2021 Rhif 345 (Cy. 99)

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 31(2) ac 81 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 20191.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag adran 31(4) o’r Ddeddf honno.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol ag adran 31(5) o’r Ddeddf honno.

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Diwygio Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 20192

1

Mae Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (awdurdodau rhestredig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

O dan y pennawd “Llywodraeth leol, tân a’r heddlu”, ar y diwedd mewnosoder—

Cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

mewn perthynas â holl swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig.

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3). Mae Atodlen 3 yn nodi’r cyrff a’r personau eraill sy’n awdurdodau rhestredig at ddibenion y Ddeddf honno ac sydd felly o fewn cylch gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at Atodlen 3 gyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy Reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).

Mae adran 33 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i Reoliadau o dan adran 31(2) sy’n ychwanegu person at Atodlen 3 bennu pa un a yw holl swyddogaethau’r person, ynteu dim ond rhai ohonynt, i ddod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno (ymchwiliadau). Mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn pennu bod holl swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig i ddod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.