xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
22 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—
adran 312(2) o Ddeddf 1996—
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—
adran 312(4) o Ddeddf 1996—
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(3);
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf 1996;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(4) o Ddeddf 1996;
mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(5);
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(6);
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A) o Ddeddf 1996;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(7);
mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 22.3.2021
2. Mae gan blentyn “P” “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” at ddibenion y Gorchymyn hwn os oes gan P anhawster dysgu a nodwyd gan berchennog neu awdurdod lleol sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar 22.3.2021
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021 ac eithrio mewn perthynas â pherson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau yn erthygl 4 ar 1 Medi 2021—
(a)adrannau 2 i 4;
(b)adrannau 6 i 14;
(c)adrannau 16 i 36;
(d)adran 38;
(e)adrannau 40 i 44;
(f)adrannau 47 i 49;
(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h)adran 50(4) i (5);
(i)adrannau 51 i 53;
(j)adran 55;
(k)adran 59;
(l)adrannau 63 i 66;
(m)adrannau 68 i 69;
(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o)yn yr Atodlen—
(i)paragraff 1;
(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);
(iii)paragraff 4(2) i 4(8);
(iv)paragraff 4(9);
(v)paragraff 4(10);
(vi)paragraff 4(13) i 4(18);
(vii)paragraff 4(19)(b);
(viii)paragraff 4(20) a 4(21);
(ix)paragraff 4(23) i 4(29);
(x)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xi)paragraff 7;
(xii)paragraff 8;
(xiii)paragraff 11(a);
(xiv)paragraff 12(a);
(xv)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);
(xvi)paragraff 14(2) a (3);
(xvii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);
(xviii)paragraff 19(5)(e)(ii);
(xix)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);
(xx)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxi)paragraff 22;
(xxii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);
(xxiii)paragraff 23(4);
(xxiv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);
(xxv)paragraff 24(2) i (3), (5) a (6)(a).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 3 mewn grym ar 22.3.2021
4. Person—LL+C
(a)sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
(b)sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd;
(c)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
(d)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
(e)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(iii)dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
(f)y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
(g)y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(iii)dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(h)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben; neu
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(i)y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
(j)nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(8)—
(i)yn mynd rhagddo; neu
(ii)wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;
(k)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
(l)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
(m)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
(i)nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
(ii)bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
(iii)nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
(n)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn; neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(o)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 4 mewn grym ar 22.3.2021
5. Daw adrannau 40 i 44 o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â phlentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ar 1 Medi 2021.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 5 mewn grym ar 22.3.2021
6. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â pherson sy’n dod o fewn erthygl 7—LL+C
(a)adrannau 2 i 4;
(b)adrannau 6 i 14;
(c)adrannau 16 i 36;
(d)adran 38;
(e)adrannau 40 i 44;
(f)adrannau 47 i 49;
(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h)adran 50(4) i (5);
(i)adrannau 51 i 53;
(j)adran 55;
(k)adran 59;
(l)adrannau 63 i 66;
(m)adrannau 68 i 69;
(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o)yn yr Atodlen—
(i)paragraff 1;
(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);
(iii)paragraff 4(2) i 4(8);
(iv)paragraff 4(9);
(v)paragraff 4(10);
(vi)paragraff 4(13) i 4(18);
(vii)paragraff 4(19)(b);
(viii)paragraff 4(20) a 4(21);
(ix)paragraff 4(23) i 4(29);
(x)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xi)paragraff 7;
(xii)paragraff 8;
(xiii)paragraff 11(a);
(xiv)paragraff 12(a);
(xv)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);
(xvi)paragraff 14(2) a (3);
(xvii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);
(xviii)paragraff 19(5)(e)(ii);
(xix)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);
(xx)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxi)paragraff 22;
(xxii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);
(xxiii)paragraff 23(4);
(xxiv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);
(xxv)paragraff 24(2) i (3), (5) a (6)(a).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Ergl. 6 mewn grym ar 22.3.2021
