Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 296 (Cy. 73)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021

Gwnaed

10 Mawrth 2021

Coming into force

1 Ebrill 2021

Cymeradwywyd drafft o’r Rheoliadau hyn drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4) a (5)(t) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980

2.  Yn Neddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980(2), yn adran 2 (dyletswydd ar awdurdodau i gyhoeddi gwybodaeth), yn is-adran (1)—

(a)ar ôl paragraff (h) mewnosoder—

(ha)a National Park authority for a National Park in Wales;;

(b)hepgorer “or a Welsh improvement authority for the purposes of Part 1 of the Local Government (Wales) Measure 2009”(3).

Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992

3.—(1Mae Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992(4) wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Yn adran 139A (personau i adrodd ar weinyddu budd-dal tai), yn is-adran (2), ym mharagraff (b) yn lle “or Part 1 of the Local Government (Wales) Measure 2009”(5) rhodder “or the performance requirements set out in section 89 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021”.

(3Yn adran 139C (adroddiadau), yn is-adran (1), ym mharagraff (b) yn lle “or Part 1 of the Local Government (Wales) Measure 2009”(6) rhodder “or the performance requirements set out in section 89 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021”.

(4Yn adran 139D (cyfarwyddydau), yn is-adran (1), yn lle paragraff (ca)(7) rhodder—

(ca)a copy of a report has been sent to a local authority under section 95(7)(b)(i) of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 and to the Secretary of State under subsection (9) of that section.

(5Mae paragraffau (1) i (4) yn peidio â chael effaith pan fydd y ddarpariaeth yn Rhan 1 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Lles 2012(8) (diddymiadau sy’n ymwneud â diddymu budd-daliadau a ddisodlir gan y credyd cynhwysol) sy’n diddymu adrannau 139A, 139C a 139D o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 yn dod i rym yn llawn.

Deddf Llywodraeth Leol 1999

4.—(1Mae Deddf Llywodraeth Leol 1999(9) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 19(10) (contractau: eithrio ystyriaethau anfasnachol), yn is-adran (5)—

(a)yn lle paragraff (aa)(11) rhodder—

(aa)a county council or county borough council in Wales,;

(b)ar ôl paragraff (aa) mewnosoder—

(ab)a National Park authority for a National Park in Wales,

(ac)a fire and rescue authority in Wales, constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies,.

(3Yn adran 33 (cyllid), yn is-adran (3)(12), ym mharagraff (b), ar y diwedd mewnosoder “or Chapter 1 or 3 of Part 6 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021”.

Deddf Llywodraeth Leol 2003

5.—(1Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003(13) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 36 (grantiau mewn cysylltiad â dynodi ar gyfer rhagoriaeth mewn gwasanaeth)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “or to a Welsh improvement authority within the meaning of section 1 of the Local Government (Wales) Measure 2009”(14) rhodder “or to a relevant Welsh authority”;

(b)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4) In subsection (1) “relevant Welsh authority” means—

(a)a county council or county borough council in Wales;

(b)a National Park authority for a National Park in Wales;

(c)a fire and rescue authority in Wales, constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies.

(3Yn adran 36A(15) (grantiau gan Weinidogion y Goron mewn cysylltiad ag awdurdodau gwerth gorau etc.)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “or a Welsh improvement authority or Welsh improvement authorities”(16) rhodder “or a relevant Welsh authority or relevant Welsh authorities”;

(b)yn is-adran (2), ym mharagraff (b), yn lle “Welsh improvement authority”(17) rhodder “relevant Welsh authority”;

(c)yn is-adran (3) yn lle “or a Welsh improvement authority”(18) rhodder “or a relevant Welsh authority”;

(d)yn is-adran (7) yn lle’r diffiniad o “Welsh improvement authority”(19) rhodder—

“relevant Welsh authority” means—

(a)

a county council or county borough council in Wales;

(b)

a National Park authority for a National Park in Wales;

(c)

a fire and rescue authority in Wales, constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies.

(4Yn adran 36B(20) (grantiau gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag awdurdodau gwerth gorau Cymru)—

(a)yn is-adran (1) yn lle’r geiriau o “compliance by a Welsh improvement authority” hyd at y diwedd(21) rhodder “compliance by a Welsh principal council or Welsh principal councils with the performance requirements set out in section 89 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 or the requirements of, or any requirements imposed under, Chapter 1 of Part 6 of that Act”;

(b)yn is-adran (2) yn lle “or Welsh improvement authority”(22) rhodder “or Welsh principal council”;

(c)yn is-adran (6) yn lle’r diffiniad o “Welsh improvement authority”(23) rhodder—

“Welsh principal council” means a county council or county borough council in Wales.;

(d)yn y pennawd, yn lle “best value authorities” rhodder “principal councils”.

