xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLENNI

Rheol 4(3)

ATODLEN 2Rheolau cynnal etholiad cynghorwyr ar gyfer cymuned pan gynhelir y bleidlais ynghyd â phleidlais mewn etholiad perthnasol

  1. RHAN 1 Darpariaethau ynglŷn ag Amser

    1. 1.Amserlen

    2. 2.Cyfrif amser

  2. RHAN 2 Hysbysiad Etholiad, Enwebu a Dull Ethol

    1. Hysbysiad Etholiad

      1. 3.Hysbysiad etholiad

    2. Enwebu

      1. 4.Dyletswydd y swyddog canlyniadau i gyflenwi ffurflenni enwebu etc.

      2. 5.Enwebu ymgeiswyr

      3. 6.Papurau enwebu: disgrifiadau

      4. 7.Ychwanegu “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig”

      5. 8.Papurau enwebu: datganiadau aelodaeth plaid

      6. 9.Ffurflenni cyfeiriad cartref

      7. 10.Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu

      8. 11.Enwebu mewn mwy nag un ardal etholiadol

      9. 12.Ymgeiswyr yn tynnu’n ôl

      10. 13.Cyhoeddi datganiad o’r personau a enwebwyd

      11. 14.Defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn y datganiad o’r personau a enwebwyd

      12. 15.Enwau sydd yr un fath neu’n debyg

      13. 16.Cywiro mân wallau mewn papur enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref

      14. 17.Archwilio papurau enwebu

      15. 18.Archwilio ffurflenni cyfeiriad cartref

      16. 19.Gohirio trafodion enwebu os ceir terfysg

    3. Dull Ethol

      1. 20.Penderfynu a oes gornest yn yr etholiad a datgan y canlyniad os nad oes gornest

  3. RHAN 3 Y Bleidlais mewn Etholiadau lle Ceir Gornest

    1. Darpariaethau Cyffredinol

      1. 21.Y bleidlais i’w chynnal drwy bleidlais gudd

      2. 22.Y papurau pleidleisio

      3. 23.Rhestr rhifau cyfatebol

      4. 24.Y marc swyddogol

      5. 25.Gwahardd datgelu pleidlais

      6. 26.Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus

    2. Camau i’w cymryd cyn y bleidlais

      1. 27.Hysbysiad y bleidlais

      2. 28.Papurau pleidleisio post

      3. 29.Darparu gorsafoedd pleidleisio

      4. 30.Penodi swyddogion llywyddu a chlercod

      5. 31.Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol

      6. 32.Cyfarpar gorsafoedd pleidleisio

      7. 33.Penodi asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif

      8. 34.Asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif: darpariaeth atodol

      9. 35.Hysbysu’r gofyniad cyfrinachedd

      10. 36.Dychwelyd papurau pleidleisio post

    3. Y Bleidlais

      1. 37.Derbyn i’r orsaf bleidleisio

      2. 38.Cadw trefn yn yr orsaf

      3. 39.Selio blychau pleidleisio

      4. 40.Cwestiynau y caniateir eu gofyn i bleidleiswyr

      5. 41.Herio pleidleisiwr

      6. 42.Gweithdrefn pleidleisio

      7. 43.Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywyddu

      8. 44.Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: cymorth cymdeithion

      9. 45.Pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodol

      10. 46.Papurau pleidleisio a dendrwyd: yr amgylchiadau lle maent ar gael

      11. 47.Dyletswyddau swyddogion llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd

      12. 48.Papurau pleidleisio a ddifethwyd

      13. 49.Cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais

      14. 50.Gohirio’r bleidlais os ceir terfysg

      15. 51.Y weithdrefn wrth gau’r bleidlais

  4. RHAN 4 Cyfrif y Pleidleisiau a Datgan y Canlyniad mewn Etholiadau lle Ceir Gornest

    1. 52.Trosolwg o’r rheolau a dehongli

    2. 53.Presenoldeb mewn trafodion o dan y Rhan hon

    3. 54.Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

    4. 55.Gwahanu papurau pleidleisio etc. pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

    5. 56.Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

    6. 57.Agor cynwysyddion etc. pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

    7. 58.Darpariaeth bellach ynghylch papurau pleidleisio post

    8. 59.Y cyfrif: cyffredinol

    9. 60.Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd

    10. 61.Ailgyfrif

    11. 62.Pleidleisiau cyfartal

    12. 63.Penderfynu ar bapurau pleidleisio

    13. 64.Datgan y canlyniad

  5. RHAN 5 Gwaredu Dogfennau

    1. 65.Selio papurau pleidleisio mewn etholiadau lle ceir gornest

    2. 66.Danfon dogfennau i’r swyddog cofrestru mewn etholiadau lle ceir gornest

    3. 67.Dangos etc. dogfennau

    4. 68.Gorchmynion i ddangos etc. dogfennau: darpariaeth atodol

    5. 69.Cadw a dinistrio dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestru

    6. 70.Dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref gan y swyddog canlyniadau

  6. RHAN 6 Marwolaeth Ymgeisydd

    1. 71.Diddymu pleidlais neu roi’r gorau iddi ar ôl i ymgeisydd farw

  7. ATODIADAU Nodyn: Caniateir i’r ffurflenni a geir yn yr Atodiadau hyn gael eu haddasu i’r graddau y bo’r amgylchiadau’n gofyn.

RHAN 1Darpariaethau ynglŷn ag Amser

Amserlen

1.—(1Rhaid i drafodion yr etholiad gael eu cynnal yn unol â’r amserlen a ganlyn.

Amserlen
TrafodionAmser
Cyhoeddi hysbysiad etholiadDim hwyrach na’r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod yr etholiad
Danfon papurau enwebuDim hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad
Danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôlDim hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad
Cyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd

Dim hwyrach na 4 p.m. ar y deunawfed diwrnod cyn diwrnod yr etholiad

Hysbysiad o etholiad heb ornest

Hysbysiad o bleidlais mewn etholiad lle ceir gornest

Dim hwyrach na’r chweched diwrnod cyn diwrnod yr etholiad
PleidleisioRhwng 7 a.m. a 10 p.m. ar ddiwrnod yr etholiad

(2Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo—

(a)papur enwebu yn cael ei anfon yn electronig neu ei gyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn yr hysbysiad etholiad (gweler rheol 3), neu

(b)hysbysiad tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl o dan reol 12 yn cael ei anfon yn electronig.

(3At ddiben penderfynu a yw’r papur neu’r hysbysiad wedi ei ddanfon yn unol â’r amserlen ym mharagraff (1), mae’r papur neu’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddanfon ar yr amser y mae ei ddanfon yn cael ei gofnodi ar y system gyfrifiadurol a ddefnyddir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer derbyn y papur neu’r hysbysiad.

(4Yn y rheol hon, ystyr “diwrnod yr etholiad” yw’r diwrnod a bennwyd yn hysbysiad yr etholiad fel y diwrnod y câi pleidlais ei chynnal pe ceid gornest.

Cyfrif amser

2.—(1Mae diwrnod eithriedig i’w ddiystyru wrth gyfrif unrhyw gyfnod a nodir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1.

(2Ni chaniateir i drafodion o dan y rheolau hyn hyd at gau’r bleidlais gael eu cynnal ar ddiwrnod eithriedig.

(3Nid yw’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â chyfrif pleidleisiau ar ddiwrnod eithriedig.

RHAN 2Hysbysiad Etholiad, Enwebu a Dull Ethol

Hysbysiad Etholiad

Hysbysiad etholiad

3.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r etholiad.

(2Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

(a)nifer y cynghorwyr sydd i’w dychwelyd ar gyfer pob ardal etholiadol,

(b)dyddiad y bleidlais os ceir gornest,

(c)y man lle gellir cael ffurflenni papurau enwebu a pha bryd a gwybodaeth am sut y gellir cael ffurflenni papur enwebu ar-lein a pha bryd,

(d)yr amser hwyraf ar gyfer danfon papurau enwebu, ac

(e)y man lle gellir danfon papurau enwebu a’r amserau pan ganiateir eu danfon i’r man hwnnw.

(3Rhaid i’r hysbysiad ddatgan hefyd erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i geisiadau am bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, a cheisiadau a hysbysiadau eraill ynghylch pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, gyrraedd y swyddog cofrestru er mwyn bod yn effeithiol ar gyfer yr etholiad.

(4Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd gynnwys yn yr hysbysiad ddatganiad danfon electronig.

(5Mae datganiad danfon electronig yn ddatganiad y caniateir i bapurau enwebu gael eu danfon—

(a)drwy eu hanfon yn electronig i gyfeiriad ebost yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad,

(b)drwy eu cyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad, neu

(c)naill ai drwy eu hanfon yn electronig fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu drwy eu cyflwyno ar-lein fel y crybwyllir yn is-baragraff (b).

Enwebu

Dyletswydd y swyddog canlyniadau i gyflenwi ffurflenni enwebu etc.

4.—(1Yn y man ac ar yr amserau ar gyfer cael ffurflenni papurau enwebu a nodir yn hysbysiad yr etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyflenwi cynifer o ffurflenni papurau enwebu i unrhyw berson ag y bydd y person yn gofyn amdanynt, a

(b)os gwneir cais, paratoi papur enwebu i’w lofnodi.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau hefyd i sicrhau bod modd cael ffurflenni enwebu ar-lein yn unol â’r wybodaeth a roddir yn hysbysiad yr etholiad.

(3Er hynny, nid oes angen i enwebiad gael ei wneud ar ffurflen a gyflenwir gan y swyddog canlyniadau neu a geir ar-lein.

Enwebu ymgeiswyr

5.—(1Rhaid i ymgeisydd ei enwebu ei hun gan ddefnyddio papur enwebu yn y ffurf yn Atodiad 1 neu ffurf i’r un perwyl.

(2Caniateir i’r papur enwebu gael ei ddanfon naill ai—

(a)yn y man a bennir gan y swyddog canlyniadau yn hysbysiad yr etholiad, neu

(b)yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig.

(3Rhaid i’r papur enwebu—

(a)datgan enwau llawn yr ymgeisydd, gan osod y cyfenwau’n gyntaf,

(b)os yw’r ymgeisydd yn dymuno, cynnwys disgrifiad sy’n cydymffurfio â rheol 6,

(c)cynnwys datganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â rheol 8, a

(d)cynnwys y datganiadau a nodir yn y ffurf yn Atodiad 1, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.

(4Os yw ymgeisydd yn defnyddio’n gyffredin enwau blaen neu gyfenwau sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatgenir yn unol â pharagraff (3)(a) (gan gynnwys pan y gwahaniaeth yw defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin mewn trefn wahanol, cynnwys rhai o’r enwau yn unig neu gynnwys enwau ychwanegol), caniateir i’r papur enwebu hefyd ddatgan yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.

(5Rhaid i’r papur enwebu gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i’r llofnod.

(6I gyd-fynd â’r papur enwebu rhaid cael ffurflen (“ffurflen cyfeiriad cartref”) sy’n cydymffurfio â rheol 9.

Papurau enwebu: disgrifiadau

6.—(1Mae’r rheol hon yn nodi gofynion ynghylch y disgrifiadau y caniateir eu cynnwys mewn papur enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(b).

(2Caiff y disgrifiad fod naill ai—

(a)yn ddisgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan baragraff (3) neu (yn ôl y digwydd) paragraff (4), neu

(b)y gair “Independent” neu’r gair “Annibynnol”, neu’r ddau air hynny.

(3Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig—

(a)pan fo’r blaid yn blaid gymwys,

(b)pan fo’r disgrifiad naill ai—

(i)yn enw cofrestredig y blaid neu, os yw’r blaid wedi cofrestru enw Cymraeg ac enw Saesneg, y naill neu’r llall o’r enwau hynny neu’r ddau, neu

(ii)yn ddisgrifiad cofrestredig i’r blaid neu, yn achos disgrifiad a gofrestrwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, y naill neu’r llall o’r disgrifiadau hynny neu’r ddau, ac

(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig y blaid ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.