7. Person y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio o dan adran 40 neu ei gadw o dan adran 42 o’r Ddeddf mewn perthynas ag ef.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Ergl. 7 mewn grym ar 22.3.2021
8. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021—LL+C
(a)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (b);
(b)adran 50(2) i 50(3);
(c)adran 54 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(d)adran 56 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e)adrannau 57 i 58;
(f)adrannau 70 i 73;
(g)adrannau 75 i 81;
(h)adrannau 83 i 95;
(i)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (j);
(j)yn yr Atodlen—
(i)paragraff 2(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (ii) i (iii);
(ii)paragraff 2(2)(b);
(iii)paragraff 2(3);
(iv)paragraff 3;
(v)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (vi) i (xv);
(vi)paragraff 4(9) i’r graddau y mae’n hepgor adran 333(1ZA), adran 333(2) i 333(6) ac adrannau 334 i 335;
(vii)paragraff 4(12);
(viii)paragraff 4(19)(a);
(ix)paragraff 4(22);
(x)paragraff 4(30)(a)(ii) a 4(30)(b);
(xi)paragraff 4(31);
(xii)paragraff 4(32)(a)(iii);
(xiii)paragraff 4(33)(a);
(xiv)paragraff 4(33)(b) i’r graddau y mae’n hepgor y cofnodion a ganlyn—
“the appropriate national authority (in Chapter 2 of Part 4)”
“the chairman’s panel”
“the lay panel”
“the President”
“the Tribunal”
(xv)paragraff 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g);
(xvi)paragraff 6(d)(v) a pharagraffau 6(f) a 6(g);
(xvii)paragraff 6(j)(i);
(xviii)paragraff 6(l)(i) a 6(l)(iii);
(xix)paragraff 6(n)(ii) i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;
(xx)paragraff 6(t);
(xxi)paragraff 9;
(xxii)paragraff 10;
(xxiii)paragraff 11(b);
(xxiv)paragraff 12(b);
(xxv)paragraff 13;
(xxvi)paragraff 14(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxvii);
(xxvii)paragraff 14(4);
(xxviii)paragraff 15(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxix);
(xxix)paragraffau 15(3) i 15(4);
(xxx)paragraff 17;
(xxxi)paragraff 18;
(xxxii)paragraff 19(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxxiii);
(xxxiii)paragraffau 19(2), (3), (4), (5)(a) i (d), 5(e)(i), 5(f) i (h) a (6);
(xxxiv)paragraff 20;
(xxxv)paragraff 21(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxxvi);
(xxxvi)paragraff 21(2)(b)(i);
(xxxvii)paragraff 23(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxxviii);
(xxxviii)paragraff 23(3)(a) i (c) a (5);
(xxxix)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xl);
(xl)paragraffau 24(4) a (6)(b) ac (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Ergl. 8 mewn grym ar 22.3.2021
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â phersonau penodol. Mae’r Gorchymyn yn gwneud hyn drwy eithrio o’r cychwyn hwnnw bersonau sy’n dod o fewn categori a nodir yn erthygl 4 ar 1 Medi 2021. Mae’r categorïau sydd wedi eu heithrio yn cynnwys y rheini sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a’r rheini sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd (gweler erthygl 2).
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 5 (darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth) i rym ar 1 Medi 2021 ar gyfer y rheini nad ydynt yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 6 hefyd i rym ar 1 Medi 2021 ar gyfer personau y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio neu ei gadw o dan adran 40 neu 42 o’r Ddeddf mewn perthynas â hwy.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 8 i rym yn llawn ar 1 Medi 2021.
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 4 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 5 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 7 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 8 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 15 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 16 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 21 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 32 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 36 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 37 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 39 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 45 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 46 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 47 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 54 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 56 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 56(1) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 56(4) i (6) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 60 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 61 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 62 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 65 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 67 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 74 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 75 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 76 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 77 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 82 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 83 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 85 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 91 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 92 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 95 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 96 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.