(5Yn adran 95 (pŵer i fasnachu mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â swyddogaethau drwy gwmni), yn is-adran (7), yn y diffiniad o “relevant authority”—

(a)yn lle paragraff (aa)(24) rhodder—

(aa)a county council or county borough council in Wales;;

(b)ar ôl paragraff (ac)(25) mewnosoder—

(ad)a fire and rescue authority in Wales, constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies;

(ae)a National Park authority for a National Park in Wales;.

(6Yn adran 97 (pŵer i addasu deddfiadau mewn cysylltiad â chodi tâl neu fasnachu), yn is-adran (11), yn y diffiniad o “relevant authority”(26), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)in relation to Wales—

(i)a county council or county borough council in Wales;

(ii)a community council;

(iii)a National Park authority for a National Park in Wales;

(iv)a fire and rescue authority in Wales, constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies.

(7Yn adran 101 (materion trosglwyddo staff: cyffredinol)—

(a)hepgorer is-adran (5A)(27);

(b)yn is-adran (7A)(28)

(i)yn lle paragraff (aa)(29) rhodder—

(aa)a county council or county borough council in Wales;;

(ii)ar ôl paragraff (aa) mewnosoder—

(ab)a National Park authority for a National Park in Wales;

(ac)a fire and rescue authority in Wales, constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies;.

(8Yn adran 124 (dehongli cyffredinol) hepgorer y diffiniad o “Welsh improvement authority”(30).

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

6.—(1Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(31) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 41 (astudiaethau i wella darbodaeth etc. mewn gwasanaethau), yn is-adran (1), ym mharagraff (a)(32) yn lle “local government bodies in Wales that are Welsh improvement authorities for the purposes of Part 1 of the Local Government (Wales) Measure 2009” rhodder

(i)county councils and county borough councils in Wales;

(ii)fire and rescue authorities in Wales constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies;

(iii)National Park authorities for National Parks in Wales;.

(3Yn adran 54 (cyfyngiad ar ddatgelu gwybodaeth)—

(a)yn is-adran (1)(33)

(i)ym mharagraff (aa)(34) ar ôl “pursuant to” mewnosoder “a provision of Chapter 1 of Part 6 or”;

(ii)ym mharagraff (b)(35) ar ôl “Local Government (Wales) Measure 2009” mewnosoder “or Chapter 1 of Part 6 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021”;

(b)yn is-adran (2)(36), ym mharagraff (b)(37), ar ôl “Local Government (Wales) Measure 2009” mewnosoder “or Chapter 1 of Part 6 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021”.

Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007

7.  Yn Neddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007(38), yn Atodlen 8 (gwerth gorau: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraff 27.

Mesur Addysg (Cymru) 2011

8.  Ym Mesur Addysg (Cymru) 2011(39), yn adran 3 (dyletswydd corff addysg i gydlafurio), yn is-adran (4) hepgorer paragraff (c).

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

9.  Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(40), yn adran 10 (awdurdodau lleol a’r cod) hepgorer is-adran (2).

Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015

10.  Yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015(41), yn adran 22 (trosedd gan ddarparwr gofal: darparwyr gofal a eithrir), yn is-adran (5), ym mharagraff (a) yn lle’r geiriau o “section 29(6)(a)” hyd at y diwedd rhodder “section 107 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (dsc 1) (direction that a function be performed by the Welsh Ministers or their nominee)”.

Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010

11.  Yn Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010(42), yn Atodlen 1, ym mharagraff 20 yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)swyddogaethau’r awdurdod o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a’u llywodraethu), a darparu cyngor i gynorthwyo cyrff llywodraethu i gaffael nwyddau a gwasanaethau;.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“Deddf 2021”) ac ar ddatgymhwyso a diddymu Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2) (“Mesur 2009”) gan Ddeddf 2021.

Mae Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021 yn sefydlu system newydd ar gyfer asesu perfformiad a llywodraethiant cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru, gan ddisodli’r system a oedd yn gymwys i’r cynghorau hynny o dan Ran 1 o Fesur 2009. Roedd y system yn Rhan 1 o Fesur 2009 hefyd yn gymwys i awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru ac i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru (a bydd yn parhau i fod yn gymwys i awdurdodau tân ac achub hyd nes y bydd y darpariaethau yn Neddf 2021 sy’n ei datgymhwyso mewn perthynas â’r awdurdodau hynny yn dod i rym). Nid yw’r system ym Mhennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021 yn gymwys i awdurdodau tân ac achub nac i awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

O dan Fesur 2009, cyfeiriwyd at gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub fel “awdurdodau gwella Cymreig”. Defnyddiwyd y term hwnnw wedi hynny mewn peth deddfwriaeth fel ffordd o gyfeirio at gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.

