Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
25 Chwefror 2022
Yn dod i rym
28 Chwefror 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4) a (5)(t) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Chwefror 2022.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local transport authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan Reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, y mae Gweinidogion Cymru wedi sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig mewn cysylltiad â’i ardal;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 2000(2).
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth “addasedig” o Ddeddf 2000 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i haddaswyd gan yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(3).
3. Pan fo’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf 2000 mewn cysylltiad ag ardal awdurdod trafnidiaeth lleol wedi ei rhoi i gyd-bwyllgor corfforedig, mae’r ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen.
4.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf 2000 mewn cysylltiad ag ardal awdurdod trafnidiaeth lleol wedi ei rhoi i gyd-bwyllgor corfforedig.
(2) Mae unrhyw bolisïau a ddatblygir gan gyngor cyfansoddol o dan adran 108(1)(a) o Ddeddf 2000 i’w trin fel pe baent yn bolisïau wedi eu datblygu gan y cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 108(1) addasedig o Ddeddf 2000 mewn cysylltiad â’r rhan honno o ardal y cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei chyfansoddi o ardal y cyngor cyfansoddol.
(3) Mae paragraff (2) yn peidio â bod yn gymwys pan fo’r cyd-bwyllgor corfforedig yn datblygu polisïau mewn cysylltiad â’r rhan honno o’i ardal o dan adran 108(1) addasedig o Ddeddf 2000.
(4) Mae unrhyw bolisïau a ddatblygir gan gyngor cyfansoddol o dan adran 108(2A) o Ddeddf 2000 i’w trin fel pe baent yn bolisïau wedi eu datblygu gan y cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 108(2A) addasedig mewn cysylltiad â’r rhan honno o ardal y cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei chyfansoddi o ardal y cyngor cyfansoddol.
(5) Mae paragraff (4) yn peidio â bod yn gymwys pan fo’r cyd-bwyllgor corfforedig yn datblygu polisïau mewn cysylltiad â’r rhan honno o’i ardal o dan adran 108(2A) addasedig.
(6) Mae cynllun trafnidiaeth lleol a gyflwynir gan gyngor cyfansoddol ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan adran 109A o Ddeddf 2000 i’w drin fel pe bai’n gynllun trafnidiaeth rhanbarthol wedi ei gyflwyno gan gyd-bwyllgor corfforedig a’i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 109A addasedig mewn cysylltiad â’r rhan honno o ardal y cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei chyfansoddi o ardal y cyngor cyfansoddol.
(7) Mae paragraff (6) yn peidio â bod yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun trafnidiaeth rhanbarthol y cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 109A addasedig.
5. Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014(4) wedi ei ddirymu.
Lee Waters
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2022
Rheoliad 3
1. Mae rheoliad 13 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005(5) i’w ddarllen fel pe bai—
(a)ym mharagraff (1), y canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraffau (a) a (b)—
“(a)unrhyw gynllun trafnidiaeth rhanbarthol a baratowyd o dan adran 108(3A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021), y mae ei bolisïau’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;
(b)unrhyw bolisïau eraill a baratowyd o dan adran 108(1) a (2A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021) sy’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;”;
(b)paragraff (3) wedi ei hepgor.
2. Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006(6) i’w darllen fel pe bai—
(a)yn adran 2 (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru), yn is-adran (5), y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (a)—
“(aa)each corporate joint committee upon whom the function of developing policies under section 108(1)(a) and (2A)(a) of Part 2 of the Transport Act 2000 has been conferred;”;
(b)yn adran 14 (dehongli), y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (3)—
“(4) “Corporate joint committee” means a corporate joint committee established by Regulations under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.”
3. Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(7) i’w darllen fel pe bai, yn y tabl yn Atodlen 3, y cofnod sy’n ymwneud â Chynllun Trafnidiaeth Lleol wedi ei hepgor.
4. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013(8) i’w darllen fel pe bai—
(a)y canlynol wedi ei roi yn lle adran 6 (datblygu polisïau trafnidiaeth gan roi sylw i fap rhwydwaith integredig)—
Rhaid i bob cyd-bwyllgor corfforedig y mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (polisïau sy’n sail i gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol) wedi ei rhoi iddo, wrth ddatblygu’r polisïau hynny, roi sylw i’r map rhwydwaith integredig ar gyfer ei ardal.”;
(b)yn adran 13, y canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol—
“ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan Reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff corfforedig sy’n cynnwys y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol hynny yng Nghymru a bennir yn y Rheoliadau sy’n eu sefydlu. Caniateir iddynt arfer y swyddogaethau a bennir yn y Rheoliadau hynny, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) swyddogaethau penodedig cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol o ran trafnidiaeth.
Mae swyddogaethau o dan adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 wedi eu rhoi i bedwar cyd-bwyllgor corfforedig ar wahân o dan y Rheoliadau a ganlyn a wnaed o dan adrannau 74, 83 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021—
(a)Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021 (O.S. 2021/343) (Cy. 97);
(b)Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021 (O.S. 2021/352) (Cy. 104);
(c)Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021 (O.S. 2021/342) (Cy. 96);
(d)Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021 (O.S. 2021/339) (Cy. 93).
Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 (“Rheoliadau 2021”), sy’n dod i rym ar yr un diwrnod â’r Rheoliadau hyn, yn addasu Deddf Trafnidiaeth 2000 mewn achosion pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi ei sefydlu drwy Reoliadau a’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108 o Ddeddf 2000 wedi ei rhoi i’r cyd-bwyllgor corfforedig. Mae’r addasiadau’n ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddatblygu polisïau trafnidiaeth a sefydlu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer ei ardal.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Maent yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i’r addasiadau i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 a wneir gan Reoliadau 2021.
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth i gadw polisïau trafnidiaeth presennol a luniwyd gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol hyd nes y bydd cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol mewn grym mewn perthynas â’u hardaloedd.
Mae rheoliad 5 yn dirymu Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.