(4Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig—

(a)pan fo pob un o’r pleidiau’n bleidiau cymwys,

(b)pan fo’r disgrifiad yn cynnwys enw cofrestredig pob un o’r pleidiau a ddangosir yn y naill neu’r llall o’r fersiynau a ddisgrifir ym mharagraff (5) neu’r ddau, ac

(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig pob un o’r pleidiau ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.

(5Y fersiynau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw—

(a)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Saesneg (“y fersiwn Saesneg”);

(b)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Gymraeg (“y fersiwn Gymraeg”).

(6Pan fo unrhyw un neu ragor o’r pleidiau wedi cofrestru enw Saesneg ac enw Cymraeg—

(a)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Saesneg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Saesneg, a

(b)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Saesneg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Gymraeg.

(7Gweler hefyd reol 7 (sy’n nodi pryd a sut y caniateir ychwanegu’r gair “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” at ddisgrifiadau a ganiateir o dan baragraff (3) neu (4)).

(8Mae person yn euog o arfer lwgr os yw’r person hwnnw’n honni’n dwyllodrus ei fod wedi ei awdurdodi i ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (3)(c) neu (4)(c) ar ran swyddog enwebu plaid wleidyddol gofrestredig.

(9Yn y rheol hon—

(a)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000;

(b)mae cyfeiriadau at ddisgrifiad cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgrifiad o’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28A o’r Ddeddf honno.

(10At ddibenion cymhwyso’r rheol hon mewn perthynas ag etholiad—

(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar y diwrnod sydd ddau ddiwrnod cyn y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yn yr etholiad (gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig);

(b)mae plaid wleidyddol gofrestredig yn blaid gymwys os yw’r blaid, ar y diwrnod hwnnw, wedi ei chofrestru mewn cysylltiad â Chymru yng nghofrestr Prydain Fawr a gynhelir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.

Ychwanegu “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig”

7.—(1Mae’r rheol hon yn nodi pryd a sut y caiff ymgeisydd wneud ychwanegiadau mewn papur enwebu at ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu (4).

(2Mae paragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo enw cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.

(3Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—

(a)ychwanegu’r gair “Wales” o flaen yr enw;

(b)ychwanegu’r gair “Welsh” o flaen yr enw;

(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ôl yr enw;

(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw.

(4Mae paragraffau (5) a (6) yn gymwys—

(a)pan fo enw cofrestredig yn ffurfio rhan o ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(4), a

(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.

(5Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Saesneg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Gymraeg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Wales” neu’r gair “Welsh” o flaen yr enw yn y fersiwn honno.

(6Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Gymraeg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Saesneg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Cymru” neu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw yn y fersiwn honno.

(7Mae paragraff (8) yn gymwys—

(a)pan fo disgrifiad cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan nad yw’r disgrifiad cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.

(8Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—

(a)ychwanegu’r gair “Wales” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;

(b)ychwanegu’r gair “Welsh” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;

(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig;

(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig.

(9At ddibenion paragraffau (3)(a) a (b) a (5), pan fo’r gair “the” (neu unrhyw air mewn iaith arall sydd â’r un swyddogaeth â’r gair “the”) yn ymddangos ar ddechrau enw cofrestredig, rhaid ei anwybyddu.

(10Pan fo ymgeisydd yn ychwanegu unrhyw beth at ddisgrifiad mewn papur enwebu yn unol â’r rheol hon, mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon at y disgrifiad yn gyfeiriadau at y disgrifiad gyda’r ychwanegiad.

Papurau enwebu: datganiadau aelodaeth plaid

8.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â datganiadau aelodaeth plaid y mae’n rhaid eu cynnwys mewn papurau enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(c).

(2Rhaid i’r datganiad ddatgan a yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol.

(3Os yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r datganiad hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn perthynas â’r blaid neu (yn ôl y digwydd) pob un o’r pleidiau y bu’r ymgeisydd yn aelod ohonynt—

(a)enw cofrestredig y blaid neu, pan fo gan y blaid ddau enw cofrestredig, enwau cofrestredig y blaid, a

(b)y dyddiadau yn ystod y cyfnod perthnasol pan fu’r ymgeisydd yn aelod o’r blaid.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo’r papur enwebu’n cynnwys disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan reol 6(3) neu (yn ôl y digwydd) rheol 6(4), a

(b)pan nad yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol ac eithrio’r blaid neu’r pleidiau y mae’r disgrifiad hwnnw’n ymwneud â hi neu â hwy.

(5Mae ymgeisydd sy’n methu’n fwriadol â chynnwys yn y papur enwebu ddatganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â gofynion y rheol hon yn euog o arfer lwgr.

(6Yn y rheol hon—

(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol pan fo’r ymgeisydd yn aelod;

(b)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o’r Ddeddf honno;

(c)ystyr “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y cyhoeddir hysbysiad yr etholiad.

Ffurflenni cyfeiriad cartref

9.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â ffurflenni cyfeiriad cartref y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd â phapurau enwebu o dan reol 5(6).

(2Rhaid i ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan—

(a)enwau llawn yr ymgeisydd,

(b)cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn llawn,

(c)cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a

(d)y cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef.

(3Mae cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a’r cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef, yn dibynnu ar ba un neu ragor o opsiynau (a) i (d) ar y papur enwebu sydd wedi eu dewis gan yr ymgeisydd, fel y’u nodir yn y tabl a ganlyn.

Yr opsiwn a ddewisir ar y papur enwebuCyfeiriad cymwys yr ymgeisyddY cymhwyster y mae cyfeiriad cymwys yr ymgeisydd yn ymwneud ag ef
Opsiwn (a)Y cyfeiriad llawn y mae’r ymgeisydd wedi ei gofrestru fel etholwr llywodraeth leol mewn cysylltiad ag efY cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (a) (cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor cymuned)
Opsiwn (b)Disgrifiad a chyfeiriad y tir neu’r fangre y mae’r ymgeisydd wedi eu meddiannu fel perchennog neu denant (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un meddiant i fodloni’r cymhwyster, y disgrifiadau a’r cyfeiriadau)Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (b) (meddiannu tir neu fangre arall yn ardal y cyngor cymuned fel perchennog neu denant)
Opsiwn (c)Cyfeiriad gweithle’r ymgeisydd (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un gweithle i fodloni’r cymhwyster, y cyfeiriadau)Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (c) (prif neu unig weithle yn ardal y cyngor cymuned)
Opsiwn (d)Y cyfeiriad neu’r cyfeiriadau llawn lle mae’r ymgeisydd wedi preswylioY cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (d) (preswylio yn y gymuned neu o fewn 3 milltir iddi)

(4Os yw papur enwebu’r ymgeisydd yn cynnwys enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref hefyd ddatgan yr enwau a ddefnyddir yn gyffredin.

(5Rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan hefyd—

(a)enwau llawn y person sy’n dyst i lofnod yr ymgeisydd ar y papur enwebu, a

(b)cyfeiriad cartref y person hwnnw yn llawn.

(6Caiff y ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys datganiad a wnaed ac a lofnodwyd gan yr ymgeisydd na chaniateir cyhoeddi cyfeiriad cartref yr ymgeisydd.

(7Os yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, mae’n rhaid iddi—

(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig, ddatgan enw’r ardal berthnasol (gweler paragraff (8));

(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ddatgan y wlad y mae wedi ei leoli ynddi.

(8Yn y rheol hon, ystyr “ardal berthnasol” yw—

(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Nghymru—

(i)os yw’r cyfeiriad mewn sir, y sir honno;

(ii)os yw’r cyfeiriad mewn bwrdeistref sirol, y fwrdeistref sirol honno;

(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn Lloegr—

(i)os yw’r cyfeiriad mewn dosbarth y ceir cyngor dosbarth ar ei gyfer, y dosbarth hwnnw;

(ii)os yw’r cyfeiriad mewn sir nad oes dosbarthau â chynghorau ynddi, y sir honno;

(iii)os yw’r cyfeiriad yn un o fwrdeistrefi Llundain, y fwrdeistref honno yn Llundain;

(iv)os yw’r cyfeiriad yn Ninas Llundain (gan gynnwys y Temlau Mewnol a Chanol), Dinas Llundain;

(v)os yw’r cyfeiriad yn Ynysoedd Sili, Ynysoedd Sili;

(c)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn yr Alban, yr ardal llywodraeth leol y mae’r cyfeiriad wedi ei leoli ynddi;

(d)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Ngogledd Iwerddon, y dosbarth llywodraeth leol y mae wedi ei leoli ynddo.

Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu

10.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan ddanfonir papur enwebu a’r ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd ag ef yn unol â’r rheolau hyn.

(2Mae’r ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu oni bai a hyd nes y bydd un o’r digwyddiadau a ganlyn yn digwydd—

(a)bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu bod y papur enwebu’n annilys;

(b)bod y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd wedi marw;

(c)bod yr ymgeisydd yn tynnu’n ôl.

(3Mae gan y swyddog canlyniadau hawl i ddyfarnu bod papur enwebu’n annilys ar un o’r seiliau a ganlyn yn unig—

(a)nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith;

(b)nad yw ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cydymffurfio â rheol 9(2) i (6);

(c)pan fo ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, nad yw’r ffurflen yn cydymffurfio â rheol 9(7);

(d)nad yw’r papur enwebu wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, neu nad yw llofnod yr ymgeisydd wedi ei ardystio, yn unol â gofynion rheol 5(5).

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i bob papur enwebu a ffurflen cyfeiriad cartref gael eu danfon, eu harchwilio a phenderfynu a yw’r ymgeisydd wedi ei enwebu’n ddilys.

(5Os oes disgrifiad mewn papur enwebu wedi ei gynnwys ym marn y swyddog canlyniadau yn groes i reol 6(3) neu (4) neu 7, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi penderfyniad nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r papur enwebu gael ei ddanfon, a

(b)beth bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â diwedd y cyfnod ar gyfer danfon papurau enwebu.

(6Pan fo’r swyddog canlyniadau’n penderfynu bod papur enwebu’n annilys, rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi ar y papur y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud a’r rhesymau drosto a llofnodi’r arnodiad.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i bob ymgeisydd yn datgan penderfyniad y swyddog canlyniadau a yw papur enwebu’r ymgeisydd yn ddilys ynteu’n annilys.

(8Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau bod papur enwebu yn ddilys yn derfynol ac ni chaniateir ei amau mewn unrhyw achos.

(9Ac eithrio fel y darperir gan baragraff (8), nid oes dim yn y rheol hon yn atal dilysrwydd enwebiad rhag cael ei amau ar ddeiseb etholiad.

Enwebu mewn mwy nag un ardal etholiadol

11.—(1Rhaid i ymgeisydd sydd wedi ei enwebu’n ddilys ar gyfer mwy nag un ardal etholiadol yn yr un gymuned dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl ardaloedd etholiadol hynny ond un.

(2Mae ymgeisydd nad yw’n tynnu’n ôl yn unol â gofynion paragraff (1) i’w drin fel pe bai wedi tynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl ardaloedd etholiadol lle cafodd yr ymgeisydd ei enwebu’n ddilys.

Ymgeiswyr yn tynnu’n ôl

12.—(1Caiff ymgeisydd dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth drwy roi hysbysiad tynnu’n ôl i’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i lofnod yr ymgeisydd.

Cyhoeddi datganiad o’r personau a enwebwyd

13.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi a chyhoeddi datganiad (“datganiad o’r personau a enwebwyd”) yn dangos—

(a)y personau a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu, a

(b)unrhyw bersonau eraill a enwebwyd ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach, gyda’r rheswm nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach.

