 319).

(26)

O.S. 2004/294. Diwygiwyd rheoliad 6 gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chan O.S. 2012/1917.