Datgymhwysir Mesur 2009 mewn perthynas â chynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol gan adran 113 o Ddeddf 2021. Fe’i datgymhwysir mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub gan adran 168 o’r Ddeddf honno. Fe’i datgymhwysir mewn perthynas ag awdurdodau Parciau Cenedlaethol gan adran 169 o’r Ddeddf honno. Diddymir Mesur 2009 yn llawn gan adran 170 o’r Ddeddf honno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(3)

Mewnosodwyd y geiriau sydd i’w hepgor gan baragraff 2 o Atodlen 1 i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2) (“Mesur 2009”). Mae diwygiadau eraill i’r is-adran nad ydynt yn berthnasol i’r diwygiad hwn.

(5)

Mewnosodwyd y geiriau sydd i’w hepgor gan baragraff 4 o Atodlen 1 i Fesur 2009. Mae diwygiadau eraill i’r is-adran nad ydynt yn berthnasol i’r diwygiad hwn.

(6)

Mewnosodwyd y geiriau sydd i’w hepgor gan baragraff 5 o Atodlen 1 i Fesur 2009. Mae diwygiadau eraill i’r is-adran nad ydynt yn berthnasol i’r diwygiad hwn.

(7)

Mewnosodwyd paragraff (ca) yn wreiddiol gan adran 39(3) o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p. 5) ac fe’i hamnewidiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(8)

2012 p. 5. Cafodd y ddarpariaeth yn Rhan 1 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Lles 2012 sy’n diddymu adrannau 138 i 140G o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992, i’r graddau y mae’r ddarpariaeth ddiddymu honno yn ymwneud â diddymu budd-dal y dreth gyngor, ei dwyn i rym ar 1 Ebrill 2013 gan erthygl 8(c) o Orchymyn Deddf Diwygio Lles 2012 (Cychwyn Rhif 8 ac Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2013 (O.S. 2013/358) ac Atodlen 4 iddi.

(10)

Gosodwyd adran 19 o dan groesbennawd newydd “Exclusion of non-commercial considerations” gan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28), a wnaeth hefyd fewnosod is-adran (5) yn adran 19.

(11)

Mewnosodwyd paragraff (aa) gan baragraff 18 o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(12)

Diwygiwyd is-adran (3) gan baragraff 17 o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) ac adran 36 o Fesur 2009. Amnewidiwyd paragraff (b) o is-adran (3) gan baragraff 16 o Atodlen 4 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3). Mae diwygiadau eraill i’r is-adran nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(14)

Mewnosodwyd y geiriau sydd i’w hepgor gan baragraff 24 o Atodlen 1 i Fesur 2009. Mae diwygiadau eraill i is-adran (1) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(15)

Ychwanegwyd adran 36A gan adran 143(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007.

(16)

Mewnosodwyd y geiriau sydd i’w hepgor gan baragraff 25(a) o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(17)

Mewnosodwyd y geiriau sydd i’w hepgor gan baragraff 25(b) o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(18)

Mewnosodwyd y geiriau sydd i’w hepgor gan baragraff 25(c) o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(19)

Mewnosodwyd y diffiniad o “Welsh improvement authority” gan baragraff 25(d) o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(20)

Mewnosodwyd adran 36B gan adran 143(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007.

(21)

Mewnosodwyd y geiriau sydd i’w hepgor gan baragraff 26(a) o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(22)

Mewnosodwyd y geiriau sydd i’w hepgor gan baragraff 26(b) o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(23)

Mewnosodwyd y diffiniad o “Welsh improvement authority” gan baragraff 26(c) o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(24)

Mewnosodwyd paragraff (aa) gan baragraff 28 o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(25)

Mewnosodwyd paragraff (ac) gan baragraff 83(4) o Atodlen 1 i Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (p. 3).

(26)

Amnewidiwyd y diffiniad o “relevant authority” gan erthygl 40(2)(g)(ii) o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).

(27)

Mewnosodwyd is-adran (5A) gan baragraff 30(a) o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(28)

Mewnosodwyd is-adran (7A) gan baragraff 3(9)(c) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007.

(29)

Mewnosodwyd paragraff (aa) gan baragraff 30(b) o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(30)

Mewnosodwyd y diffiniad o “Welsh improvement authority” gan baragraff 31 o Atodlen 1 i Fesur 2009.

(32)

Diwygiwyd paragraff (a) gan baragraff 27(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007, paragraff 35 o Atodlen 1 i Fesur 2009 a pharagraff 46 o Atodlen 4 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

(33)

Diwygiwyd is-adran (1) gan baragraff 55 o Atodlen 4 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

(34)

Mewnosodwyd paragraff (aa) gan baragraff (a) o adran 160 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

(35)

Diwygiwyd paragraff (b) gan baragraff 36 o Atodlen 1 i Fesur 2009 a pharagraff 55 o Atodlen 4 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

(36)

Mewnosodwyd paragraffau (ba) a (bb) yn is-adran (2) gan baragraff (b) o adran 160 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

(37)

Diwygiwyd paragraff (b) gan baragraff 36 o Atodlen 1 i Fesur 2009 a pharagraff 55 o Atodlen 4 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

(41)

2015 p. 2.