(2Rhaid i’r datganiad ddangos—

(a)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) y personau a enwebwyd, fel y’u rhoddwyd yn eu papurau enwebu,

(b)yr wybodaeth am eu cyfeiriad cartref (gweler paragraff (3)), ac

(c)yr wybodaeth a gynhwyswyd yn eu datganiadau o aelodaeth plaid, fel y’i rhoddwyd yn eu papurau enwebu.

(3Yn y rheolau hyn, mae cyfeiriadau at yr wybodaeth am gyfeiriad cartref person a enwebwyd yn gyfeiriadau at yr wybodaeth a ganlyn fel y’i rhoddwyd yn y ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd â’r papur enwebu—

(a)pan fo’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7);

(b)pan nad yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, cyfeiriad y person a enwebwyd.

(4Rhaid i’r datganiad ddangos y personau sy’n dal wedi eu henwebu yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu cyfenwau, ac os oes gan ddau neu ragor ohonynt yr un cyfenwau, rhaid i’r datganiad ddangos y personau hynny yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu henwau eraill.

(5Mae rheol 14 (defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin) a rheol 15 (enwau sydd yr un fath neu’n debyg) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys y datganiad o’r personau a enwebwyd.

Defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn y datganiad o’r personau a enwebwyd

14.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo papur enwebu person yn rhoi enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn unol â rheol 5(4).

(2Rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a)) oni bai bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu—

(a)y gallai defnyddio enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin fod yn debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu

(b)bod yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn anweddus neu’n dramgwyddus.

(3Pan fo paragraff (2)(a) neu (b) yn gymwys—

(a)rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau eraill y person fel y’u datganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a) (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin), a

(b)rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y rhesymau dros wrthod caniatáu defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.

Enwau sydd yr un fath neu’n debyg

15.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, wrth baratoi datganiad o’r personau a enwebwyd, yn penderfynu—

(a)bod dau neu ragor o’r enwau a fyddai’n cael eu dangos ar y datganiad yr un fath neu mor debyg nes eu bod yn debygol o beri dryswch,

(b)bod pob un o’r personau dan sylw wedi gwneud datganiad eu bod yn ei gwneud yn ofynnol i’w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi (gweler rheol 9(6)), ac

(c)bod yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) yr un fath ar gyfer pob un ohonynt.

(2Caiff y swyddog canlyniadau drefnu i unrhyw un neu ragor o’u manylion gael eu dangos ar y datganiad o’r personau a enwebwyd gydag unrhyw ddiwygiadau neu ychwanegiadau sy’n briodol ym marn y swyddog canlyniadau er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o ddryswch.

(3Wrth benderfynu a ddylid gwneud diwygiadau neu ychwanegiadau o dan y rheol hon, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.

(4Pan fo’n ymarferol gwneud hynny cyn cyhoeddi’r datganiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau ymgynghori ag unrhyw bersonau y bwriedir diwygio’u manylion neu ychwanegu at eu manylion o dan y rheol hon.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i unrhyw berson y diwygiwyd ei fanylion neu yr ychwanegwyd at ei fanylion o dan y rheol hon, yn nodi’r diwygiadau neu’r ychwanegiadau.

(6Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau o dan y rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.

Cywiro mân wallau mewn papur enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref

16.—(1Caiff swyddog canlyniadau, unrhyw bryd cyn cyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd, gywiro mân wallau mewn papur enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref.

(2Mae’r gwallau y caniateir eu cywiro yn cynnwys—

(a)gwallau o ran rhif etholiadol person;

(b)gwallau sillafu amlwg;

(c)gwallau o ran yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) (gwybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys pan fo’r ymgeisydd wedi datgan na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref).

(3Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau yn unol â’r rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.

(4Wrth benderfynu a ddylid cywiro mân wallau o dan y rheol hon, rhaid i swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.

Archwilio papurau enwebu

17.—(1Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caiff unrhyw berson archwilio papurau enwebu sydd wedi eu danfon.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig.

(3Caiff person sy’n archwilio papurau enwebu gymryd copi o’r papurau, neu godi dyfyniadau ohonynt.

Archwilio ffurflenni cyfeiriad cartref

18.—(1Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caniateir i ffurflen cyfeiriad cartref ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu gael ei harchwilio gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n dymuno ei harchwilio—

(a)ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr un ardal etholiadol;

(b)asiant etholiadol (os penodwyd un) ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr ardal honno;

(c)yn achos ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr ardal honno ac sydd heb benodi asiant etholiadol, person arall a ddewisir gan yr ymgeisydd hwnnw.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig

(3Ni chaiff ymgeisydd neu berson arall sy’n cynnal archwiliad o dan y rheol hon gymryd copi o ffurflen cyfeiriad cartref na chodi dyfyniadau ohoni.

(4Ni chaiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i ffurflen cyfeiriad cartref gael ei harchwilio heblaw yn unol â’r rheol hon neu at ryw ddiben arall a awdurdodir gan y gyfraith.

Gohirio trafodion enwebu os ceir terfysg

19.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys os torrir ar draws trafodion ar gyfer enwebu, neu mewn cysylltiad ag enwebu, neu os rhwystrir y trafodion hynny, ar unrhyw ddiwrnod gan derfysg neu drais agored.

(2Rhaid rhoi’r gorau i’r trafodion am y diwrnod hwnnw.

(3Os y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yw’r diwrnod y rhoddir y gorau i’r trafodion, rhaid ailddechrau’r trafodion drannoeth.

(4Pan fo paragraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol bod y trafodion yn ailddecrhau drannoeth, mae’r dyddiadau cau a bennir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1 ar gyfer danfon papurau enwebu, danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl a chyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd i gyd yn cael eu hymestyn un diwrnod.

(5Pan roddir y gorau i drafodion o dan y rheol hon—

(a)ni chaniateir i ddim byd gael ei wneud ar ôl ailddechrau’r trafodion os oedd yr amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio pan roddwyd y gorau i’r trafodion, a

(b)nid yw dim byd a wnaed cyn rhoi’r gorau i’r trafodion yn annilys oherwydd rhoi’r gorau iddynt.

Dull Ethol

Penderfynu a oes gornest yn yr etholiad a datgan y canlyniad os nad oes gornest

20.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu a yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer yr ardal etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12 yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.

(2Os nad yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod y person neu’r personau sy’n dal wedi ei enwebu neu wedi eu henwebu’n ddilys wedi ei ethol neu wedi eu hethol.

(3Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)rhoi hysbysiad yn datgan enwau a chyfeiriadau’r rhai y datganwyd eu bod wedi eu hethol—

(i)i swyddog priodol y cyngor cymuned, a

(ii)i swyddog priodol y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y lleolir y gymuned ynddo, a

(b)cyhoeddi eu henwau.

(4Os yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid cynnal pleidlais yn unol â Rhan 3.

RHAN 3Y Bleidlais mewn Etholiadau lle Ceir Gornest

Darpariaethau Cyffredinol

Y bleidlais i’w chynnal drwy bleidlais gudd

21.—(1Rhaid i’r pleidleisiau yn y bleidlais gael eu rhoi drwy bleidlais gudd.

(2Rhaid canfod y canlyniad yn unol â Rhan 4 (cyfrif y pleidleisiau).

Y papurau pleidleisio

22.—(1Rhaid i bleidlais gudd pob pleidleisiwr fod yn bapur pleidleisio.

(2Yr unig bersonau sydd â hawl i gael eu henwau wedi eu gosod ar y papur pleidleisio yw’r rhai sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer yr ardal etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12.

(3Rhaid i bapur pleidleisio—

(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2, a

(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw.

(4Rhaid i’r papur pleidleisio—

(a)cynnwys enwau a disgrifiadau (os oes rhai) yr ymgeiswyr a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref, fel y’i dangoswyd yn y datganiad o’r personau a enwebwyd,

(b)gallu cael ei blygu,

(c)bod â rhif a marc adnabod unigryw arall wedi eu hargraffu ar y cefn, a

(d)bod o liw gwahanol i liw unrhyw bapurau pleidleisio a defnyddir mewn etholiad perthnasol.

(5Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(3)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i’r blaid.

(6Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(4)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i un o’r pleidiau.

(7Rhaid i gais yr ymgeisydd o dan baragraff (5) neu (6)—

(a)cael ei wneud mewn ysgrifen i’r swyddog canlyniadau, a

(b)dod i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu fel y’i nodir yn yr amserlen yn rheol 1.

(8Rhaid i drefn yr enwau yn y papur pleidleisio fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.

Rhestr rhifau cyfatebol

23.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi rhestr (“y rhestr rhifau cyfatebol”) yn unol â’r rheol hon.

(2Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod mewn dwy ran.

(3Rhaid i Ran 1 gynnwys rhifau a marciau adnabod unigryw yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w dyroddi yn unol â rheol 28(1) (papurau pleidleisio post).

(4Rhaid i Ran 2 gynnwys rhifau (ond nid marciau adnabod unigryw) yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w darparu yn unol â rheol 32(1) (darparu blychau pleidleisio a phapurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio).

(5Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod yn y ffurf a nodir yn Atodiad 3 neu ffurf i’r un perwyl.

(6Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Y marc swyddogol

24.—(1Rhaid i bob papur pleidleisio gynnwys marc diogelwch priodol (“y marc swyddogol”).

(2Rhaid cadw’r marc swyddogol yn gyfrinachol.

(3Rhaid i gyfnod o ddim llai na phum mlynedd fynd heibio rhwng defnyddio’r un marc swyddogol mewn etholiadau ar gyfer yr un gymuned.

(4Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio marc swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad.

Gwahardd datgelu pleidlais

25.  Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi pleidleisio yn yr etholiad ddatgan dros bwy y pleidleisiodd mewn unrhyw achos cyfreithiol i amau’r etholiad.

Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus

26.—(1Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio unrhyw un neu ragor o’r ystafelloedd a ganlyn yn rhad ac am ddim er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau—

(a)ystafell mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

(b)ystafell mewn ysgol y mae grantiau’n cael eu rhoi mewn cysylltiad â hi o arian a ddarperir gan Senedd Cymru i’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am reoli’r ysgol;

(c)unrhyw ystafell arall os yw cost cynnal a chadw’r ystafell yn daladwy yn gyfan gwbl neu’n bennaf o arian cyhoeddus.

(2Pan ddefnyddir ystafell a ddisgrifir ym mharagraff (1) er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau, mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cywiro unrhyw ddifrod i’r ystafell sy’n deillio o’i defnyddio at y diben hwnnw, a

(b)talu unrhyw gost a ysgwyddir gan y person neu’r corff sydd â rheolaeth dros yr ystafell oherwydd ei defnyddio at y diben hwnnw.

Camau i’w cymryd cyn y bleidlais

Hysbysiad y bleidlais

27.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais yn datgan—

(a)y diwrnod a’r oriau a bennwyd ar gyfer y bleidlais,

(b)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros yr ardal etholiadol, ac

(c)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) pob ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu’n ddilys a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref.

(2Rhaid i fanylion yr ymgeiswyr, a threfn enwau’r ymgeiswyr, fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn cyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais, neu yr un pryd, hefyd gyhoeddi hysbysiad—

(a)o safle pob gorsaf bleidleisio, a

(b)o’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawl i bleidleisio yno.

(4Rhaid i’r hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (3)—

(a)datgan bod y bleidlais yn etholiad y gymuned i’w chynnal ynghyd â phleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol,

(b)pennu’r etholaeth neu, fel y bo’n briodol, yr ardal arall y mae pob etholiad perthnasol yn ymwneud â hi, ac

(c)pan gynhelir unrhyw un neu ragor o’r pleidleisiau ar y cyd mewn rhan yn unig o’r gymuned, pennu’r rhan honno.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (3), roi copi ohono i bob un o’r ymgeiswyr neu i’w hasiantau etholiadol (os penodwyd rhai).

