2022 Rhif 112 (Cy. 40)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 26(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3.

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19904.

Enwi, cychwyn, rhychwant a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Mawrth 2022.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr, ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 a darpariaeth drosiannol

2

1

Mae Rheoliadau Bara a Blawd 19985 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

a

hepgorer y diffiniadau o “EEA Agreement” a “EEA State”;

b

ar ôl y diffiniad o “sell”, mewnosoder—

  • third country” means any country, other than the United Kingdom, and includes—

    1. a

      the Bailiwick of Guernsey;

    2. b

      the Bailiwick of Jersey;

    3. c

      the Isle of Man.

3

Yn rheoliad 3 (esemptiadau)—

a

hepgorer paragraffau (2) a (3);

b

yn y lle priodol, mewnosoder—

4

These Regulations do not apply to the following bread or flour if the nature of that bread or flour is clearly indicated on the labelling—

a

any bread produced in Wales that is to be exported to a third country;

b

any flour produced in Wales that is—

i

to be exported to a third country, or

ii

for use in the production of food that is to be exported to a third country;

c

any flour imported or moved into Wales that is for use in Wales for the production of food that is to be exported to a third country.

4

Yn rheoliad 4 (cyfansoddiad blawd)—

a

ym mharagraff (4), yn lle is-baragraff (b) rhodder—

b

no person shall import or move into Wales any flour, or sell any flour imported or moved into Wales by them, which does not comply with this regulation.

b

ym mharagraff (5), yn lle “or importation into Great Britain” rhodder “, importation or movement into Wales”.

3

1

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan reoliad 2(3)(a) o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3(2) o Reoliadau Bara a Blawd 1998 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

2

Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.

Diwygio Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008 a darpariaeth drosiannol

4

Yn Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 20086, hepgorer rheoliad 3 (esemptiadau).

5

1

Er gwaethaf y diwygiad a wneir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3 o Reoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

2

Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014 a darpariaeth drosiannol

6

Yn Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 20147, yn rheoliad 3 (cwmpas)—

a

ym mharagraff (1), yn lle “baragraffau (2) a (3)” rhodder “baragraff (2)”;

b

hepgorer paragraff (3).

7

1

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan reoliad 6 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3(3) o Reoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

2

Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018 a darpariaeth drosiannol

8

Yn Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 20188, yn rheoliad 3 (cwmpas), hepgorer paragraff (2).

9

1

Er gwaethaf y diwygiad a wneir gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3(2) o Reoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

2

Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.

Lynne NeagleY Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o offerynnau statudol mewn perthynas â chyfansoddiad bwyd. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Mae rheoliadau 2, 4, 6 ac 8 yn dileu esemptiadau penodol ar gyfer cynhyrchion o Aelod-wladwriaethau’r UE neu wledydd yr AEE (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol). Nid yw’r esemptiadau’n briodol mwyach yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 (O.S. 1998/141), o ran Cymru, i ddarparu esemptiadau newydd ar gyfer bara neu flawd sydd i’w allforio i drydydd gwledydd, neu sydd i’w ddefnyddio yn unig i gynhyrchu bwyd sydd i’w allforio i drydydd gwledydd.

Mae rheoliadau 3, 5, 7 a 9 yn cyflwyno cyfnod trosiannol, sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac sy’n dod i ben ar ddiwedd 30 Medi 2022, pan fydd yr esemptiadau sydd wedi eu dileu yn parhau i fod yn gymwys.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu oddi ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/cy .