Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 248 (Cy. 74)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022

Gwnaed

7 Mawrth 2022

Yn dod i rym

11 Mawrth 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol cywiro’r camgymeriadau hynny ac yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pŵer a roddir gan adran 43(10) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Mawrth 2022.

Diwygio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021

2.—(1Mae’r Tabl yn yr Atodlen (enwau ac ardaloedd wardiau etholiadol a nifer aelodau’r cyngor) i Orchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yng ngholofn (3)—

(a)yn lle “a chymuned Pen-llin” rhodder “a chymunedau Llan-fair, a Phen-llin”;

(b)yn lle “Cymunedau Dinas Powys, a Llanfihangel-y-pwll” rhodder “Cymunedau Dinas Powys, a Llanfihangel-y-pwll a Lecwydd”;

(c)yn lle “Cymuned Sili” rhodder “Cymuned Sili a Larnog”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

7 Mawrth 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021 (“Gorchymyn 2021”), sy’n gweithredu’r argymhellion ar gyfer newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, dyddiedig Chwefror 2021 (“yr Adroddiad”).

Mae’r Tabl yn yr Atodlen i Orchymyn 2021 (“y Tabl”) yn nodi’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir yng ngholofn (3) o’r Tabl. Drwy gamgymeriad, hepgorodd yr Adroddiad wybodaeth benodol mewn perthynas â wardiau etholiadol y Bont-faen, Dinas Powys, a Sili ac o’r herwydd nid oedd yr wybodaeth honno’n ymddangos yng ngholofn (3) o’r Tabl. Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cywiro’r camgymeriad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.