Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1407 (Cy. 366)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 1.43 p.m. ar 10 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 3.55 p.m. ar 10 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021.

(2Daw rheoliad 2(2) i rym ar 15 Rhagfyr 2021.

(3Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym ar 11 Rhagfyr 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 16A—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder “neu”;

(ii)hepgorer “neu” ar ôl is-baragraff (c);

(iii)hepgorer is-baragraff (d);

(b)hepgorer paragraff (7).

(3Yn rheoliad 20, ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) At ddibenion paragraff (1), nid yw—

(a)awditoriwm theatr, sinema neu neuadd gyngerdd, na

(b)ardal wylio arena neu stadiwm o dan do,

i’w trin fel mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.

(6) At ddibenion paragraff (1), mae cerbyd i’w drin fel ardal gyhoeddus o dan do mangre pan fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer—

(a)hyfforddiant am dâl mewn gyrru car modur yn unol ag adran 123 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(3), neu

(b)prawf cymhwysedd gyrru fel y disgrifir “test of competence to drive” yn adran 89(1)(a)(i) o’r Ddeddf honno.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 1.43 p.m. ar 10 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”). Ceir tri newid.

Mae’r cyntaf yn newid cymhwystra i fod yn bresennol mewn mangreoedd penodol o dan reoliad 16A (a adwaenir yn gyffredin fel “pàs COVID”) er mwyn eithrio imiwnedd naturiol (canlyniad positif o brawf adwaith cadwynol polymerasau a gymerir gan y person ddim mwy na 180 o ddiwrnodau a ddim llai na 10 niwrnod cyn mynd i’r fangre). Mae hyn yn golygu nad yw pasys ar gael yn gyffredinol ond i’r rheini sydd wedi eu brechu neu sydd wedi cael canlyniad negyddol o brawf cymhwysol a gymerir o fewn 48 awr i fynd i’r fangre.

Mae’r ail yn ei gwneud yn glir, mewn perthynas â’r gofyniad (presennol) i wisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd cyhoeddus o dan do, nad yw awditoriwm theatr, sinema neu neuadd gyngerdd nac ardal wylio arena neu stadiwm o dan do i’w trin fel mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre. Mae hyn yn golygu bod rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yn yr ardaloedd hyn oni bai bod un o’r esemptiadau yn rheoliad 20(2) o’r prif Reoliadau yn gymwys.

Mae’r trydydd yn diwygio’r diffiniad o ardal gyhoeddus o dan do i gynnwys car sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwers yrru am dâl neu brawf gyrru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.