2021 Rhif 906 (Cy. 206)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141 (“Deddf 2014”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn addas ynghylch drafft o’r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (“y Cod Ymarfer”).

Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r Cod Ymarfer gerbron Senedd Cymru2 ar 24 Mawrth 2021.

Yn unol ag adran 146(3) o Ddeddf 2014, o fewn cyfnod o 40 niwrnod, ni phenderfynodd Senedd Cymru beidio â chymeradwyo’r Cod Ymarfer drafft, a dyroddwyd y Cod Ymarfer ar ffurf y drafft hwnnw.

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021.

2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw’r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, y gosodwyd drafft ohono gerbron Senedd Cymru ar 24 Mawrth 2021 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 16 Gorffennaf 2021.

Y diwrnod penodedig2

Y diwrnod penodedig i’r Cod Ymarfer ddod i rym yw 1 Medi 2021.

Lynne NeagleY Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Medi 2021 fel y diwrnod y daw’r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth i rym (“y Cod Ymarfer”).

Mae’r Cod Ymarfer wedi ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 145(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).

Mae adran 145(3) o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145(1) a rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo.

Mae’r Cod Ymarfer wedi ei ddyroddi ochr yn ochr â chanllawiau o dan adran 169 o Ddeddf 2014 (mewn perthynas ag arfer eu priod swyddogaethau gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn unol â threfniadau partneriaeth a wneir o dan Ran 8 o Ddeddf 2014) a chanllawiau o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (mewn perthynas ag arfer swyddogaethau perthnasol byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau GIG).