Offerynnau Statudol Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Gwnaed
22 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
23 Mawrth 2021
Yn dod i rym
14 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 294(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Ebrill 2021.
2.—(1) Mae Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (troseddau sy’n ymwneud â physgota môr)—
(a)ym mharagraff 2, hepgorer is-baragraff (d);
(b)hepgorer paragraff 4;
(c)yn lle paragraff 6 rhodder—
“6. Yn Neddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, trosedd o dan—
(a)adran 139(1)(b) (y drosedd o dorri is-ddeddfau neu orchmynion)(3), i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw orchymyn a wneir o dan—
(i)adran 134A (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: Cymru)(4);
(ii)adran 134B (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: rhanbarth môr mawr Cymru)(5);
(iii)adran 136(1A) (gorchmynion interim)(6);
(b)adran 190 (troseddau)(7).”;
(d)ar ôl paragraff 8 mewnosoder—
“8A. Yn Neddf Pysgodfeydd 2020(8), trosedd o dan—
(a)adran 12(3) (mynediad i bysgodfeydd Prydain gan gychod pysgota tramor);
(b)adran 14(6) (cychod pysgota Prydeinig y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu);
(c)adran 16(6) (cychod pysgota tramor y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu os ydynt o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain);
(d)paragraff 1(4) o Atodlen 3 (pŵer i osod amodau ynghlwm wrth drwydded pysgota môr).”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/363) (Cy. 86) (“Gorchymyn 2019”) o ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed gan Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22) (“Deddf 2020”).
Mae Gorchymyn 2019 yn creu cynllun ar gyfer dyroddi a thalu hysbysiadau cosb ynglŷn â throseddau penodol yn ymwneud â physgota môr (“troseddau cosb”).
Mae Deddf 2020 yn gwneud darpariaeth ar gyfer mynediad llestrau tramor i bysgodfeydd yng Nghymru ac ym mharth Cymru, ac ar gyfer trwyddedu llestrau pysgota gan Weinidogion Cymru. Mae hefyd yn dirymu darpariaethau mewn deddfwriaeth arall a oedd yn llywodraethu’r materion hynny. Mae’r Gorchymyn hwn felly yn diweddaru’r rhestr o droseddau cosb sydd wedi ei chynnwys yng Ngorchymyn 2019 drwy ddileu cyfeiriadau at ddarpariaethau trosedd sydd wedi eu dirymu gan ddarpariaethau yn Neddf 2020 a chynnwys cyfeiriadau at y darpariaethau newydd perthnasol.
Mae Deddf 2020 hefyd yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i wneud gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr ac mae’n darparu ei bod yn drosedd torri’r gorchmynion hynny. Mae’r Gorchymyn hwn felly yn ychwanegu’r drosedd honno at y rhestr o droseddau cosb a bennir yng Ngorchymyn 2019.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
2009 p. 23; gweler adran 294(8) am y diffiniad o “appropriate national authority”.
O.S. 2019/363 (Cy. 86), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/602 (Cy. 127).
Diwygiwyd adran 139(1)(b) gan baragraff 23(2)(b) o Atodlen 10 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22) (“Deddf 2020”).
Mewnosodwyd adran 134A gan baragraff 17 o Atodlen 10 i Ddeddf 2020.
Mewnosodwyd adran 134B gan baragraff 17 o Atodlen 10 i Ddeddf 2020.
Mewnosodwyd adran 136(1A) gan baragraff 19(2) o Atodlen 10 i Ddeddf 2020.
Diwygiwyd adran 190 gan O.S. 2015/664.