(6Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan baragraffau (3) i (5) i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Papurau pleidleisio post

28.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau, yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1983, ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post—

(a)papur pleidleisio,

(b)datganiad pleidleisio post yn y ffurf a nodir yn Atodiad 4 neu ffurf i’r un perwyl, ac

(c)unrhyw amlenni ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post unrhyw wybodaeth y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol ynghylch sut i gael—

(a)cyfieithiadau i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg o unrhyw gyfarwyddydau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda’r papur pleidleisio,

(b)cyfieithiad i Braille o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny,

(c)delweddau graffig o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny, a

(d)y cyfarwyddydau neu’r canllawiau ar unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).

(3Rhaid i’r datganiad pleidleisio post gynnwys darpariaeth—

(a)i’r ffurflen gael ei llofnodi gan yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gan y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod, a

(b)ar gyfer datgan dyddiad geni’r etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, dyddiad geni’r dirprwy.

(4Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i’r swyddog canlyniadau sicrhau bod y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post yn rhad ac am ddim.

(5Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Darparu gorsafoedd pleidleisio

29.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)darparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio, a

(b)dyrannu’r etholwyr i’r gorsafoedd pleidleisio.

(2Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw nifer o fythau a all fod yn angenrheidiol lle gall pleidleiswyr farcio’u pleidleisiau wedi eu sgrinio heb gael eu gweld.

(4Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Penodi swyddogion llywyddu a chlercod

30.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau benodi a thalu—

(a)swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio, a

(b)unrhyw nifer o glercod sy’n angenrheidiol at ddibenion y bleidlais neu’r cyfrif neu fel arall at ddibenion yr etholiad.

(2Ni chaiff y swyddog canlyniadau benodi’n fwriadol yn swyddog llywyddu neu glerc berson a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd mewn cysylltiad â’r etholiad.

(3Caiff y swyddog canlyniadau lywyddu mewn gorsaf bleidleisio.

(4Pan fo’r swyddog canlyniadau yn llywyddu mewn gorsaf bleidleisio, mae’r rheolau hyn yn gymwys i’r swyddog canlyniadau sy’n llywyddu felly gyda’r addasiadau angenrheidiol o ran pethau a wneir gan y swyddog canlyniadau mewn perthynas â’r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau.

(5Caiff swyddog llywyddu awdurdodi’r clercod i wneud unrhyw beth (gan gynnwys gofyn cwestiynau) y mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu ei wneud neu’n awdurdodi’r swyddog llywyddu i’w wneud mewn gorsaf bleidleisio, ac eithrio gorchymyn i unrhyw berson gael ei wahardd neu ei symud o’r orsaf bleidleisio.

(6Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon mewn perthynas â phenodi swyddogion llywyddu a chlercod i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol

31.—(1Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon neu ddanfon—

(a)cerdyn pleidleisio swyddogol i etholwyr nad ydynt yn pleidleisio drwy’r post,

(b)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post i etholwyr sy’n pleidleisio drwy’r post ac nid drwy ddirprwy,

(c)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr ac nid drwy’r post, a

(d)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr drwy’r post.

(2Rhaid i gerdyn pleidleisio swyddogol neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad cymwys yr etholwr.

(3Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.

(4Rhaid i bob cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol yn Atodiad 5 neu ffurf i’r un perwyl a rhaid iddo nodi—

(a)enw’r cyngor y mae cynghorwyr i’w hethol iddo,

(b)yr ardal etholiadol y mae cynghorwyr i’w hethol drosti,

(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros yr ardal etholiadol honno,

(d)enw, cyfeiriad cymwys a rhif cofrestr yr etholwr,

(e)dyddiad ac oriau’r bleidlais a safle gorsaf bleidleisio’r etholwr, ac

(f)unrhyw wybodaeth arall y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol.

(5Caniateir i wybodaeth wahanol gael ei darparu o dan baragraff (4)(f) i wahanol etholwyr neu ddisgrifiadau o etholwr.

(6Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r cerdyn pleidleisio—

(a)cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir yn y ffurf briodol yn Atodiad 5 yn hytrach na’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(d), a

(b)cael ei anfon neu ei ddanfon mewn amlen neu fath arall o orchudd fel nad yw’n datgelu bod gan yr etholwr gofnod dienw.

(7Os yw’r swyddog canlyniadau a’r swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad perthnasol o’r farn ei bod yn briodol, caniateir i gerdyn pleidleisio a ddyroddir o dan y rheol hon gael ei gyfuno â cherdyn pleidleisio o’r un math a ddyroddir ym mhob etholiad perthnasol.

(8Yn y rheol hon—

(a)ystyr “etholwr” yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal etholiadol o dan sylw ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, ac eithrio ei fod yn cynnwys person a ddangosir y pryd hwnnw yn y gofrestr (neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw) fel person sydd o dan yr oedran pleidleisio dim ond os yw’n ymddangos o’r gofrestr (neu o’r cofnod o gofnodion dienw) y bydd y person o oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y bleidlais;

(b)mae i “cyfeiriad cymwys” yr un ystyr ag sydd i “qualifying address” yn Neddf 1983 (gweler adran 202(1) o’r Ddeddf honno).

Cyfarpar gorsafoedd pleidleisio

32.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob swyddog llywyddu unrhyw nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(2Rhaid i bob blwch pleidleisio fod wedi ei adeiladu fel y gellir rhoi papurau pleidleisio ynddo, ond na ellir eu tynnu’n ôl ohono, heb i’r blwch gael ei ddatgloi neu, pan nad oes clo ar y blwch, heb i’r sêl gael ei thorri.

(3Os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol, caniateir defnyddio’r un blwch pleidleisio ar gyfer y bleidlais yn etholiad y gymuned a’r bleidlais ym mhob etholiad perthnasol.

(4Os bwriedir defnyddio blychau ar wahân, rhaid i bob blwch gael ei farcio’n glir—

(a)â’r etholiad y mae’n ymwneud ag ef, fel y’i dangosir ar bapurau pleidleisio’r etholiad hwnnw, a

(b)â gwybodaeth sy’n pennu lliw’r papurau pleidleisio y caniateir eu gosod yn y blwch.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)deunyddiau i alluogi’r pleidleiswyr i farcio’r papurau pleidleisio,

(b)copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(c)copïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 i’r graddau y maent yn ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(d)copïau o’r rhannau o unrhyw restrau o bersonau sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy sy’n cyfateb i’r gofrestr etholwyr berthnasol, ac

(e)rhestr (“rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio”) sy’n cynnwys y rhan honno o Ran 2 o’r rhestr rhifau cyfatebol a baratowyd o dan reol 23 sy’n cynnwys y rhifau, ond nid y marciau adnabod unigryw eraill, sy’n cyfateb i’r rhai ar y papurau pleidleisio a ddarperir i’r swyddog llywyddu o dan baragraff (1).

(6Ym mharagraff (5), ystyr “y gofrestr etholwyr berthnasol” yw’r gofrestr etholwyr ar gyfer yr ardal etholiadol neu unrhyw ran ohoni sy’n cynnwys y cofnodion sy’n ymwneud â’r etholwyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau beri i gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio gael ei arddangos ym mhob gorsaf bleidleisio.

(8Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)copi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio i’w ddal yn y llaw er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy’n rhannol ddall, a

(b)dyfais i alluogi pleidleiswyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall i bleidleisio heb fod angen cymorth y swyddog llywyddu neu gydymaith (gweler rheolau 43 i 45 o ran y cymorth y caiff y swyddog llywyddu neu gydymaith ei roi).

(9Rhaid i’r copi sampl o’r papur pleidleisio y mae’n ofynnol ei arddangos a’i ddarparu o dan baragraffau (7) ac (8)(a) gael ei farcio’n glir fel sbesimen a’i ddarparu i arwain y pleidleiswyr yn unig.

(10Rhaid i’r ddyfais y cyfeirir ati ym mharagraff (8)(b)—

(a)caniatáu i bapur pleidleisio gael ei fewnosod yn y ddyfais a’i thynnu ohoni, neu ei gysylltu â’r ddyfais a’i datgysylltu oddi wrthi yn hawdd a heb ddifrodi’r papur,

(b)dal y papur pleidleisio yn gadarn yn ei le wrth gael ei defnyddio, ac

(c)darparu modd addas i’r pleidleisiwr—

(i)adnabod y bylchau ar y papur pleidleisio y gellir marcio pleidleisiau arnynt,

(ii)adnabod yr ymgeisydd y mae pob bwlch yn cyfeirio ato, a

(iii)marcio’i bleidlais yn y bwlch a ddewisir.

(11Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd beri i hysbysiad yn y ffurf yn Atodiad 6, yn rhoi cyfarwyddydau i arwain y pleidleiswyr wrth bleidleisio, gael ei arddangos—

(a)y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio (ond y tu allan i’r bythau pleidleisio), a

(b)y tu allan i bob gorsaf bleidleisio.

(12Caniateir hefyd i’r swyddog canlyniadau ddarparu copïau o’r hysbysiad mewn Braille neu mewn unrhyw ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol.

(13Rhaid arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—

(a)pan fo un cynghorydd yn unig i gael ei ethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio unwaith yn unig drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â’i ddewis;

(b)pan fo mwy nag un cynghorydd i gael eu hethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio dros ddim mwy na’r nifer sydd i’w ethol drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â phob un o’i ddewisiadau;

(c)rhybudd i’r pleidleisiwr i beidio â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu mae’n bosibl na fydd ei bleidlais yn cyfrif.

(14Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Penodi asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif

33.—(1Cyn i’r bleidlais ddechrau, caiff ymgeisydd benodi—

(a)asiantau pleidleisio i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a

(b)asiantau cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.

(2Caniateir i’r un person gael ei benodi’n asiant pleidleisio neu’n asiant cyfrif gan fwy nag un ymgeisydd.

(3Uchafswm yr asiantau pleidleisio a gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio yw pedwar neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad.

(4Os yw nifer yr asiantau pleidleisio a benodir i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio benodol yn fwy na phedwar (neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad)—

(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu pa asiantau y caniateir iddynt fod yn bresennol drwy fwrw coelbren, a

(b)dim ond yr asiantau y mae’r coelbren yn mynd o’u plaid sydd i’w trin fel pe baent wedi eu penodi.

(5Caiff y swyddog canlyniadau osod terfyn ar nifer yr asiantau cyfrif y caniateir i bob ymgeisydd eu penodi ond rhaid i’r terfyn—

(a)bod yr un fath ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr, a

(b)oni bai bod amgylchiadau arbennig, beidio â bod yn llai na’r nifer a geir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir yn y cyfrif â nifer yr ymgeiswyr (gan anwybyddu unrhyw weddill).

(6At ddibenion y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5), mae asiant cyfrif a benodwyd ar gyfer mwy nag un ymgeisydd yn asiant ar wahân ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr y’i penodwyd ganddynt.

(7Rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau cydlynol pan benodir asiantau pleidleisio neu asiantau cyfrif.

(8Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi enwau a chyfeiriadau’r personau a benodwyd, a

(b)cael ei roi dim hwyrach na’r pumed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais, gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig.

(9Os bydd asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yn marw neu’n dod yn analluog i weithredu—

(a)caiff yr ymgeisydd benodi asiant arall yn ei le, a

(b)rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau cydlynol ar unwaith yn datgan enw a chyfeiriad yr asiant arall.

Asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif: darpariaeth atodol

34.—(1Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un)—

(a)gwneud unrhyw beth y mae asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi i’w wneud (neu y byddai wedi ei awdurdodi i’w wneud, pe bai wedi ei benodi);

(b)cynorthwyo asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd i wneud unrhyw beth y mae’r asiant pleidleisio neu’r asiant cyfrif wedi ei awdurdodi i’w wneud.

(2Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y rheolau hyn ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un).

(3Pan fo’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud neu’n awdurdodi rhywbeth i gael ei wneud ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif, nid yw diffyg presenoldeb yr asiant neu’r asiantau ar yr adeg a’r lle a benodwyd yn peri bod y peth a wneir yn annilys.

(4Pan nad oes gan ymgeisydd asiant cyfrif, caiff y swyddog canlyniadau roi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i’r asiant cyfrif o dan y rheolau hyn i’r ymgeisydd.

Hysbysu’r gofyniad cyfrinachedd

35.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio, heblaw am berson a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) i (d), wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983.

(2Y personau nad yw’r ddyletswydd o dan baragraff (1) yn gymwys iddynt yw—

(a)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddiben pleidleisio;

(b)person o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleisiwr i’r orsaf bleidleisio;

(c)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cydymaith pleidleisiwr ag anableddau;

(d)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cwnstabl ar ddyletswydd.

(3Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

(4Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Dychwelyd papurau pleidleisio post

36.—(1Pan fo pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.

(2Pan fo pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan y Ddeddf honno.

(3Nid yw rheol 58 yn gymwys at ddibenion penderfynu a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd at ddibenion y rheol hon.

(4Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Y Bleidlais

Derbyn i’r orsaf bleidleisio

37.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu wahardd pawb o’r orsaf bleidleisio ac eithrio—

(a)pleidleiswyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio,

(b)personau o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleiswyr i’r orsaf bleidleisio,

(c)yr ymgeiswyr a’u hasiantau etholiadol (os penodwyd un),

(d)yr asiantau pleidleisio a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,

(e)y clercod a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,

(f)y swyddog canlyniadau neu aelodau staff y swyddog canlyniadau,

(g)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig),

(h)y cwnstabliaid ar ddyletswydd,

(i)cymdeithion pleidleiswyr ag anableddau, a

(j)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddibenion etholiad perthnasol.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu reoleiddio cyfanswm nifer y pleidleiswyr a’r personau o dan 16 oed sydd yn eu cwmni a dderbynnir i’r orsaf bleidleisio yr un pryd.

(3Dim ond un asiant pleidleisio y caniateir ei dderbyn yr un pryd i orsaf bleidleisio ar ran yr un ymgeisydd.

(4Caiff cwnstabl sy’n pleidleisio’n bersonol wneud hynny naill ai—

(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu

(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r cwnstabl yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan swyddog heddlu sydd â gradd arolygydd neu’n uwch.

(5Caiff person a gyflogir gan y swyddog canlyniadau, os yw’n pleidleisio’n bersonol, wneud hynny naill ai—

(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu

(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r person yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan y swyddog canlyniadau.

(6Caniateir i un dystysgrif gael ei defnyddio ar gyfer etholiad y gymuned a phob etholiad perthnasol.

(7Rhaid i dystysgrif sy’n cael ei hildio o dan baragraff (4) neu (5) gael ei chanslo ar unwaith.

(8Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

(9Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaeth llofnodi tystysgrif at ddibenion paragraff (5) o’r rheol hon i gael ei chyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Cadw trefn yn yr orsaf

38.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw trefn yn yr orsaf bleidleisio.

(2Os bydd person yn camymddwyn mewn gorsaf bleidleisio, neu’n methu ag ufuddhau i unrhyw orchmynion a roddir yn gyfreithlon gan y swyddog llywyddu, caiff y swyddog llywyddu orchymyn i’r person gael ei symud o’r orsaf bleidleisio.

(3Pan fo’r swyddog llywyddu yn gorchymyn bod person yn cael ei symud, caniateir i’r person gael ei symud ar unwaith—

(a)gan gwnstabl yn yr orsaf bleidleisio neu yn ei hymyl, neu

(b)gan unrhyw berson arall a awdurdodir mewn ysgrifen gan y swyddog canlyniadau i symud pobl o’r orsaf bleidleisio.

(4Pan fo person wedi ei symud, ni chaiff fynd yn ôl, heb ganiatâd y swyddog llywyddu, i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais.

(5Pan gyhuddir person sydd wedi ei symud o gyflawni trosedd yn yr orsaf bleidleisio, caniateir ymdrin â’r person fel person y mae cwnstabl wedi mynd ag ef i’r ddalfa am drosedd heb warant.

(6Ni chaniateir i’r pwerau a roddir gan y rheol hon gael eu harfer er mwyn atal pleidleisiwr sydd fel arall â hawl i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio rhag cael cyfle i bleidleisio yn yr orsaf honno.

(7Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaeth y swyddog canlyniadau o dan baragraff (3)(b) o’r rheol hon i gael ei chyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Selio blychau pleidleisio

39.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu gymryd y camau a ganlyn yn union cyn i’r bleidlais ddechrau.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu ddangos y blwch pleidleisio gwag i’r bobl hynny (os oes rhai) sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, fel y gallant weld ei fod yn wag.

(3Yna rhaid i’r swyddog llywyddu—

(a)cloi’r blwch, os oes iddo glo, a

(b)gosod sêl y swyddog canlyniadau arno, mewn modd sy’n ei atal rhag cael ei agor heb dorri’r sêl.

(4Yna rhaid i’r swyddog llywyddu osod y blwch, o fewn golwg y swyddog llywyddu, i dderbyn papurau pleidleisio.

(5Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw’r blwch dan glo a than sêl neu (os nad oes iddo glo) ei gadw dan sêl.

Cwestiynau y caniateir eu gofyn i bleidleiswyr

40.—(1Adeg cais am bapur pleidleisio (ond nid wedyn), caiff y swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 (a nodir ym mharagraff (3)) neu yng ngholofn gyntaf Tabl 2 (a nodir ym mharagraff (4)), un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cyfnod cyfatebol yn yr ail golofn.

(2Os bydd yr ymgeisydd neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu wneud hynny, rhaid i’r swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn.

(3Mae Tabl 1 yn nodi cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) ac y caiff ymgeisydd (neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd) ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gofyn o dan baragraff (2).

Tabl 1
DisgrifiadCwestiynau
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr

1(a) Ai chi yw’r person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr etholiad hwn fel a ganlyn?

Nodiadau ar 1(a)

Yna rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen y cofnod cyfan o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.

1(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward hon neu ward arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r gymuned hon, heblaw fel dirprwy ar ran rhyw berson arall?

Nodiadau ar 1(b)

Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward hon neu ward arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward yn unig neu os nad oes wardiau.

2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr heblaw etholwr sydd â chofnod dienw

2(a) Ai chi yw’r person y mae ei enw’n ymddangos fel AB yn y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn fel person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran CD?

2(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward hon neu ward arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r gymuned hon, fel dirprwy ar ran CD?

2(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres CD?

Nodiadau ar 2(a) i (c)

Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at AB, mae’r swyddog llywyddu’n darllen yr enw fel y mae’n ymddangos yn y rhestr dirprwyon. Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at CD, mae’r swyddog llywyddu’n darllen enw’r etholwr.

Nodyn ar 2(b)

Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward hon neu ward arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward yn unig neu os nad oes wardiau.

3. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr sydd â chofnod dienw

3(a) Ai chi yw’r person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

3(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

3(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres y person sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

Nodyn ar 3(a) i (c)

Pan fo’r cwestiynau yn y cofnod hwn yn cyfeirio at [x], rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen rhif yr etholwr o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.

4. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y gofynnwyd y cwestiwn sydd wedi ei rifo 2(c) neu 3(c) yng ngholofn 2 iddo ac nad yw wedi ateb “Ie”

4. Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward hon neu ward arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r gymuned hon, ar ran dau berson nad ydych yn briod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres iddynt?

Nodyn ar 4

Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward hon neu ward arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward yn unig neu os nad oes wardiau.

(4Mae Tabl 2 yn nodi’r cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) (ond na chaniateir ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (2)).

Tabl 2
DisgrifiadCwestiynau
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr y ceir cofnod mewn perthynas ag ef yn y rhestr pleidleiswyr post

1(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post?

1(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post?

2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ac sydd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy

2(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy?

2(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy?

(5Ni chaniateir rhoi papur pleidleisio i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ateb un neu ragor o’r cwestiynau yn Nhabl 1 neu 2 oni bai bod y person wedi ateb y cwestiwn neu’r cwestiynau’n foddhaol.

(6Ac eithrio fel yr awdurdodir gan y rheol hon, ni chaniateir ymholi ynglŷn â hawl unrhyw berson i bleidleisio.

(7Yn y rheol hon, ystyr “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau a ddarperir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer yr orsaf bleidleisio o dan reol 32(5)(b) ac (c) (copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol a chopïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol).

Herio pleidleisiwr

41.  Ni chaniateir atal person rhag pleidleisio dim ond am fod y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol yn gymwys—

(a)bod ymgeisydd, asiant etholiadol ymgeisydd (os penodwyd un) neu asiant pleidleisio ymgeisydd wedi datgan bod ganddynt achos rhesymol dros gredu bod y person wedi cyflawni trosedd cambersonadu;

(b)bod y person wedi ei arestio ar y sail yr amheuir ei fod wedi cyflawni neu ar fin cyflawni trosedd cambersonadu.

Gweithdrefn pleidleisio

42.—(1Rhaid rhoi papur pleidleisio i bleidleisiwr sy’n gwneud cais am un.

(2Yn union cyn i’r papur pleidleisio gael ei roi—

(a)rhaid i rif yr etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw,

(b)oni bai bod gan yr etholwr gofnod dienw, rhaid i enw’r etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw hefyd,

(c)rhaid i rif yr etholwr gael ei farcio ar restr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio wrth ochr rhif y papur pleidleisio sydd i’w ddyroddi,

(d)rhaid gosod marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru gyferbyn â rhif yr etholwr i nodi bod papur pleidleisio wedi ei dderbyn, ond heb ddangos y papur pleidleisio penodol a dderbyniwyd, ac

(e)yn achos person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio fel dirprwy, rhaid gosod marc hefyd gyferbyn ag enw’r person yn y rhestr dirprwyon.

(3Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw—

(a)dim ond os dangosir cerdyn pleidleisio swyddogol yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, cerdyn pleidleisio swyddogol y dirprwy, i’r swyddog llywyddu y caniateir rhoi’r papur pleidleisio, a

(b)dim ond rhif yr etholwr y caniateir ei alw.

(4Ar ôl cael y papur pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr fynd ar unwaith i un o’r bythau yn yr orsaf bleidleisio.

(5Heb oedi’n ddiangen, rhaid wedyn i’r pleidleisiwr—

(a)marcio’r papur pleidleisio’n gyfrinachol,

(b)plygu’r papur pleidleisio er mwyn cuddio’r bleidlais,

(c)dangos cefn y papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu, er mwyn datgelu’r rhif a’r marc adnabod unigryw arall, a

(d)rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ym mhresenoldeb y swyddog llywyddu.

(6Cyn gynted ag y bydd y pleidleisiwr wedi rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr adael yr orsaf bleidleisio.

(7Os bydd pleidleisiwr yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, wrth i’r bleidlais gau ac nad yw wedi gallu bwrw ei bleidlais eto, rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu i’r pleidleisiwr fwrw ei bleidlais cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(8Caniateir i’r copïau o’r cofnodion cofrestru a ddefnyddir ar gyfer etholiad y gymuned gael eu defnyddio hefyd ar gyfer pob etholiad perthnasol.

