Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
14 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2021.
2.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 22 mewnosoder—
23.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2), 10(2) ac 11(2);
(b)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;
(c)i’r ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol yn erthygl 13(1);
(d)i’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14(2);
(e)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad ADY yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 14(3).
(2) Nid yw’r ddyletswydd neu’r pŵer yn gymwys os yw’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol priodol (yn ôl y digwydd) yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.”
3.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 20 mewnosoder—
21.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2), 10(2) ac 11(2);
(b)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;
(c)i’r ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1);
(d)i’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14(2).
(2) Nid yw’r ddyletswydd neu’r pŵer yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
14 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 i wneud darpariaeth ynghylch galluedd plant. Mae hyn yn adlewyrchu adran 84 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 sy’n darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol yn y Ddeddf honno mewn perthynas â phlant (e.e. i roi copi o gynllun datblygu unigol i blentyn) yn gymwys os ystyrir nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.