Enwebu ymgeiswyr
5.—(1) Rhaid i ymgeisydd ei enwebu ei hun gan ddefnyddio papur enwebu yn y ffurf yn Atodiad 1 neu ffurf i’r un perwyl.
(2) Caniateir i’r papur enwebu gael ei ddanfon naill ai—
(a)yn y man a bennir gan y swyddog canlyniadau yn hysbysiad yr etholiad, neu
(b)yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig.
(3) Rhaid i’r papur enwebu—
(a)datgan enwau llawn yr ymgeisydd, gan osod y cyfenwau’n gyntaf,
(b)os yw’r ymgeisydd yn dymuno, cynnwys disgrifiad sy’n cydymffurfio â rheol 6,
(c)cynnwys datganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â rheol 8, a
(d)cynnwys y datganiadau a nodir yn y ffurf yn Atodiad 1, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.
(4) Os yw ymgeisydd yn defnyddio’n gyffredin enwau blaen neu gyfenwau sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatgenir yn unol â pharagraff (3)(a) (gan gynnwys pan y gwahaniaeth yw defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin mewn trefn wahanol, cynnwys rhai o’r enwau yn unig neu gynnwys enwau ychwanegol), caniateir i’r papur enwebu hefyd ddatgan yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.
(5) Rhaid i’r papur enwebu gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i’r llofnod.
(6) I gyd-fynd â’r papur enwebu rhaid cael ffurflen (“ffurflen cyfeiriad cartref”) sy’n cydymffurfio â rheol 9.