(9Pan ddyroddir papurau pleidleisio i bleidleisiwr mewn cysylltiad ag etholiad y gymuned ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, caniateir gosod un marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru a, lle bo’n briodol, yn y rhestr dirprwyon i ddynodi bod y papurau pleidleisio wedi eu dyroddi.

(10Mewn unrhyw achos arall, rhaid marcio’r copïau o’r cofnodion cofrestru a, lle bo’n briodol, y rhestr dirprwyon mewn modd sy’n dynodi pob etholiad y mae papur pleidleisio wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad ag ef.

(11Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywyddu

43.—(1Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu am i’w bleidlais gael ei marcio os yw’r pleidleisiwr—

(a)yn methu, oherwydd dallineb neu anabledd arall, â phleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y rheolau hyn, neu

(b)yn datgan ar lafar nad yw’n gallu darllen.

(2Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio pan wneir y cais—

(a)peri i bleidlais y pleidleisiwr gael ei marcio ar bapur pleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y pleidleisiwr, a

(b)peri i’r papur pleidleisio gael ei osod yn y blwch pleidleisio.

(3Pan fo pleidlais pleidleisiwr wedi ei marcio yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r swyddog llywyddu nodi’r manylion a ganlyn ar restr a gedwir gan y swyddog llywyddu at ddibenion y rheol hon (“y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu”)—

(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a

(b)y rheswm y cafodd y bleidlais ei marcio.

(4Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w gofnodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu yw rhif yr etholwr.

(5Caniateir defnyddio’r un rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu ar gyfer etholiad y gymuned a phob etholiad perthnasol.

(6Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod pleidlais y pleidleisiwr wedi ei marcio mewn cysylltiad ag etholiad y gymuned ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd pleidlais y pleidleisiwr ei marcio.

(7Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: cymorth cymdeithion

44.—(1Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu, ar sail dallineb neu anabledd arall neu anallu i ddarllen, am ganiatâd i bleidleisio gyda chymorth cydymaith.

(2Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu ei gwneud yn ofynnol i’r pleidleisiwr ddatgan, ar lafar neu mewn ysgrifen, a yw dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith.

(3Yn y darpariaethau a ganlyn yn y rheol hon, cyfeirir at bleidleisiwr sy’n datgan bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen yn effeithio arno fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith fel pleidleisiwr ag anableddau.

(4Pan wneir cais am bleidleisio gyda chymorth cydymaith, rhaid i’r cydymaith wneud datganiad ysgrifenedig gerbron y swyddog llywyddu bod y cydymaith—

(a)wedi cyrraedd 16 oed, a

(b)heb gynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.

(5Rhaid i ddatganiad y cydymaith—

(a)bod ar ffurf y datganiad sy’n ymwneud ag etholiad y gymuned yn Atodiad 8, a

(b)cael ei roi i’r swyddog llywyddu sy’n gorfod tystio iddo a’i gadw.

(6Caniateir i ddatganiad y cydymaith yn etholiad y gymuned ac ym mhob etholiad perthnasol gael ei wneud yn yr un ddogfen.

(7Rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu cais y pleidleisiwr am gymorth cydymaith os yw’r swyddog llywyddu—

(a)wedi ei fodloni bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith, a

(b)wedi ei fodloni hefyd gan ddatganiad ysgrifenedig y cydymaith fod y cydymaith wedi cyrraedd 16 oed ac nad yw’r cydymaith wedi cynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.

(8Pan ganiateir y cais—

(a)caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud o dan y rheolau hyn i’r pleidleisiwr mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gael ei wneud yn hytrach i’r cydymaith, a

(b)caiff y pleidleisiwr wneud unrhyw beth y mae angen ei wneud mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gyda chymorth y cydymaith.

Pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodol

45.—(1Pan roddir pleidlais gyda chymorth cydymaith yn unol â rheol 44, rhaid i’r swyddog llywyddu wedyn nodi’r manylion a ganlyn mewn rhestr a gedwir gan y swyddog llywyddu (“y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith”)—

(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a

(b)enw a chyfeiriad y cydymaith.

(2Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w nodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith yw rhif yr etholwr.

(3Pan fo gan y pleidleisiwr gofnod dienw, dim ond rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru y caniateir ei nodi yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith.

(4Ni chaniateir codi ffi na thaliad arall mewn cysylltiad â datganiad a wneir gan gydymaith o dan reol 44(4).

(5Caniateir defnyddio’r un rhestr o bleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith ar gyfer etholiad y gymuned a phob etholiad perthnasol.

(6Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod pleidlais y pleidleisiwr wedi ei rhoi gyda chymorth mewn cysylltiad ag etholiad y gymuned ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd pleidlais y pleidleisiwr ei rhoi gyda chymorth.

(7Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Papurau pleidleisio a dendrwyd: yr amgylchiadau lle maent ar gael

46.—(1Mae’r rheol hon yn nodi amgylchiadau pan fo gan berson sy’n gwneud cais am bleidlais (“y ceisydd”) hawl i bleidleisio ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae’r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn y bleidlais ond pan fo’r weithdrefn ar gyfer rhoi’r bleidlais yn cael ei haddasu yn y ddwy ffordd a ganlyn—

(a)bod rhaid i’r person ddefnyddio papur pleidleisio sydd o liw gwahanol i bapurau pleidleisio eraill, a

(b)bod rhaid i’r person roi’r papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu (yn hytrach na’i roi yn y blwch pleidleisio).

Amgylchiadau lle mae pleidlais eisoes wedi ei rhoi yn bersonol

(2Y set gyntaf o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru ac nad yw wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post neu’r rhestr dirprwyon, a

(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.

(3Yr ail set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn y rhestr dirprwyon fel dirprwy ar ran etholwr ac nad oes ganddo hawl i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy, a

(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.

Amgylchiadau lle mae ceisydd ar y rhestr pleidleiswyr post yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidlais bost

(4Y drydedd set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru,

(b)pan fo’r ceisydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, ac

(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post yn yr etholiad.

(5Y bedwaredd set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon,

(b)pan fo’r person hwnnw hefyd wedi ei enwi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, ac

(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy yn yr etholiad.

Amgylchiadau lle mae’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post etc.

(6Y bumed set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, a

(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.

(7Y chweched set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, a

(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.

(8Cyfeirir at bapur pleidleisio a roddir i swyddog llywyddu yn unol â’r rheol hon yn y rheolau hyn fel “papur pleidleisio a dendrwyd”.

(9Pan fo gan etholwr gofnod dienw, mae’r cyfeiriadau yn y rheol hon at berson a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu mewn rhestr i’w darllen fel cyfeiriadau at berson sydd â rhif yn y copïau neu yn y rhestr.

(10Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Dyletswyddau swyddogion llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd

47.—(1Mae’r rheol hon yn nodi dyletswyddau’r swyddog llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu arnodi’r wybodaeth a ganlyn ar y papur pleidleisio—

(a)enw’r pleidleisiwr, a

(b)rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rhif yr etholwr.

(3Rhaid i’r swyddog llywyddu roi’r papur pleidleisio mewn pecyn ar wahân.

(4Rhaid cofnodi’r wybodaeth a ganlyn ar restr (y “rhestr pleidleisiau a dendrwyd”)—

(a)enw’r pleidleisiwr, a

(b)rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rhif yr etholwr.

(5Pan fo gan etholwr gofnod dienw, rhaid i’r swyddog llywyddu beidio â chynnwys enw’r pleidleisiwr ar y papur pleidleisio nac yn y rhestr pleidleisiau a dendrwyd.

(6Caniateir defnyddio’r un rhestr pleidleisiau a dendrwyd ar gyfer etholiad y gymuned a phob etholiad perthnasol.

(7Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai papur pleidleisio a dendrwyd wedi ei roi i’r swyddog llywyddu mewn cysylltiad ag etholiad y gymuned ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd papur pleidleisio a dendrwyd ei roi.

(8Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Papurau pleidleisio a ddifethwyd

48.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo pleidleisiwr wedi ymdrin yn anfwriadol â’i bapur pleidleisio yn y fath fodd fel na ellir ei ddefnyddio’n gyfleus fel papur pleidleisio.

(2Caiff y pleidleisiwr sicrhau papur pleidleisio arall—

(a)drwy roi’r papur pleidleisio yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol (y “papur pleidleisio a ddifethwyd”) i’r swyddog llywyddu, a

(b)drwy brofi er boddhad y swyddog llywyddu yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol.

(3Pan roddir papur pleidleisio arall i’r pleidleisiwr, rhaid i’r papur pleidleisio a ddifethwyd gael ei ganslo ar unwaith.

Cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais

49.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw rhestr o bersonau y rhoddir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i addasiad yn y gofrestr a wneir yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n dod yn effeithiol ar ddiwrnod y bleidlais.

(2Caniateir defnyddio’r un rhestr ar gyfer etholiad y gymuned a phob etholiad perthnasol.

(3Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai papurau pleidleisio wedi eu rhoi o ganlyniad i addasiad yn y gofrestr mewn cysylltiad ag etholiad y gymuned ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd papurau pleidleisio eu rhoi felly.

Gohirio’r bleidlais os ceir terfysg

50.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan dorrir ar draws y trafodion mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu pan gânt eu rhwystro gan derfysg neu drais agored.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu—

(a)gohirio’r trafodion tan drannoeth, a

(b)hysbysu’r swyddog canlyniadau cydlynol ar unwaith.

(3Pan gaiff y bleidlais ei gohirio mewn gorsaf bleidleisio—

(a)rhaid i’r oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo fod yr un fath ag ar gyfer y diwrnod gwreiddiol, a

(b)mae cyfeiriadau yn y rheolau hyn at ddiwedd y bleidlais i’w darllen fel cyfeiriadau at ddiwedd yr oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo.

Y weithdrefn wrth gau’r bleidlais

51.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r swyddog llywyddu eu cymryd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bob pleidleisiwr fwrw ei bleidlais.

(2Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion etholiad y gymuned neu etholiad perthnasol sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu selio pob blwch pleidleisio (gyda’r allwedd ynghlwm os oes un) a oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio er mwyn atal gosod papurau pleidleisio ychwanegol ynddo, gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl.

(3Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion etholiad y gymuned neu etholiad perthnasol sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu osod pob un o’r canlynol mewn pecynnau ar wahân, wedi eu selio gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl—

(a)y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd (gyda’i gilydd);

(b)y papurau pleidleisio a dendrwyd;

(c)y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon (gyda’i gilydd);

(d)rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio, fel y’i marciwyd (gweler rheol 42(2)(c)) (y cyfeirir ati yn y darpariaethau a ganlyn o’r rheolau hyn fel “y rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd”);

(e)unrhyw dystysgrifau a ildiwyd o dan reol 37(4) neu (5) (ildio tystysgrifau a ddyroddwyd i gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau);

(f)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn (gyda’i gilydd)—

(i)y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);

(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);

(iii)y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith (gweler rheol 45);

(iv)y rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);

(v)y rhestr a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais).

(4Rhaid i’r swyddog llywyddu ddanfon y blychau pleidleisio a’r pecynnau a seliwyd i’r swyddog canlyniadau cydlynol neu beri iddynt gael eu danfon yn unol â threfniadau a gymeradwywyd gan y swyddog canlyniadau hwnnw.

(5I gyd-fynd â’r pecynnau rhaid cael datganiad (“cyfriflen papurau pleidleisio”) a baratowyd gan y swyddog llywyddu ac sy’n dangos—

(a)nifer y papurau pleidleisio a roddwyd i’r swyddog llywyddu, a

(b)sut y cyfrifwyd y papurau pleidleisio o dan y penawdau a ganlyn—

(i)nifer y papurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na chyfrifwyd hwy fel arall;

(ii)nifer y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio;

(iii)nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd;

(iv)nifer y papurau pleidleisio a dendrwyd.

(6Ni chaniateir cyfuno cynnwys y pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r papurau pleidleisio a dendrwyd â chynnwys y pecynnau a wneir o dan y rheol gyfatebol sy’n gymwys mewn unrhyw etholiad perthnasol.

(7Ni chaniateir cyfuno’r gyfriflen papurau pleidleisio â’r gyfriflen papurau pleidleisio a baratoir o dan y rheol gyfatebol sy’n gymwys mewn unrhyw etholiad perthnasol.

(8Yn y rheol hon, ystyr “y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau o’r cofnodion cofrestru (fel y’u diffinnir gan reol 40(7)), fel y’u marciwyd yn unol â’r rheolau hyn.

RHAN 4Cyfrif y Pleidleisiau a Datgan y Canlyniad mewn Etholiadau lle Ceir Gornest

Trosolwg o’r rheolau a dehongli

52.—(1Mae’r rheol hon yn rhoi trosolwg o sut y cymhwysir y Rhan hon.

(2Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—

(a)rheol 53 (presenoldeb mewn trafodion);

(b)rheol 54 (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);

(c)rheol 55 (gwahanu papurau pleidleisio etc.);

(d)rheolau 58 i 64 (darpariaethau ynglŷn â chyfrif etc.).

(3Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—

(a)rheol 53(1) a (3) i (9) (presenoldeb mewn trafodion);

(b)rheol 56 (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);

(c)rheol 57 (agor cynwysyddion etc.);

(d)rheolau 58 i 64 (darpariaethau ynglŷn â chyfrif etc.).

(4Yn y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif y gymuned yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion etholiad y gymuned;

(b)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol;

(c)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol y gymuned yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol (os oes rhai) a benodwyd at ddibenion etholiad y gymuned;

(d)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol.

Presenoldeb mewn trafodion o dan y Rhan hon

53.—(1Mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reolau 55(2) i (10), 57 a 59 i 64—

(a)y swyddog canlyniadau ac aelodau staff y swyddog canlyniadau;

(b)pob ymgeisydd a gwestai i bob ymgeisydd;

(c)asiantau etholiadol y gymuned (os penodwyd rhai);

(d)asiantau cyfrif y gymuned;

(e)unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);

(f)y cwnstabliaid ar ddyletswydd.

(2Yn ychwanegol, mae gan unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif mewn etholiad perthnasol hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reol 55(2) i (10).

(3Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn trafodion o dan unrhyw un neu ragor o reolau 55(2) i (10), 57 neu 59 i 64.

(4Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (2) oni bai bod y swyddog canlyniadau—

(a)wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn rhwystro swyddogaethau’r swyddog canlyniadau rhag cael eu cyflawni’n effeithlon, a

(b)naill ai wedi ymgynghori â’r personau priodol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.

(5At ddibenion paragraff (4)(b), “y personau priodol” yw—

(a)yn achos trafodion o dan reol 55(2) i (10), yr asiantau etholiadol cymunedol (neu, yn achos ymgeiswyr sydd heb benodi asiantau etholiadol, yr ymgeiswyr) a’r asiantau etholiadol eraill;

(b)yn achos unrhyw drafodion eraill, yr asiantau etholiadol cymunedol neu, yn achos ymgeiswyr sydd heb benodi asiantau etholiadol, yr ymgeiswyr.

(6Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i unrhyw asiantau cyfrif sydd â hawl i fod yn bresennol ar gyfer goruchwylio’r trafodion, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.

(7Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd y rhoddir y bleidlais iddo ac wedyn cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd, mae gan asiantau cyfrif y gymuned hawl i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.

(8Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983 (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd).

(9Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

54.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau o dan reol 55 cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r bleidlais gau.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y gymuned a’r asiantau cyfrif eraill yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyflawni’r swyddogaethau o dan reol 55.

(4Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio gyda’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd y rhagofalon eraill hynny sy’n briodol at ddiben atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu farciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Gwahanu papurau pleidleisio etc. pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

55.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y gymuned a’r asiantau cyfrif eraill, agor pob blwch pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi ar wahân nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd ym mhob etholiad.

(3Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapur pleidleisio a dendrwyd.

(4Pan ddefnyddiwyd blychau pleidleisio ar wahân yn y bleidlais, nid yw unrhyw bleidlais dros ymgeisydd yn etholiad y gymuned i’w thrin fel pleidlais annilys am ei bod wedi ei gosod yn y blwch pleidleisio y bwriadwyd ei ddefnyddio mewn etholiad perthnasol.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau etholiadol y gymuned (os penodwyd rhai) a’r asiantau etholiadol eraill, ddilysu pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd, a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd).

(6Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y dilysiad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiadol y gymuned (os penodwyd rhai), ac i unrhyw asiant etholiadol arall, sy’n gofyn amdano.

(7Pan nad yw ymgeisydd yn etholiad y gymuned wedi penodi asiant etholiadol—

(a)rhaid i ddilysiad y gyfriflen papurau pleidleisio gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiantau cyfrif yr ymgeisydd, a

(b)os gwneir cais, rhaid rhoi copi o’r datganiad i’r ymgeisydd.

(8Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (ynglŷn â hynny gweler rheol 58), a

(b)cofnodi ar wahân y nifer a gyfrifwyd yn y bleidlais yn etholiad y gymuned ac ym mhob etholiad perthnasol.

(9Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)gwahanu’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud ag etholiad y gymuned o’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud â phob etholiad perthnasol,

(b)trefnu’r papurau pleidleisio ar gyfer pob etholiad perthnasol yn becynnau, ac

(c)selio’r pecynnau mewn cynwysyddion ar wahân gan arnodi ar bob un ddisgrifiad o’r ardal y mae’r papurau pleidleisio yn ymwneud â hi.

(10Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau ddanfon neu beri danfon i swyddog canlyniadau pob etholiad perthnasol—

(a)cynwysyddion y papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â rhestr o’r cynwysyddion a’u cynnwys,

(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â chopi o’r datganiadau ynglŷn â chanlyniad y dilysiad, ac

(c)y pecynnau o bapurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r papurau pleidleisio a dendrwyd.

(11Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio a ddefnyddiwyd yn etholiad y gymuned gyda’i gilydd.

Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

56.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyfrif y pleidleisiau ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y gymuned cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r papurau pleidleisio gael eu danfon gan y swyddog canlyniadau, sef y swyddog canlyniadau cydlynol.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y gymuned yn nodi’r amser y dechreuir cyfrif pleidleisiau (a bwrw bod y papurau pleidleisio wedi eu danfon) a’r man lle bydd y cyfrif yn digwydd.

(4Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Agor cynwysyddion etc. pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

57.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Ar ôl cael y cynwysyddion papurau pleidleisio oddi wrth y swyddog canlyniadau, sef y swyddog canlyniadau cydlynol, ac ar ôl yr amser a bennwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan reol 56(3), rhaid i’r swyddog canlyniadau agor pob cynhwysydd ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y gymuned.

(3Pan nad yw’r trafodion ynglŷn â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn cael eu cynnal ynghyd â’r trafodion hynny mewn etholiad perthnasol o dan reoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(1) neu o dan y rheoliad hwnnw fel y’i cymhwysir gan reoliadau o dan adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2), rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol a chofnodi’r nifer a gyfrifwyd.

(4Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio post a’r holl bapurau pleidleisio o’r cynwysyddion gyda’i gilydd.

Darpariaeth bellach ynghylch papurau pleidleisio post

58.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys ar gyfer penderfynu a yw papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol fel y crybwyllir yn rheolau 55(8)(a) a 57(3).

(2Mae papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post sy’n cyd-fynd ag ef sydd wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn yr ardal briodol cyn i’r bleidlais gau,

(b)wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r bleidlais gau, neu

(c)wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r bleidlais gau.

(3Mae datganiad pleidleisio post wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu (yn ôl y digwydd) y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod,

(b)os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu (yn ôl y digwydd) dyddiad geni’r dirprwy, ac

(c)mewn achos lle mae camau i ddilysu dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi dilysu’r dyddiad geni ac (ac eithrio mewn achos lle mae’r gofyniad ynglŷn â llofnod wedi ei hepgor) y llofnod.

(4Pan fo person, wrth i’r bleidlais gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, er mwyn cyflwyno papur pleidleisio post a datganiad pleidleisio post—

(a)rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a

(b)pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r bleidlais gau at ddibenion y rheol hon.

(5“Yr ardal briodol” y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) yw’r ardal a ddynodir drwy—

(a)canfod y pleidleisiau y rhoddwyd papur pleidleisio i’r pleidleisiwr post mewn cysylltiad â hwy,

(b)adnabod yr etholaeth neu’r ardal arall y mae pob un o’r pleidleisiau hynny’n cael eu cynnal mewn cysylltiad â hi, ac

(c)wedyn adnabod yr ardal sy’n gyffredin i’r holl ardaloedd hynny.

Y cyfrif: cyffredinol

59.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cymysgu’r papurau pleidleisio o dan reol 55(11) neu 57(4).

(2Rhaid canfod canlyniad y bleidlais drwy gyfrif y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd.

(3Rhaid datgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i’r ymgeiswyr eraill, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, wedi ei ethol neu wedi eu hethol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.

(5Caiff y swyddog canlyniadau eithrio unrhyw oriau rhwng 7 p.m. a 9 a.m. fore trannoeth.

(6Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantau cyfrif cymuned sy’n dymuno gosod eu sêl, a

(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.

Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd

60.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—

(a)papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;

(b)papur pleidleisio y rhoddwyd pleidleisiau arno dros fwy o ymgeiswyr nag y mae gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio drostynt;

(c)papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;

(d)papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.

(2Pan fo gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd, nid yw papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd o ran unrhyw bleidlais nad oes ansicrwydd yn codi yn ei chylch a rhaid cyfrif y bleidlais honno.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—

(a)mewn man heblaw’r man priodol,

(b)heblaw drwy gyfrwng croes, neu

(c)drwy fwy nag un marc.

(4Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym (naill ai’n gyfan gwbl neu o ran y bleidlais honno), oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig—

(a)os yw’n glir o’r papur pleidleisio fod y pleidleisiwr yn bwriadu pleidleisio dros un neu’r llall o’r ymgeiswyr,

(b)os nad yw’r modd y mae’r papur pleidleisio wedi ei farcio ynddo’i hun yn adnabod y pleidleisiwr, ac

(c)os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni na ellir adnabod y pleidleisiwr o’r papur pleidleisio.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)arnodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif;

(b)arnodi’r geiriau “gwrthodwyd yn rhannol” ar unrhyw bapur pleidleisio y cyfrifir pleidlais arno yn unol â pharagraff (2) a nodi pa bleidlais neu bleidleisiau a gyfrifwyd.

(6Os bydd asiant cyfrif cymuned yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” at yr arnodiad.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd a’r nifer a wrthodwyd yn rhannol.

(8Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd neu a wrthodwyd yn rhannol o dan bob un o’r penawdau yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (1).

Ailgyfrif

61.—(1Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un), os yw’n bresennol pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.

(3Ni chaniateir cymryd unrhyw gam pan fo’r cyfrif wedi ei gwblhau nes bod yr ymgeiswyr a’r asiantau etholiadol sy’n bresennol wedi cael cyfle rhesymol i ofyn i’r pleidleisiau gael eu hailgyfrif.

(4Pan fydd ailgyfrif yn digwydd, mae’r rheol hon hefyd yn gymwys mewn perthynas â’r ailgyfrif (fel y gall yr ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un), er enghraifft, os yw’n bresennol pan fydd yr ailgyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau).

Pleidleisiau cyfartal

62.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r pleidleisiau’n gyfartal rhwng unrhyw ymgeiswyr ar ôl cyfrif y pleidleisiau (gan gynnwys unrhyw ailgyfrif), a phan fyddai ychwanegu pleidlais yn rhoi’r hawl i unrhyw un o’r ymgeiswyr hynny gael ei ethol.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu ar unwaith rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren a bwrw ymlaen fel pe bai’r ymgeisydd y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid wedi cael pleidlais ychwanegol.

Penderfynu ar bapurau pleidleisio

63.  Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad.

Datgan y canlyniad

64.—(1Pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i ymgeiswyr eraill wedi ei ethol neu wedi eu hethol, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad yn datgan enwau a chyfeiriadau’r ymgeiswyr a etholwyd—

(a)i swyddog priodol y cyngor cymuned, a

(b)i swyddog priodol y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y lleolir y gymuned ynddo.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad hefyd—

(a)o enwau’r ymgeiswyr a etholwyd,

(b)o gyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd (p’un a etholwyd hwy ai peidio), ac

(c)o nifer y papurau pleidleisiau a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gweler rheol 60(7)).

RHAN 5Gwaredu Dogfennau

Selio papurau pleidleisio mewn etholiadau lle ceir gornest

65.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau mewn etholiad lle ceir gornest.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau selio mewn pecynnau ar wahân—

(a)y papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a

(b)y papurau pleidleisio a wrthodwyd (gan gynnwys y papurau pleidleisio a wrthodwyd yn rhannol).

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau beidio ag agor unrhyw becyn a seliwyd o dan reol 51(3) sy’n cynnwys papurau pleidleisio a dendrwyd.

(4Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau beidio ag agor unrhyw becynnau a seliwyd o dan reol 51(3) sy’n cynnwys—

(a)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd,

(b)copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestrau dirprwyon;

(c)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).

Danfon dogfennau i’r swyddog cofrestru mewn etholiadau lle ceir gornest

66.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi selio’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd a’r papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan reol 65(2).

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon y dogfennau a ganlyn at swyddog cofrestru’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cynhelir yr etholiad yn ei ardal—

(a)y pecynnau o bapurau pleidleisio sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau;

(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 51(5);

(c)y datganiadau o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd a baratowyd o dan reol 60(7);

(d)y datganiadau o ganlyniad dilysiad y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 55(6);

(e)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestr pleidleiswyr post a’r rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy.

(3Pan fo’r swyddog canlyniadau yn swyddog canlyniadau cydlynol hefyd, rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd anfon y dogfennau a ganlyn at swyddog cofrestru’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cynhelir yr etholiad yn ei ardal—

(a)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn—

(i)y rhestrau pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);

(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);

(iii)y rhestrau pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion (gweler rheol 45);

(iv)y rhestrau pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);

(v)y rhestrau a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais);

(b)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd;

(c)y pecynnau sy’n cynnwys copïau a farciwyd o gofnodion cofrestru a rhestrau dirprwyon;

(d)y pecynnau sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).

Dangos etc. dogfennau

67.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys mewn perthynas â’r dogfennau a ganlyn pan fyddant ym meddiant y swyddog cofrestru (ar ôl cael eu hanfon o dan reol 66)—

(a)papurau pleidleisio a wrthodwyd ac a gyfrifwyd;

(b)pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd;

(c)pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).

(2Caiff llys sirol wneud unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion a ganlyn, os yw wedi ei fodloni gan dystiolaeth ar lw fod angen y gorchymyn er mwyn naill ai cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio neu at ddibenion deiseb etholiad—

(a)gorchymyn i archwilio neu ddangos unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gan gynnwys unrhyw bapurau pleidleisio a wrthodwyd yn rhannol);

(b)gorchymyn i archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;

(c)gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—

(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu

(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5);

(d)pan wneir gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd o dan is-baragraff (c), gorchymyn i archwilio neu ddangos y cyfan neu ran o’r cynnwys.

(3Caiff llys etholiad wneud—

(a)gorchymyn i archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;

(b)gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—

(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu

(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5);

(c)pan wneir gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd o dan is-baragraff (b), gorchymyn i archwilio neu ddangos y cyfan neu ran o’r cynnwys.

(4Caniateir i orchymyn o dan y rheol hon gael ei wneud yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn y mae’r llys yn credu eu bod yn briodol—

(a)amodau ynglŷn â phersonau;

(b)amodau ynglŷn ag amser;

(c)amodau ynglŷn â’r lle archwilio a’r dull archwilio;

(d)amodau ynglŷn â dangos neu agor.

(5Rhaid i lys, wrth wneud gorchymyn o dan y rheol hon i archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd, osod unrhyw amodau o dan baragraff (4) y mae’r llys o’r farn eu bod yn briodol i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—

(a)bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a

(b)bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.

(6Rhaid i unrhyw berson sy’n rhoi ei effaith i orchymyn o dan y rheol hon i archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd gymryd gofal i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—

(a)bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a

(b)bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.

(7At yr Uchel Lys y cyfeirir apêl sy’n deillio o orchymyn llys sirol o dan y rheol hon.

(8Caniateir i bwerau llys sirol o dan y rheol hon gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor o farnwyr y llys heblaw mewn llys agored.

(9Ac eithrio fel y darperir gan y rheol hon, ni chaiff neb—

(a)archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd neu a gyfrifwyd;

(b)agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—

(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu

(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).

Gorchmynion i ddangos etc. dogfennau: darpariaeth atodol

68.—(1Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan wneir gorchymyn o dan reol 67 i swyddog cofrestru ddangos dogfen sydd ym meddiant y swyddog cofrestru ac sy’n ymwneud ag etholiad a bennwyd yn y gorchymyn.

(2Mae dangos y ddogfen gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru yn y modd a gyfarwyddwyd gan y gorchymyn yn dystiolaeth bendant bod y ddogfen yn ymwneud â’r etholiad a bennwyd.

(3Os bydd pecyn o bapurau pleidleisio sydd ag arnodiad ar y pecyn yn cael ei ddangos gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru i gydymffurfio â’r gorchymyn, mae’r arnodiad yn dystiolaeth prima facie mai’r papurau pleidleisio yw’r hyn y mae’r arnodiad yn dweud eu bod.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo swyddog cofrestru neu asiant swyddog cofrestru, er mwyn cydymffurfio â gorchymyn o dan reol 67, wedi dangos—

(a)papur pleidleisio sy’n honni ei fod wedi ei ddefnyddio mewn etholiad, a

(b)rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd a oedd yn cael ei defnyddio yn yr etholiad, gyda rhif wedi ei farcio mewn ysgrifen wrth ochr rhif y papur pleidleisio hwnnw ar y rhestr.

(5Mae dangos y papur pleidleisio a’r rhestr yn dystiolaeth prima facie mai’r etholwr y rhoddwyd ei bleidlais gan y papur pleidleisio hwnnw oedd y person yr oedd ei gofnod adeg yr etholiad yn y gofrestr etholwyr, neu ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, yn cynnwys yr un rhif â’r rhif a ysgrifennwyd ar y papur pleidleisio.

Cadw a dinistrio dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestru

69.—(1Rhaid i’r swyddog cofrestru gadw’r holl ddogfennau a anfonwyd o dan reol 66 am gyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daethant i law’r swyddog cofrestru.

(2Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o flwyddyn, rhaid i’r swyddog cofrestru beri i’r dogfennau gael eu dinistrio oni chyfarwyddir fel arall gan orchymyn llys sirol, Llys y Goron, llys ynadon neu lys etholiad.

Dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref gan y swyddog canlyniadau

70.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddinistrio ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd—

(a)drannoeth y 35ain diwrnod ar ôl i’r swyddog canlyniadau ddychwelyd enwau’r cynghorwyr a etholwyd, oni bai bod deiseb etholiad sy’n amau etholiad neu ddychweliad ymgeiswyr yn cael ei chyflwyno cyn y diwrnod hwnnw;

(b)os cyflwynir deiseb etholiad sy’n amau etholiad neu ddychweliad cynghorwyr cyn y diwrnod hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r achos ynglŷn â’r ddeiseb ddod i ben (gan gynnwys achos yr apêl, pan geir apêl).

(2Er mwyn penderfynu ar y diwrnod y mae’n rhaid dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref ymgeiswyr, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig.

RHAN 6Marwolaeth Ymgeisydd

Diddymu pleidlais neu roi’r gorau iddi ar ôl i ymgeisydd farw

71.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, mewn etholiad lle ceir gornest, wedi ei fodloni cyn i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan fod un o’r personau a enwyd neu sydd i’w enwi yn ymgeisydd yn y papurau pleidleisio wedi marw.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddiddymu hysbysiad y bleidlais neu, os yw’r pleidleisio wedi dechrau, rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfarwyddo rhoi’r gorau i’r bleidlais ac ni chaniateir dyroddi rhagor o bapurau pleidleisio.

(3Nid yw diddymu’r bleidlais neu gyfarwyddyd i roi’r gorau iddi yn effeithio ar y bleidlais mewn unrhyw etholiad perthnasol.

(4Pan fo’r bleidlais wedi ei chau ym mhob etholiad perthnasol, rhaid i’r swyddog llywyddu mewn unrhyw orsaf bleidleisio sy’n cael ei defnyddio yn yr etholiad gymryd y camau (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd) y byddai’n ofynnol i’r swyddog llywyddu eu cymryd o dan reol 51 pe na buasid wedi rhoi’r gorau i’r bleidlais yn etholiad y gymuned, ac eithrio nad oes angen i’r swyddog llywyddu baratoi cyfriflen papurau pleidleisio.

(5Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd) y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu cymryd o dan Ran 4, ac eithrio—

(a)na chaniateir i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â chyfrif unrhyw bapurau pleidleisio na phleidleisiau sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi, a

(b)nad oes angen dilysu unrhyw gyfriflen papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r bleidlais honno.

(6Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)derbyn unrhyw bapurau pleidleisio neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi y caniateir eu danfon gan neu ar ran y swyddog canlyniadau cydlynol, ond

(b)peidio â bwrw ymlaen fel arall ag unrhyw gam o dan Ran 4 sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd yr un camau ag y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu cymryd o dan reolau 65 a 66 ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau (pe na buasid wedi rhoi’r gorau i’r bleidlais), ac eithrio—

(a)bod rhaid i’r swyddog canlyniadau selio’r holl bapurau pleidleisio (p’un a yw’r pleidleisiau arnynt wedi eu cyfrif ai peidio), a

(b)nad oes angen selio papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd mewn pecynnau ar wahân.

(8Mae darpariaethau rheolau 67 i 69 yn gymwys i bapurau pleidleisio a dogfennau eraill sy’n ymwneud â phleidlais y rhoddwyd y gorau iddi oherwydd marwolaeth ymgeisydd, ac eithrio—

(a)bod papurau pleidleisio na chafodd y pleidleisiau arnynt eu cyfrif na’u gwrthod i’w trin fel papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a

(b)y caniateir i orchymyn gael ei wneud o dan reol 67(2) neu (3) er mwyn cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio yn unig.

(9O ran yr hyn sy’n digwydd ar ôl i hysbysiad o bleidlais gael ei ddiddymu neu ar ôl rhoi’r gorau i bleidlais, gweler adran 39 o Ddeddf 1983.

ATODIADAUNodyn: Caniateir i’r ffurflenni a geir yn yr Atodiadau hyn gael eu haddasu i’r graddau y bo’r amgylchiadau’n gofyn.

(1)

O.S. 2001/341. Diwygiwyd rheoliad 65 gan baragraff 16(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

(2)

2000 p. 22. Diwygiwyd adran 44 gan baragraff 18(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. I’r graddau y maent yn arferadwy o fewn cymwysedd datganoledig, trosglwyddwyd swyddogaethau Gweinidog y Goron o dan adran 44 i Weinidogion Cymru gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644), ac Atodlen 1 iddo.